Gobaith am 7,000 o swyddi wedi llwyddiant prosiectau ynni gwynt ar y môr

Mae tyrbinau sy'n arnofio ar y môr yn dechnoleg newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau brosiect ynni gwynt ar y môr, a allai greu miloedd o swyddi yng Nghymru, wedi sicrhau cytundebau gan Lywodraeth y DU i gyflenwi ynni i'r grid cenedlaethol.
Fferm wynt Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro fydd y fferm wynt cyntaf yng Nghymru sy'n arnofio ar y môr.
Y gobaith yw y gallai arwain at sefydlu diwydiant newydd yn ne Cymru a allai greu hyd at 5,000 o swyddi yn y degawd nesaf.
Yn y gogledd roedd fferm wynt Awel y Môr, allai gyflenwi digon o ynni i hanner cartrefi Cymru, hefyd yn llwyddianus.
Mae gobaith y bydd y prosiect yna'n creu 2,000 o swyddi wrth adeiladu'r tyrbinau, fydd yn sefyll 10km o arfordir Sir Conwy.
Arwyddocâd sylweddol
Daw'r arian o gynllun gan Lywodraeth y DU a gafodd ei sefydlu i hybu buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy.
Byddai fferm wynt Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro yn gallu cynhyrchu 96MW a phweru tua 90,000 o gartrefi.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeiladu rhwng saith a 10 tyrbin yn y Môr Celtaidd, tua 28 milltir oddi ar yr arfordir.
Er ei fod yn nifer isel o'i gymharu â phrosiectau ynni eraill, mae arwyddocâd Erebus yn sylweddol, am ei fod wedi ei ddisgrifio fel 'Prosiect Llwybr' ar gyfer y Môr Celtaidd.

Mae'r tyrbinau arnofiol yn gallu cael eu hadeiladu ar y tir cyn eu cludo allan i'r môr
Tra bod tyrbinau gwynt traddodiadol yn y môr yn cael eu gosod ar wely'r môr gyda sylfeini sefydlog, mae tyrbinau arnofiol yn eistedd ar strwythurau dur mawr sydd wedyn yn cael eu hangori i wely'r môr.
Mae hynny'n caniatáu i'r gwaith o gynhyrchu a chynnal y tyrbinau anferth ddigwydd ar y tir, cyn eu cludo ar longau i leoliadau ymhellach allan ar y môr gyda gwyntoedd cryfach.
Y nod hirdymor yw sefydlu'r Môr Celtaidd fel canolbwynt ynni gwynt o dyrbinau sy'n arnofio, gydag Ystâd y Goron, sydd berchen ar y tir yn rhagweld 5,000 o swyddi yn y diwydiant a mwy na 250 o dyrbinau wedi eu gosod erbyn canol y 2030au.
Seilwaith a chadwyn gyflenwi
Fel y prosiect cyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg yn y Môr Celtaidd, does dim seilwaith, cadwyn gyflenwi na gweithlu i gynhyrchu'r tyrbinau.
Er bod gan Yr Alban gadwyn gyflenwi yn barod, gyda dwy fferm wynt arnofiol eisoes ar waith, yma yng Nghymru mae prinder busnesau, seilwaith a gweithwyr sy'n gyfarwydd ag anghenion penodol y dechnoleg yma.
A'r un mor bwysig, does dim porthladdoedd yn barod eto i ymdrin â'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer y dechnoleg.
Mae 'na dri phorthladd yng Nghymru, yn cynnwys Port Talbot, ar y rhestr fer ar gyfer contractau i ddatblygu hynny.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei bwriad ers blynyddoedd i fod yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg, mae'r oedi i brosiect Erebus wedi profi'n gostus, yn ôl y diwydiant.
Yn ychwanegol i'r ffermydd sydd eisoes ar waith yn Yr Alban, yn fuan bydd prosiectau Pentland a Salamander yn ymuno â'r rhain ynghyd â phrosiect arnofiol mwyaf y byd, y prosiect Folt Gwyrdd 560MW.
Roedd y prosiect hwnnw wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar draul Erebus yn y gorffennol.
'Cymunedau Cymru ddim yn elwa o brosiectau ynni mawr'
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
Oes modd defnyddio dŵr o byllau glo i wresogi ysgolion yn y gogledd?
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
Mae 10 mlynedd ers i fferm wynt ar y môr o unrhyw fath gael ei hadeiladu yng Nghymru, ond nawr yn ogystal ag Erebus, mae Awel y Môr, fferm wynt fwy traddodiadol hefyd wedi sicrhau cyllid.
Cwmni ynni RWE ydy prif berchennog Awel y Môr, a bydd yn adeiladu rhwng 34 a 50 o dyrbinau.
Bydd y safle tua 10km oddi ar arfordir gogledd Cymru ger fferm wynt bresennol Gwynt y Môr sydd eisoes i'w gweld o'r arfordir.
Mae'r cwmni'n honni bod ganddo'r potensial i greu 2,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer hanner cartrefi Cymru unwaith y bydd yn weithredol.
Ond fe fethodd fferm wynt fawr arall, Mona, â sicrhau cefnogaeth y tro hwn.
'Cam enfawr'
Dywedodd Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Ed Miliband, fod y prosiectau yn "gam enfawr ymlaen i'n diogelwch ynni" ac yn "fargen dda i bobl sy'n talu biliau".
Yn ôl cyfarwyddwr Renewable UK Cymru, Jessica Hooper, mae'r prosiectau'n "arwydd clir fod Cymru ar agor ar gyfer buddsoddiad mewn ynni glan".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod y cynllun yn "dangos sut mae Cymru mewn sefyllfa gadarn i adeiladu ar ei chapasiti presennol o ran ynni adnewyddadwy ac elwa o'r prosiectau newydd hyn sy'n dod â nifer fawr o swyddi o ansawdd uchel a manteision ehangach i'r economi".
Ychwanegodd y gallai'r prosiectau hyn "helpu i leihau biliau" a "hybu ein diogelwch ynni".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai ei fod yn "croesawu'r newyddion am Awel y Môr".
"Mae'n brosiect mawr a fydd yn dod â chyfleoedd i bobl ifanc a fydd efallai'n arwain nhw i ystyried opsiynau gwahanol fel gyrfa."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.