63,300 yn llai o bobl yn gallu siarad Cymraeg mewn dwy flynedd

- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru wedi gostwng 63,300 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.
Roedd 828,500 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2025, yn ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mercher.
Mae hynny yn ostyngiad o'r 891,800 yn y flwyddyn ddaeth i ben ar 30 Medi 2023, a 847,400 yn y flwyddyn ddaeth i ben ar 30 Medi 2024.
Ond mae niferoedd siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu'n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Rydym yn gweithio ar amrywiaeth eang o gamau i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg.
"Mae hyn yn cynnwys cyflwyno Deddf y Gymraeg ac Addysg, ein hymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ail gam y Comisiwn, sy'n edrych ar y Gymraeg mewn ardaloedd sydd â llai o siaradwyr Cymraeg, gwersi Cymraeg am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed, a chynyddu'r dechnoleg iaith Gymraeg sydd ar gael."
'Priodol defnyddio'r ystadegau'
Roedd 26.9% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl yr ystadegau ar gyfer Hydref 2024 i Medi 2025 a gyhoeddwyd ddydd Mercher.
Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 0.7 pwynt canran yn is na'r flwyddyn yn dod i ben ar 30 Medi 2024 pan amcangyfrifwyd fod 27.6% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.
Dywed y llywodraeth y "dylid trin y gostyngiad diweddar â gofal" oherwydd maint y sampl ond "mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn".
Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai'r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 15,420.
Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2001 a 2011 yn 582,400 a 562,000 yn y drefn honno.

Mae angen rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio'r Gymraeg yn y cartref, meddai Heini Gruffudd
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith, wrth y BBC bod yr ystadegau yn "dangos peth gostyngiad ond byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth am beth sy'n achosi hyn.
"Faint o siaradwyr Cymraeg sydd wedi allfudo? Faint o fyfyrwyr Cymru sy'n mynd i brifysgolion yn Lloegr sy'n dod yn ôl? Faint o deuluoedd sy'n trosglwyddo'r Gymraeg yn y cartref?
"Defnyddio'r Gymraeg yn y cartref yw'r ffactor mwyaf sylfaenol mewn unrhyw raglen adfer iaith, ac mae angen rhoi blaenoriaeth i hynny, nid i ffurflenni ac ati.
"Mae twf addysg Gymraeg yn angenrheidiol, ond mae angen rhaglen gynhwysfawr i gryfhau defnyddio'r Gymraeg bob dydd – yn y gwaith, ar y stryd fawr, mewn tai bwyta, tafarndai ac ati."
Ar gyfer Hydref 2024 i Medi 2025, adroddodd 14.0% (431,700)) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (152,100) yn wythnosol a 6.6% (204,000) yn llai aml.
Dywedodd 1.3% (40,400) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 73.1% yn gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd 31.2% (961,700) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.2% (746,100) ddarllen yn Gymraeg a 21.6% (666,000) ysgrifennu'n Gymraeg.
Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:
Yng Ngwynedd (89,400), Caerdydd (88,000) a Sir Gaerfyrddin (85,100) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;
Ym Mlaenau Gwent (7,100) a Merthyr Tudful (9,100) y mae'r niferoedd isaf;
Yng Ngwynedd (73.4%) ac Ynys Môn (61.8%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg;
Ym Mlaenau Gwent (10.6%) a Merthyr Tudful (15.0%) a y mae'r canrannau isaf.
Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (46.5%, 227,300) nag unrhyw grŵp oedran arall.
Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r cyfrifiad o'r boblogaeth ydy'r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Ond mae'r arolwg yn ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022
