Gwastraff 'ffiaidd' wedi'i dipio i lawr ochr mynydd 'godidog'
Fideo drôn yn dangos y gwastraff sydd wedi'i adael ar Fynydd Bwlch
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr wedi dweud ei bod wedi cael ei "llorio" yn sgil afon "ffiaidd" o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon i lawr ochr mynydd yn y de.
Am 90 mlynedd mae teulu Katie Davies wedi bod yn berchen ar dir ar Fynydd Bwlch yn Nhreorci, a dywedodd hi y gallai glanhau'r gwastraff gostio miloedd a niweidio ei defaid sy'n pori ar y tir.
Fe wnaeth Nathan Dixon gymryd lluniau drôn oedd yn dangos maint y gwastraff sydd wedi cael ei daflu ar y mynydd.
Dywedodd Mr Dixon ei bod yn bosib gweld y llanast o "dair i bum milltir i ffwrdd".
Yn ôl Cyngor Rhondda Cynon Taf, maen nhw'n cymryd camau i ddwyn unrhyw un sy'n gyfrifol am dipio anghyfreithlon i gyfrif.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol.

Dywedodd Katie Davies ei bod yn "rhwystredig ac yn ofidus iawn" am y gwastraff
"Mae [y llanast] yn fy nghadw i'n effro yn y nos," meddai Ms Davies, sy'n rhedeg busnes bach teuluol fferm Nant y Moel, yn cynhyrchu cig eidion a chig oen Cymreig.
Nid dyma'r tro cyntaf i wastraff gael ei adael ar y tir, yn ôl Ms Davies.
Mae hi wedi canmol Cyngor Rhondda Cynon Taf am eu cefnogaeth wrth ei helpu i'w lanhau yn y gorffennol, pan lusgodd gwirfoddolwyr y sbwriel i lawr y mynydd cyn i'r cyngor gael gwared ohono.
Dywedodd y byddai'r gwaith glanhau yn debygol o fod hyd yn oed yn anoddach y tro hwn, ac efallai y byddai angen criwiau arbenigol i lusgo'r gwastraff i lawr o wyneb serth y clogwyn.
"Rwy'n rhwystredig ac yn ofidus iawn," meddai. "Mae'n ofnadwy."

Dywedodd Nathan Dixon ei bod yn bosib gweld y llanast o "dair i bum milltir i ffwrdd"
Yn ôl Ms Davies, nid yn unig y mae'r gwastraff yn hyll, ond mae hefyd yn niweidiol i'w defaid sy'n pori ar y tir, adar sy'n nythu a bywyd gwyllt eraill.
"Mae'n erchyll. Mae'n wirioneddol dorcalonnus. Mae angen ateb hirdymor arna i. Alla i ddim parhau i wneud hyn."
Dywedodd ei bod hi eisoes wedi gofyn i'r cyngor gau'r gilfach ar y mynydd, lle cafodd y gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon.
Mae hi'n honni fod y cyngor wedi gwrthod gwneud hynny gan fod y safle yn fan prydferth.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael cais am sylw ar y pwynt hwnnw.
Cafodd Mr Dixon, 37, ei fagu yn y pentref islaw'r mynydd.
Dywedodd ei fod wedi gwasgaru lludw ei dad ar y mynydd yn ddiweddar a'i bod yn drist gweld lle mor arbennig yn cael ei drin â chyn lleied o barch.
"Dyna fan gorffwys fy nhad. Cerddodd y mynyddoedd hynny trwy gydol ei oes. Dyna lle'r oedd e' wastad eisiau bod," meddai.

Nid dyma'r tro cyntaf i wastraff gael ei adael ar y tir
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod wedi gosod camerâu ac arwyddion cudd yn yr ardal, a'u bod yn ystyried defnyddio technoleg newydd i'w helpu i ddal y rhai sy'n gyfrifol am y gwastraff.
"Mae Mynydd y Bwlch yn gartref i olygfeydd godidog sy'n enwog ledled y byd," meddai llefarydd.
"Yn anffodus, mae yna rai pobl ddigywilydd sy'n penderfynu tipio'n anghyfreithlon a dympio eu gwastraff, gan ei ddifetha i'r mwyafrif.
"Fel cyngor, rydyn ni'n cymryd tipio anghyfreithlon o ddifrif ac yn cymryd camau bob amser i ddwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif."
Dywedodd y cyngor hefyd y byddai unrhyw un sy'n tipio yn anghyfreithlon yn yr awdurdod lleol yn derbyn dirwy o o leiaf £400, ac y gallan nhw wynebu dedfryd droseddol.
Ychwanegodd y gallai llawer o'r eitemau a gafodd eu tipio fod wedi cael eu rhoi yn un o'u canolfannau ailgylchu, neu eu casglu heb unrhyw gost ychwanegol.
'Drud i'w lanhau'
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod tipio anghyfreithlon "yn drosedd ddifrifol sy'n niweidio ein hamgylchedd, yn peryglu bywyd gwyllt, ac yn tarfu ar gymunedau lleol".
"Mae hefyd yn ddrud i'w lanhau."
Dywedodd y corff fod mwy na 70% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn ymwneud â gwastraff o'r cartref, ac yn aml o ganlyniad i bobl - yn anfwriadol - yn defnyddio cludwyr gwastraff sydd heb drwydded ac yna'n dympio'r gwastraff, gan adael pobl mewn perygl o gael dirwy.
"Os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared â'ch gwastraff, rhaid i chi wirio eu bod nhw'n gludwr gwastraff cofrestredig," medden nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.