Y prifardd Gruffudd Owen yn rhoi 'darlun gonest' o fod yn rhiant i fab awtistig

- Cyhoeddwyd
Mae'r prifardd Gruffudd Owen wedi ysgrifennu drama radio Yr Oriau Mân yn seiliedig ar ei stori bersonol fel rhiant i blentyn awtistig. Yma mae'n rhannu ei siwrne ef a'i deulu gyda Cymru Fyw.
Goroesi chwe blynedd anodd
Mae ein mab hynaf ni yn awtistig. Mae o'n wyth mlwydd oed ond tydi o ddim yn medru siarad. Rydw i, ei fam a'i frawd bach yn rhannu'n bywydau efo'i egni cariadus, direidus, mwythlyd, oriog, swnllyd a gwyllt.
Rydan ni'n ei garu o'n racs, wrth reswm. Ond nid dyma'r bywyd roedden ni wedi ei ragweld ar gyfer ein teulu ni.
Yn fy nrama radio ddiweddar Yr Oriau Mân ar BBC Sounds rydw i'n trio rhoi cip i'r gynulleidfa ar y lefel o ofal.
"Y TAD: Mae 'na wastad lanast i'w glirio ar ei ôl o, pethau arbenigol i'w prynu, meddyginiaeth i'w chwalu'n bowdwr, dillad i'w golchi, cyfarfodydd i'w trefnu, lot o lanast, penwythnosau a gwyliau i'w llenwi efo gweithgareddau, trychinebau i'w hosgoi, ymddiheuro i bobol ddiarth, uffar o lot o lanast, nadu fo rhag gneud petha perig… mae o fel rhedag marathon bob dydd."
Mae 'na lot o oriau i'w llenwi yn y dydd, ac mae hynny gan gymryd ei fod o'n cysgu'n y nos. Weithiau mae o'n penderfynu deffro am y dydd am un y bore.
Pan fydd hynny'n digwydd rydw i'n tueddu i'w gario fo i'r car (ac wn i ddim am ba hyd fedra i ddal i wneud hyny) ac yn gyrru o amgylch Caerdydd yn yr oriau mân fel bod gweddill y teulu yn cael llonydd i gysgu. Mae o hefyd yn gyfle i ni'n dau brofi gogoniant drive thrus 24 awr yn ein pajamas.
Ond pan fydd pobl yn fy holi i 'sut mae'r plant?' fel arfer dwi'n ateb efo rwbath fel: 'Iawn diolch! Cadw ni'n ddigon prysur de?!'.

Recordio Yr Oriau Mân
Dwi'n gwybod mod i'n bod yn llwfr, ond mae bod yn gwbl onest yn anodd, hyd yn oed efo teulu a ffrindiau agos. Mae pobl isio dychmygu fod bob dim yn iawn a bod profiadau pawb o rianta mwy neu lai'r un fath. Dyna pam bod y baich ar ofalwyr yn aml yn anweledig mewn cymdeithas. Weithiau mae sgwennu am brofiad yn haws na chael sgwrs.
Mae hi wedi bod yn chwe blynedd anodd, ond mi rydan ni wedi goroesi, rhywsut. Rhywbeth helpodd mi i ddygymod ydi mod i wedi ffeindio ryw reidrwydd i ysgrifennu am y profiad.
Yn 2023 mi gyhoeddais i gyfrol o gerddi oedd yn cofnodi rhai o heriau cael plentyn gydag anabledd. Aeth Mymryn Rhyddid yn ei blaen i ennill categori barddoniaeth gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Mi ges i hefyd wahoddiad i gyfranu ysgrif i'r gyfrol Dynol Iawn oedd yn trafod profiad pobl o fyw gydag awtistiaeth ac ADHD. Mi nes i benderfynu ddefnyddio'r ysgrif honno fel ysbrydoliaeth i lunio drama radio ffeithiol greadigol i BBC Radio Cymru o'r enw Yr Oriau Mân.
Darlun gonest
Mae'r ddrama yn cofnodi un o'r teithiau hwyrol y tad a'r mab, y tro hwn pan maen nhw'n aros gyda rhieni'r tad ym Mhwllheli . Gyda dim drive thrus 24 awr ym Mhen Llŷn mae'r tad yn gyrru i Uwchmynydd i edrych allan ar Enlli ac i fyfyrio ar ei fab ac i gwestiynu os ydi'r Duw nad ydi o'n credu ynddo yn ei gosbi am beidio â chredu ynddo mwyach.
"Y TAD: Sa fo jyst y math o beth shiti y basa hwnnw yn ei wneud hefyd. Taro fy mab cyntaf anedig yn fud. Jyst y peth i sbeitio siaradwr iaith leiafrifol."

Victoria Pugh (actores), Gruffudd Eifion Owen, Ffion Emlyn (cynhyrchydd), Lois Meleri (actores)
Rhiant i fab sy'n haeddu byd sy'n garedig iddo
Er mwyn creu ryw fath o bellter rhyngof fi a'r ddrama rydw i'n cyfeirio at y cymeriadau fel 'Y Fam' ac 'Y Tad', ac at y mab fel 'Pwtyn'…
Bu Ffion Emlyn, y cynhyrchydd, yn help garw wrth hel yr holl elfennau at ei gilydd i greu tirlun sain oedd yn gweddu i'r ddrama. Mi gawsom ni'r actorion gwych Victoria Pugh a Lois Meleri Jones i actio rhannau'r Fam a chymeriadau eraill y ddrama.
Gan mai fy stori i oedd hi mi ges i fy nghastio i chwarae rhan y Tad, ac yn ystod y recordiad mi ges i'r profiad swreal o atgynhyrchu sgyrsiau roeddwn i wedi eu cael go iawn efo fy ngwraig – rhai ohonyn nhw yn sgyrsiau anodd iawn.
"Y TAD: Sori am ddifetha dy fywyd di.
Y FAM: Mae'n iawn. Sori am ddifetha dy fywyd di."
Roeddwn i'n benderfynol o roi darlun gonest o'n bywydau ni, waeth pa mor gignoeth neu anghyfforddus oedd hynny ar brydiau.
Mae llwyth o bobl wedi cysylltu efo mi ers i'r ddrama gael ei darlledu yn Rhagfyr 2025, gan gynnwys ambell i ffrind yn cydnabod nad oeddan nhw wedi llawn werthfawrogi natur y baich oedd ar ein teulu ni cyn gwrando ar y ddrama.
Mantais drama radio hefyd ydi ei bod hi ar gael ar alw yn rhad ac am ddim. Gall rhywun wrando arni wrth fynd a'r ci am dro, neu lanhau'r tŷ neu hyd yn oed fel y gwnes i yn ddiweddar, wrth yrru yn yr oriau mân gyda fy mab yn y sedd gefn.
Mae fy mab yn blentyn sydd angen, ac fydd wastad angen lot o ofal a chefnogaeth i oroesi'r hen fyd 'ma.
Mae o hefyd yn haeddu byd sydd yn garedig iddo fo ac i'w deulu.
Os ydi'r ddrama hon yn helpu i wneud hynny, drwy daflu goleuni ar brofiad y gofalwyr anweledig hynny, mi fedra i fod yn falch iawn fy mod i wedi ei hysgrifennu hi.
Gwrandewch ar:
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.