'Mae dysgu Cymraeg yn agor drysau' - Dysgwr y Flwyddyn

Lucy Cowley yn sefyll o flaen llyn. Mae hi'n gwisgo cot werdd ac edrych tuag at y camera.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Cowley'n annog eraill i "fynd amdani" gyda'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae Lucy Cowley, enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dweud bod y misoedd ers ennill y wobr wedi bod yn drobwynt yn ei hyder a'i defnydd o'r Gymraeg.

Daw Lucy yn wreiddiol o Is-y-coed ger Wrecsam, ond mae bellach yn byw yn Llangollen lle mae'n gweithio fel athrawes ac yn trefnu grŵp trafod Cymraeg lleol.

Cafodd ei gwobrwyo ym mis Awst ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth genedlaethol, gyda'r beirniaid yn canmol ei brwdfrydedd, ei hymroddiad a'i defnydd cynyddol o'r iaith.

Wrth i 2025 ddod i ben, mae Lucy'n dweud bod y profiad wedi ei sbarduno i geisio manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn ei bywyd bob dydd.

Lucy Cowley yn derbyn ei gwobr ar lwyfan yr eisteddfod. Mae hi'n gwisgo siaced borffor ac mae'r wobr yn fowlen bren gyda '2025' wedi ysgrifennu arni.Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Lucy y wobr ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst

"Mae'n fraint enfawr, a dyw'r cyfan dal ddim wedi suddo i mewn eto," meddai Lucy, gan ychwanegu ei bod hi'n teimlo'n "rili proud" o gael ei henwi'n Ddysgwr y Flwyddyn.

Yn ôl Lucy, mae'r ymateb gan deulu, ffrindiau a'r gymuned Gymraeg wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda phobl yn ei hadnabod yn y stryd ac yn ei llongyfarch ar ôl ei gweld ar y teledu.

Mae'n dweud bod y gefnogaeth yma wedi cyfrannu at dwf ei grŵp trafod Cymraeg yn Llangollen.

"Bron bob wythnos mae pobl newydd yn dod. Mae'n rili neis gweld y gymuned yn tyfu."

Ers ennill y wobr, mae Lucy'n dweud ei bod hi'n defnyddio'r Gymraeg yn amlach nag erioed, gan fanteisio ar bob cyfle i siarad yr iaith gyda phobl newydd.

"Dwi'n trio defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Pob person dwi'n clywed sy'n siarad Cymraeg neu sydd ag acen Cymraeg, dwi'n gofyn 'fysa chi'n siarad Cymraeg efo fi?'"

'Mae'r Gymraeg yn hwyl'

Yn ystod cyfnod y Nadolig eleni, dywedodd Lucy ei bod wedi dysgu a defnyddio mwy o eirfa dymhorol wrth gymryd rhan mewn nosweithiau Cymraeg.

Un gair sy'n sefyll allan iddi yw 'llongyfarchiadau'.

"Mae'n swnio mor neis ar y tafod," meddai, gan ychwanegu bod 'iechyd da' hefyd yn berffaith ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae'r Nadolig hefyd yn gyfnod pwysig iddi'n bersonol, gan ei bod hi'n dathlu Wigilia gyda'i theulu Pwyleg cyn dathlu'r Nadolig eto gyda'i theulu Cymraeg.

"Mae'n brysur, ond yn llawn hwyl dros y gwyliau," meddai.

Wrth edrych tua'r flwyddyn newydd, mae Lucy'n annog dysgwyr eraill i herio'u hunain trwy ddefnyddio'r Gymraeg cymaint â phosib.

"Ewch amdani. Mae dysgu Cymraeg yn agor drysau ac yn dod â chymaint o bobl i'ch bywyd," meddai. "Peidiwch rhoi'r gorau iddi - mae'r Gymraeg yn hwyl."