Gofalu am Sbarcl y draenog mewn ysbyty ar Ynys Môn

Sandra a Sbarcl
- Cyhoeddwyd
Mae draenog ifanc a gafodd ei ddarganfod gyda phlastig yn sownd i'w groen ar ochr ffordd ym Mhorthaethwy yn derbyn gofal mewn ysbyty i ddraenogod ym Mrynsiencyn ar Ynys Môn ar hyn o bryd.
Cafodd Sbarcl y draenog ei ganfod gan ddyn oedd yn mynd â'i gi am dro ddechrau Ionawr 2026 gyda'i ben yn sownd i fodrwy potel blastig.
Ar hyn o bryd, mae Sbarcl yn derbyn gofal mewn un o dri o ysbytai sydd dan ofal yr Anglesey Hedgehog Rescue ar yr ynys.
Aeth Aled Hughes, cyflwynydd Radio Cymru i gyfarfod Sbarcl sydd dan ofal Sandra Thomas ar hyn o bryd. Mae Sandra'n un o 18 o wirfoddolwyr yr elusen Anglesey Hedgehog Rescue.
Ysbyty i ddraenogod
Yn ôl Sandra, mae'r cwt ym Mrynsiencyn "y peth agosaf i ysbyty cymunedol ond i ddraenogod".
Eglurai wrth Aled sut bod ysbyty i ddraenogod ar yr ynys: "'Dan ni'n rhan o rwydwaith Anglesey Hedgehog Rescue sy'n golygu os ydach chi'n ffeindio draenog ochr lôn neu ddim yn dda yn eich gardd mi fasach chi'n dod â nhw i un o gytiau'r Anglesey Hedgehog Rescue fel yr un yma ym Mrynsiencyn.
"Rydan ni wedyn yn gweithio gyda milfeddygon lleol iddyn nhw dderbyn y triniaeth cywir.
"Wedyn fydd gwirfoddolwr fel fi yn maethu'r draenog er mwyn gofalu a chryfhau'r draenog cyn ei fod o'n cael ei ryddhau yn ôl i'r gwyllt."
Yn 2025 bu tua 250 o ddraenogod dan ofal Anglesey Hedgehog Rescue gyda 58% o'r draenogod yn llwyddo i wella.

Sbarcl yn ei gwt
Mae 30 o ddraenogod dan ofal yr elusen ar hyn o bryd. Yr hyn wnaeth sbarduno Sandra i wirfoddoli gyda'r elusen oedd gwerthfawrogi bywyd gwyllt yn ystod y cyfnodau clo.
Eglurai: "Dros y cyfnod clo, wnes i ddechrau garddio o ddifri', o'n i'n gweithio adra lot i'r cyngor sir ac yn y 'chydig o amsar sbâr oedd gynnon ni, datblygu'r ardd a sylwi be' oedd yn yr ardd fwy.
"Digwydd bod wnes i ffeindio draenog wedi brifo yn ganol dydd a ffeindio bod ysbyty i ddraenogod yn Y Fali, ochrau Caergybi, dechra' siarad efo nhw a dod i ddeall be' oeddan nhw'n neud.
"Roeddan nhw'n galw am fwy o bobl i faethu. Hynny ydi, mae yna ffasiwn beth â bed blocking yn y 'sbyty draenog felly pan maen nhw isio rhyddhau gwely draenog unwaith mae'r draenog yn ddigon da, maen nhw'n dod at un o'r maethwyr fel fi, sy'n gwatsiad ar eu holau nhw tan eu bod nhw'n ddigon cryf i'w rhyddhau."
Gofalu am Sbarcl
Ar hyn o bryd mae Sandra'n pwyso Sbarcl bob dydd, yn tracio beth mae'n ei fwyta, yn cadw golwg ar faint mae'n garthu ac ar ei batrymau cwsg.
Yn ôl Sandra, mae'n syndod fod Sbarcl wedi goroesi o gwbl.
"Cafodd Sbarcl ei ffeindio'n fabi. Mae'n rhaid fod o wedi rhoi ei ben i mewn i wddw plastig a wedi tyfu drwyddo fo. Pan gafodd o ei ffendio roedd y plastig wedi mynd i mewn i'w groen o.
"Mi wnaeth y dyn wnaeth ei ffeindio fo fynd â Sbarcl yn syth at y vet ac mae'r vet wedi gweithio'n galad i allu tynnu'r plastig oddi arno fo.
"Oedd o'n touch and go ar Sbarcl cyn iddo fo fedru cael ei ryddhau i'r Anglesey Hedgehog Rescue gan y vet.
"Bellach mae o yn y 'sbyty efo ni ym Mrynsiencyn a dwi'n teimlo fo'n fraint bo' ni'n gofalu amdano fo. Mae'r graith lle oedd y cap plastig i'w weld arno'n glir."

Sbarcl
Y gobaith yw y bydd Sbarcl yn cael ei ryddhau yn ardal Porthaethwy ar ôl i'r tywydd gynhesu. Gyda Sbarcl yn pwyso 740g ar hyn o bryd, mae'n cryfhau'n ddyddiol ac yn ôl Sandra mae'n hollbwysig rhyddhau'r draenogod mor agos â phosib i'r cynefin lle canfuwyd nhw.
"Maen nhw'n greaduriaid tiriogaethol iawn. Mae gynnon nhw eu cynefin. Maen nhw'n cofio be' ydi eu cynefin nhw. Felly yr ymarfer gora' i wneud efo nhw ydi rhyddhau nhw 'nôl i'w cynefin mor agos â phosib.
"Mae o jest iawn mewn pwysa i fedru cael ei ollwng, fydd rhaid gneud yn siŵr fod o ddigon cryf ac yn gallu troi ei hun i belan i warchod ei hun.
"Mi fydd yn cael soft release yn gyntaf sy'n golygu y bydd yn cael ei ryddhau i rwla lle mae yna gysgod iddyn nhw a bydd rhywun yn rhoi bwyd allan iddyn nhw am ddwy neu dair noson.
"Yna rydan ni'n tynnu'r gefnogaeth a maen nhw'n mynd ar liwt ei hun a byw eu bywyd yn braf gobeithio."
Gwrandewch ar Sandra yn sgwrsio gydag Aled Hughes:
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.