Y Cyfweliad: 'Dydi pobl ag anableddau dysgu ddim yn dwp'

Mair yn holi Bronwen Lewis
- Cyhoeddwyd
O ofyn i Dafydd Iwan beth yw mêc ei beiriant golchi, i sylwadau am siwmper Elin Fflur, i gwestiynau treiddgar am effaith ADHD ar y gantores Bronwen Lewis, mae gwylwyr Y Cyfweliad ar S4C wedi chwerthin a chrïo dros yr wythnosau diwethaf.
Yn y gyfres, bu criw o holwyr chwilfrydig awtistig, niwrowahanol a phobl sydd ag anghenion dysgu yn cyfweld â rhai o sêr Cymru am bob math o bynciau.
Ond mae'n deg dweud mai sêr go iawn y gyfres yw'r holwyr. Gyda'r gyfres newydd ddod i ben ond ar gael i'w gwylio ar BBC Iplayer, Cymru Fyw gafodd sgwrs gyda rhai o'r holwyr sef Mair, Fflur a Jac.
Mair: 'Dydi pobl ag anableddau dysgu ddim yn dwp'
Dwi wedi gwneud ffrindia' am byth 'wan. Ro'n i bach yn nyrfys i ddechra' wrth ddod i adnabod yr holwyr eraill ond wnes i ddod i arfer gyda phawb a rydan ni gyd fel un teulu mawr.
Mae'n lyfli gweld pobl efo awtistiaeth, sy'n niwrowahanol neu efo anableddau dysgu yn cael y cyfleoedd yma ar S4C a faswn i'n licio gweld hynny'n amlach. Dwi'n mynd mor emosiynol yn siarad am hyn i gyd gan mod i wedi gweld yr holwyr yn dod allan o'u cragen yn y broses ffilmio.
Os ydach chi efo breuddwyd peidiwch rhoi fyny os ydach chi os ydach chi efo anableddau dysgu. Dydach chi ddim yn dwp, 'dach chi'n arbennig.

Mair a Mike Phillips - un o'r selebs
Hefyd, dwi'n meddwl ei fod o'n beth da fod pobl enwog yn dod i wybod be' ydi anabledda dysgu, a'u bod nhw'n gallu bod y pobl clyfra a mwya' thalentog y gwnewch chi ddod i adnabod.
Faswn i'n licio i un o'r selebs yn y gyfres nesaf fod gydag anableddau dysgu eu hunain er mwyn dangos sut maen nhw wedi llwyddo mewn bywyd.
Fflur: 'Dydi pobl ddim yn dalld fod y sbectrwm yn llydan iawn'
Dwi'n 30 oed a 'nes i ddalld 'mod i'n awtistig pam o'n i'n 24 mlwydd oed. O'n i wedi mynd trwy'r ysgol a'r brifysgol ddim yn dalld pam o'n i yn wiyrd, pam do'n i ddim yn ffitio mewn ac yn mynd yn overstimulated efo petha'.

Fflur yn canu ar Y Cyfweliad
Yna yn ystod Covid, do'n i ddim o gwmpas neb a nath masg fi ddod i ffwrdd. Ro'n i'n anxious ac yn depressed a ro'n i'n meddwl mai dyna oedd yn bod achos pam ti'n cael autistic meltdown mae'r symptomau yn debyg.
Roedd fy rhieni yn gwybod 'mod i'n awtistig ers 'mod i'n blentyn, a cyn i fi fynd at y doctor roedd Mam wedi gyrru erthygl i fi yn trio hintio fi at y peth. Wnaethon nhw fy ngwarchod i rhag cael label achos oeddan nhw'n poeni y bysa'r ysgol wedi fy nhrin i yn wahanol a fel person llai galluog.
Roedd ffeindio allan yn sioc, wnes i grio am fisoedd ond roedd o hefyd fel rhoi sbectol gyda'r persgripsiwn cywir ymlaen. Roedd bob dim yn gwneud sens a wnes i sylwi mai dim bai fi ydi o 'mod i wedi fy weirio yn wahanol.

Ffilimio Y Cyfweliad
Dros y blynyddoedd dwi wedi dysgu masgio i guddio'r awtistiaeth. Wna i sbio mewn i llygaid rhywun am eiliad cyn sbio i ffwrdd, dwi'n rhoi dynamig i sut dwi'n siarad – i fyny ac i lawr. Go iawn, mi fasa'n well gen i siarad yn monotone.
Os faswn i'n cael ffordd fy hun ac yn eistedd yng nghanol criw o bobl, mi faswn i yn eistedd yno heb ddweud dim a jest yn gwrando i mewn ar bawb fel faswn i yn gwrando i mewn i bodcast, that would be my best life.
Ond mae pobl awtistig wedi arfer byw eu bywydau yn trio ffitio mewn i mowld pawb arall a dydi hynny ddim yn gweithio. Mae'r sioe yma wedi gadael fi i fod yn fi.

Elin Fflur yn canu gyda Fflur
Dydi pobl ddim yn dalld fod y sbectrwm yn llydan iawn. Dwi'n gneud stand-yp, dwi'n canu, dwi'n gweithio, alla i enwi 196 o wledydd y byd mewn llai na pum munud a hanner yn nhrefn y wyddor. Dwi'n alluog mewn lot o bethau, ond dim mewn pethau eraill. Ond achos mod i'n alluog overall dwi ddim yn cael yr help dwi ei angen.
Mae bob dydd yn wahanol. Weithiau dwi on the ball ac yn gallu ffonio pobl a gwneud apwyntiadau. Ychydig ddyddiau wedyn fasa'r syniad o ateb ffôn yn gyrru fi mewn i meltdown.
Dwi'n gobeithio neith Y Cyfweliad ddangos bod gynnon ni le yn y byd a 'dan ni werth yr amsar ac ymdrech gan bobl. 'Dan ni ddim jest yn bobl ti'n gallu llechio i'r ochr.
'Adeg cyffrous' i fenywod mewn comedi
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
Jac: 'Faswn i'n licio gofyn cwestiwn heriol am yr Eisteddfod i Trystan Ellis-Morris'
Roedd bod yn un o holwyr Y Cyfweliad yn brofiad rhagorol i ddeud y gwir. Dwi erioed bod mewn gig yn fy mywyd achos dwi'n poeni bo' rhywun am roi rhywbeth yn fy niod felly mae cael bod yn un o holwyr Y Cyfweliad yn rhywbeth dwi'n prowd iawn ohono fo.
Fy hoff beth i ydy cael gofyn cwestiwn i'r selebs yma na fasach chi'n cael gofyn onibai am y gyfres yma. Ond efo Y Cyfweliad, does ganddyn nhw ddim dewis!
Ond y ffordd maen nhw wedi cytuno i ddod ar Y Cyfweliad a rhoi eu hamsar, dwi'n ddiolchgar am hynny. Fasa rhai'n troi eu cefnau a'u trwynau ar gael eu holi gan bobl efo anableddau dysgu.

Jac ar Y Cyfweliad
Os faswn i'n cael y cyfla i holi unrhyw un faswn i'n licio holi Trystan Ellis-Morris achos pan fyddai'n edrych ar Eisteddfod bob blwyddyn dwi'n meddwl ei fod o'n rhagorol.
Faswn i wrth fy modd yn cael gofyn cwestiwn heriol iddo fo am yr Eisteddfod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Awst 2025
