Y Cymro sy'n gyrru 2500 milltir i ddosbarthu nwyddau... cyn cychwyn nôl adref

Cefyn Davies o flaen lori enfawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Os ydi teithio o'r de i'r gogledd ar hyd yr A470 yn teimlo'n hir, cofiwch am Cefyn Davies....

Mae'r Cymro ar y ffordd am bythefnos gyfan yn teithio 5,000 o filltiroedd ar draws America ac yn ôl adref fel rhan o'i waith.

Ers blynyddoedd mae'n gyrru lorïau anferth o Ganada i Galifornia neu i'r ffin efo Mecsico, a hynny ymhob tywydd.

Ac oherwydd ei fywyd ar y lôn ei unig gartref tan yn ddiweddar ydi cab ei lori.

Cefyn Davies yn sedd y gyrwrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cefyn Davies yn ei gab

Yn wreiddiol o Lanberis, ar ôl gadael ysgol fe ddechreuodd yrru faniau a lorïau i gwmnïau lleol cyn cael trwydded HGVs.

Cludo nwyddau ar draws Prydain, Iwerddon ac Ewrop oedd o wedyn am flynyddoedd a chael y llysenw Cefyn Bont Isel wedi iddo gael damwain oherwydd bod ei gerbyd fymryn rhy uchel ar un ffordd yn Lloegr.

Yna dros ddegawd yn ôl fe wnaeth sgwrs mewn tafarn yn ei bentref genedigol arwain at newid cyfeiriad.

Meddai wrth Cymru Fyw: "O'n i'n siarad efo rhywun yn yr Heights wnaeth ddeud bod ganddi ffrind yn Canada oedd yn dreifio loris. Neshi gael details y boi a cysylltu a nath o ddeud wrtha fi i fynd drosodd a fasa 'na ddim problem cael job.

"Roedd o jest yn drunken decision ryw nos Sadwrn, un o'r meddylia gwirion ti'n cael pan ti 'di bod allan.

"Neshi ddeud wrth Mam diwrnod wedyn 'Dwi'n mynd i Canada i weithio'."

Lori Cefyn mewn eiraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cefyn eu bod nhw'n cael eira mawr yng Nghanada a rhannau o'r UDA ond bod y lonydd yn cael eu clirio'n sydyn a'u graeanu'n gynnar

A dyna wnaeth o. Yn 2014 aeth yno i weithio am flwyddyn gan fod diffyg gyrwyr loriau yno. Daeth yn ôl i Gymru am gyfnod cyn dychwelyd i Ganada yn 2019 ac mae o yno byth ers hynny.

Am flynyddoedd roedd yn mynd â bob math o nwyddau o Toronto i leoliadau ar draws yr UDA. Roedd o'n cario dur ar gyfer y diwydiant ceir i Laredo, sydd ar y ffin rhwng Texas a Mecsico, a camperfans i California - ac yn dod â llond lori o gynnyrch yn ôl.

Mae ei lori yn 75 troedfedd - 25 troedfedd yn hirach na'r lorïau ym Mhrydain - ac maen nhw'n lletach hefyd.

Cario ty drwy stryd yn AmericaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai Cefyn yn cael trafferth cario'r llwyth yma drwy ei bentref genedigol...

"Os faswn i'n dod â lori fi adra i Gymru faswn i methu ffitio drwy Llanberis - neu faswn i ar y pafin yn bob man," meddai.

"Dwi'n gweithio trwy'r flwyddyn, bob tywydd. Mae'n cymryd pedwar diwrnod a hanner i fynd o Toronto i Los Angeles, a ti'n mynd trwy lefydd fel Wyoming lle mae'r tywydd yn gallu bod yn ofnadwy. Mae o fel four seasons in one day go iawn.

"Ar ôl cyrraedd ti'n cael gwybod be' 'di'r llwyth ti'n dod 'nôl - o'n i'n cario lot o sement i bylla nofio. Gen ti un neu ddau ddiwrnod i gael y llwyth ac wedyn mae'n bedwar diwrnod a hanner i fynd 'nôl.

"Ti'n gorfod cael stop am 36 awr i neud siŵr ti'm yn mynd dros dy oriau, felly ma'n cymryd tua bythefnos i gyd."

Tryc Cefyn yn cario camperfansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cefyn yn mynd efo llwyth camperfans ar draws yr UDA lle mae rhai ardaloedd yn hollol fflat am filltiroedd lawer

Gan ei fod o unai'n gweithio neu'n gorfod cymryd saib 36 awr cyn ail ddechrau ar ei daith, mae o wedi byw yn ei lori ers wyth mlynedd. Mae'n cysgu mewn gwely yn y cab lle mae ganddo hefyd ficrodon, teledu a thegell.

Rhwng y cab, 'truck stops' ar y lôn sy'n cynnig bwyd a chawod i ddreifars ac ambell i noson mewn gwesty neu ar soffa ffrind tydi o heb fod angen fflat neu dŷ.

"Mae'n gallu bod yn ofnadwy o unig," meddai. "Pan ti 'di mynd heibio Chicago mae o'n hollol fflat a gwag am filltiroedd a milltiroedd - yr unig beth ti'n weld ydi trêns a gwartheg."

Ar y teithiau yma mae ei gyflog yn dibynnu ar y gwaith - sawl milltir mae'n gyrru, sawl ffin mae'n croesi a sawl gwaith mae'n llwytho a dadlwytho.

Mae'n dweud ei fod wedi gweld newid yn y wlad a'r swydd ers ei gyfnod yno. Mae trethi Donald Trump wedi effeithio ar faint o waith mae ei gwmni yn ei gael ac mae'n dweud bod 'na fwy o yrwyr gwael ar y ffordd y dyddiau yma.

Oherwydd hynny - a'r ffaith ei fod wedi cael llond bol ar fywyd ar y lôn - mae o newydd ddechrau gweithio yn fwy lleol i'r cwmni a chael fflat am y tro cyntaf erioed.

Cefyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cefyn yn ôl yn Llanberis dros gyfnod y Nadolig, cyn dychwelyd i Ganada fis Ionawr

"Rŵan dwi mond yn gweithio yn Canada - dwi isio bywyd," meddai. "O'n i jest wedi byw yn y lori am wyth mlynedd - neu 20 mlynedd ers fi ddechra ar y loris - a rŵan fydd gen i appartment ac yn gallu bod adra bob nos a weekends a neud pethau.

"Alla i chwarae golff efo'r hogia neu mynd am dro i sioeau ceffylau neu mynd i weld hoci felly fydd o'n newid mawr."

Ond tydi o ddim yn difaru ei holl flynyddoedd ar y lôn.

"Dwi 'di gweld lot ers dwi 'di bod yn dreifio - dwi 'di bod ar draws Ewrop, Iwerddon, Alban, a rŵan Canada ac America.

"Dwi 'di bod yn bob state heblaw Alaska a Hawaii.

"Mae bob un yn lliw gwahanol. Mae Illinois yn le gwyrdd iawn, a ma' Nebraska yn felyn fel bod o wedi llosgi, a California - wel mae o jest yn dywod.

"Dwi'n prynu fridge magnet yn bob state dwi 'di bod. Ma' drws fridge Mam yn llawn ohonyn nhw rŵan."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig