Siopau llyfrau'n hanfodol bwysig ond yn fregus - adroddiad

Mae 116 o siopau llyfrau yng Nghymru, a 64 o'r rheiny'n siopau annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae siopau llyfrau'n chware rhan hanfodol wrth gynnal yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig mewn cymunedau, yn ôl adroddiad newydd sy'n cynnwys ymchwil "digynsail".
Mae 116 o siopau llyfrau yng Nghymru ar hyn o bryd, a 64 ohonyn nhw'n siopau annibynnol - cynnydd sylweddol ers 2017.
Ond mae Cymdeithas y Llyfrwerthwyr - a baratôdd yr adroddiad newydd yn seiliedig ar yr arolwg mwyaf o lyfrwerthwyr yng Nghymru - yn rhybuddio bod y sefyllfa'n fregus oherwydd costau uwch a'r pwysau ar y stryd fawr.
Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mercher, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ei groesawu ac yn bwriadu "ystyried eu hargymhellion".
'Angen pob cefnogaeth'
Roedd 72% o'r llyfrwerthwyr a gafodd eu holi yn dymuno cael mwy o fynediad at grantiau er mwyn cefnogi a gwella eu gwaith yn y gymuned.
Dywedodd 68% eu bod yn poeni am yr amser sydd ei angen er mwyn gwneud cais am grant, ac 20% oedd wedi llwyddo ar ôl gwneud cais am arian cyhoeddus.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod y siopau'n gweithredu fel clybiau cymdeithasol pwysig ac yn help mawr mewn sawl maes - llythrennedd plant, cefnogi elusennau lleol, hyrwyddo awduron a beirdd o Gymru, a bod yn gonglfaen i'r iaith Gymraeg.
Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr gwasg Y Lolfa, Garmon Gruffudd bod "llyfrwerthwyr yn hollol hanfodol i'r gweisg".
"Yn y siopau llyfrau mae'r rhan fwya' o'r gwerthiant, yn enwedig yn y Gymraeg.
"Mae'r siopau yn ganolfannau pwysig lle mae'r iaith yn weledol ac i'w chlywed, ac yn fy marn i ma' angen pob cefnogaeth arnyn nhw."

Mae siop lyfrau yng nghanol Tŷ Tawe yn gwneud y ganolfan yn "hwb gymunedol" meddai prif weithredwr Menter Iaith Abertawe
Mae siop lyfrau yn rhan o ganolfan Tŷ Tawe yn Abertawe, a dywedodd prif weithredwr menter iaith y ddinas, Tomos Jones bod y siop "yn gwneud y ganolfan yn hwb gymunedol".
"Ma' gyda ni glwb darllen misol, a bydd pobl yn prynu llyfrau i drafod dros sgwrs yn y caffi," meddai.
"Ma' gyda ni sioeau a digwyddiadau i blant a theuluoedd a bydd pobl yn prynu llyfrau fanna.
"Mae'r elfen gymunedol yn bwysig iawn iawn i ni."

Mae Jo Knell yn dweud bod siop Cant a Mil yn mynd o nerth i nerth
Yn ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd mae Jo Knell, enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn 1991, yn dweud bod ei siop hi Cant a Mil yn mynd o nerth i nerth.
"Dwi ishe i'r siop fod yn lle i bobl ddod i siarad Cymraeg a ffeindio mas mwy am y Gymraeg a chymdeithasu yn Gymraeg," meddai.
"Ry'n ni yn helpu pobl gyda mynediad i'r Gymraeg bob dydd yn y siop ac yn sgwrsio ac ateb cwestiynau.
"Dyma yn aml eu pwynt mynediad cynta' a chysylltiad â'r iaith."
Cyfle i siarad Cymraeg tu hwnt i'r dosbarth
Mae Ysgol Mynydd Bychan o fewn tafliad carreg i Cant a Mil.
Dywedodd athro yn yr ysgol, Tomos Rogers, fod y siop fel "hwb o Gymreictod i'r ardal".
"Ma' cael siop lyfrau fel hyn yn wych ger yr ysgol," meddai.
"Bydd Jo yn trafod gyda rhieni sy' efallai'n ystyried addysg Gymraeg ac mae'n aml yn eu cyfeirio at addysg Gymraeg a'n hysgol ni.
Ychwanegodd fod y siop "yn wych i'r plant hefyd", ac yn cynnig cyfle iddyn nhw "siarad Cymraeg y tu hwnt i'r dosbarth, sydd mor bwysig mewn cymuned fel hon".

Mae Tomos Rogers yn credu bod siop Cant a Mil yn help mawr i Gymreictod yr ardal yng Nghaerdydd
Mae perchnogion siopau llyfrau'n dweud eu bod wedi gweld twf yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol yn dilyn y cyfnod clo gyda mwy yn darllen, neu fod mwy yn mynychu digwyddiadau mewn siopau llyfrau.
Mae arolwg y llyfrwerthwyr yn nodi ystadegau sy'n dangos, medden nhw, gwerth siopau llyfrau mewn trefi a dinasoedd.
Roedd pob siop a gymerodd ran yn yr arolwg yn cynnal digwyddiadau ar gyfer y gymuned leol.
Roedd 93% yn trefnu digwyddiadau gydag awduron yn bresennol, 71% yn cefnogi elusennau lleol, 64% yn trefnu ffeiriau llyfrau mewn ysgolion, a 57% yn rhedeg clybiau llyfrau neu grwpiau darllen.
Er bod y Gymdeithas Llyfrwerthwyr yn croesawu'r sefyllfa o ran llwyddiant siopau llyfrau ar y funud, maen nhw'n nodi fod gwerthwyr yn wynebu heriau.
Fel pawb arall ar y stryd fawr, mae costau'n cynyddu o ystyried cynnal busnes a threthi busnes.
Eu pryder yw y gallai hyn danseilio llwyddiant y siopau.
'Mwy o gefnogaeth yn hanfodol'
O ganlyniad, maen nhw'n galw am sefydlu "taleb diwylliant" gwerth £250 i bobl ifanc rhwng 16 ac 21 oed.
Maen nhw'n dweud bod hyn yn seiliedig ar lwyddiant cynlluniau tebyg yn Ewrop, y byddai'n helpu i annog pobl ifanc i fwynhau diwylliant ac yn hwb i'r celfyddydau a llenyddiaeth.
Mae'r gymdeithas hefyd yn galw am ddiwygio trethi busnes yng Nghymru a thargedu help ar gyfer siopau llyfrau ar y stryd fawr.
Maen nhw'n credu y dylai siopau llyfrau newydd gael yr hawl i beidio â thalu treth fusnes am dair blynedd.
"Mae mwy o gefnogaeth yn hanfodol," meddai Laura McCormack o'r gymdeithas.
"Dyw cyfraniad eang y llyfrwerthwyr i fywyd creadigol yng Nghymru ddim wastad yn cael ei gydnabod.
"Byddai polisïau sydd wedi eu targedu, fel 'taleb diwylliant' yn cynyddu potensial siopau llyfrau fwy fyth."
'Angen cydnabod cyfraniad siopau llyfrau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Siop y Pethe yn Aberystwyth i werthu ar-lein yn unig
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
Peryg i awduron droi at y Saesneg yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn croesawu adroddiad Cymdeithas y Llyfrwerthwyr" ac y byddan nhw'n "ystyried eu hargymhellion ac yn ymateb maes o law".
"Mae ein blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cydnabod pwysigrwydd diwallu anghenion a dyheadau diwylliannol plant a phobl ifanc.
"Yn 2025-2026, fe wnaethom ddarparu dros £500,000 i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at brofiadau diwylliannol drwy ymweliadau ysgol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.