Oedi penderfyniad ar gynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri

Llun Rhaeadr y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y rheiny tu ôl i'r cynllun hydro ydy creu digon o drydan i bweru hyd at 700 o dai

  • Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dewis oedi cyn penderfynu a ddylid cymeradwyo cynllun trydan dŵr dadleuol dros afon boblogaidd.

Mae'r cynllun ar gyfer Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog wedi derbyn beirniadaeth gref gan gadwraethwyr, sy'n dweud ei fod yn "bygwth dyfodol un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri".

Ond mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r fenter - tri brawd sy'n ffermio yn ardal Y Bala - yn dadlau mai "effaith fach iawn" y byddai'r prosiect yn ei gael ar y tirwedd.

Er i gynlluniau tebyg y gorffennol fethu â dwyn ffrwyth, roedd y datblygiad hwn wedi derbyn cefnogaeth gan swyddogion cynllunio.

Ond mewn cyfarfod fore Mercher fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddewis oedi cyn dod i benderfyniad.

Daw hynny ar ôl i dros 1,300 o sylwadau ddod i law ar y cynllun yr wythnos diwethaf, gyda'r pwyllgor yn dweud nad oedden nhw wedi cael amser i fynd trwy'r cyfan.

'Ddim werth dinistrio rhaeadr'

Nod y cynllun ynni hydro yn nalgylch Afon Cynfal yw cynhyrchu hyd at 600kW o drydan.

Byddai'n ddigon i bweru tua 700 o gartrefi, yn ôl yr adroddiad cynllunio.

Ond er mwyn gweithredu'r cynllun byddai'n rhaid dargyfeirio 70% o'r dŵr uwchben rhaeadr Cwm Cynfal, sy'n fan poblogaidd gyda cherddwyr a thwristiaid sydd am weld yr olygfa.

Yr wythnos diwethaf roedd yr awdurdod cynllunio wedi derbyn 592 sylw am y prosiect, gyda 453 ohonyn nhw yn gwrthwynebu, ac 139 o blaid.

Ond fe nodwyd bod 411 o'r sylwadau yn erbyn y prosiect yr un fath, yn dilyn ymgyrch ar-lein.

Llun Rory Francis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rory Francis yn poeni am effaith y cynllun ar blanhigion prin

"Mae'r fenter yma yn rhoi un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri dan fygythiad, a hynny er mwyn gwneud elw i'r tirfeddiannwr," meddai Rory Francis, un o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r prosiect.

Yn gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri - grŵp o wirfoddolwyr sy'n gweithio i amddiffyn y parc cenedlaethol - mae'n poeni am effaith y cynllun ar fyd natur.

"Os 'da chi'n cymryd hyd at 70% o'r dŵr allan o'r rhaeadr mae'n mynd i gael effaith.

"Mae'n ardal sydd wedi cael ei dynodi fel un efo phlanhigion prin - maen nhw angen y dŵr o'r rhaeadr."

Mae Mr Francis o blaid cynlluniau ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, ond nid yr un yma.

"'Da ni gyd isio datgarboneiddio'r economi, ond mi fysa'r cyfraniad mor bitw.

"Er mwyn cynhyrchu cymaint o ynni ag un tyrbin gwynt byddai angen 12 cynllun fel hwn ar 12 afon. Tydi o ddim gwerth dinistrio rhaeadr."

Llun Moi Dafydd gyda rhaeadr tu ôl iddo
Disgrifiad o’r llun,

Moi Dafydd a'i frodyr sydd y tu ôl i'r cynllun ynni hydro

Tri brawd - Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis - sydd wedi cyflwyno'r cynllun ynni hydro ar Afon Cynfal.

Mae'r tri yn ffermio yn ardal Y Bala ac ar y tir o amgylch yr afon.

"Fel amaethwyr mae gofalu am y tir yn hollbwysig i ni," meddai Moi.

"Y peth diwethaf 'sa ni isio gwneud 'sa difetha unrhyw beth, ond mae yna asesiad wedi'i wneud yn edrych ar sut bydd y rhaeadr yn edrych ac mae'n dangos na fydd unrhyw effaith sylweddol o gwbl.

"Bydd y cynllun 'mond yn gweithredu pan ma' hi'n wlyb iawn ac mae yna ddigon o ddŵr yn yr afon.

"Byddwn ni'n cymryd canran o'r dŵr a'i ddargyfeirio drwy bibell i waelod y dyffryn, ac yna bydd yn dychwelyd nôl i'r afon gan arbed dros 1,900 o dunelli o garbon y flwyddyn."

Llun Afon Cynfal a Rhaeadr y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr ardal o amgylch y datblygiad posib gysylltiadau â Mabinogion

Cafodd sesiynau galw heibio eu cynnal yn yr ardal ger lleoliad y datblygiad posib gan y brodyr fel rhan o gyfnod ymgynghori.

Maen nhw'n dweud bod "rhan helaeth" y bobl leol y maen nhw wedi siarad gyda nhw am y cynlluniau yn eu cefnogi.

"'Da ni 'di derbyn llawer o gefnogaeth yn lleol - cefnogaeth gref iawn," meddai Moi.

"'Da ni wedi cynnal digwyddiad galw heibio yn Llan Ffestiniog ac roedd y rhan helaeth o bobl leol yn hynod gefnogol.

"Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn cefnogi, a 'da ni wedi derbyn cefnogaeth aelod Senedd Cymru'r ardal, Mabon ap Gwynfor, ac aelod senedd San Steffan, Liz Saville Roberts."

Mae disgwyl bellach i bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri drafod y cynllun eto yn eu cyfarfod nesaf ar 25 Chwefror.

Mae swyddogion cynllunio wedi awgrymu y dylai'r pwyllgor roi caniatâd i'r cynllun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.