'Diolch am weddill fy oes i dimau am fy achub ar ôl disgyn 130 troedfedd'

Cymerodd tua chwe awr i achub Leah o'r ceunant
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sy'n ffodus i fod yn fyw ar ôl syrthio 130 troedfedd (40m) wedi dweud y bydd hi'n "ddiolchgar am weddill ei hoes" i'r rhai wnaeth ei hachub.
Torrodd Leah Matthews, 32 oed o Donypandy, Rhondda Cynon Taf, ei hasennau, ei phelfis, ei chlun a'i throed yn y ddamwain fis Hydref diwethaf wrth iddi ymweld â Rhaeadr Henrhyd gyda'i phartner.
Er bod gan Leah "bellter hir i fynd" cyn gwella'n llwyr, bron i chwe mis yn ddiweddarach cafodd gyfle i gwrdd â rhai o aelodau'r criwiau achub i ddiolch iddyn nhw.
"Oni bai amdanoch chi, ni fyddwn i yma heddiw - mae eich dewrder yn eithriadol" meddai wrth y grŵp.
'Sa i'n cofio bod mewn llawer o boen'
Roedd Leah a'i phartner Anthony yn cerdded gyda chŵn ei mam a'i brawd yr hydref diwethaf ym Mro'r Sgydau.
Roedden nhw wedi bod i'r ardal o'r blaen, ond nid yr union lwybr.
Roedd yr amodau'n dda ac roedd Leah yn gwisgo esgidiau cerdded cadarn ond, llithrodd wrth iddi geisio helpu un o'r cŵn, heb sylweddoli ei bod ar fin cwympo dros glogwyn serth oedd wedi'i orchuddio gan ganghennau.
Llwyddodd Anthony i'w chyrraedd a rhybuddio'r gwasanaethau brys, gan gychwyn ymgyrch enfawr i helpu Leah, oedd wedi glanio mewn ceunant yn Afon Llech.
"Sa i'n cofio llawer o'r ddamwain mewn gwirionedd," meddai Leah, oedd yn awyddus i lenwi bylchau yn ei chof o'r diwrnod anodd hwnnw.
"Sa i'n cofio bod mewn llawer o boen ond dwi'n cofio bod yn oer iawn."

Roedd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Achub Mynydd Bannau'r Gorllewin a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyd yn rhan o'r ymdrech i achub Leah
Esboniodd aelodau'r Gwasanaeth Ambiwlans sut y llwyddon nhw i godi ei thymheredd o 1.5 gradd wrth iddyn nhw ei thrin am hypothermia, gydag un aelod o'r tîm yn dal ei choesau allan o'r afon i geisio ei chynhesu.
Yn ffodus, roedd Tîm Achub Mynydd Bannau'r Gorllewin yn digwydd bod yn hyfforddi gerllaw ar y diwrnod.
"Pan gyrhaeddon ni yno, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael", meddai Gareth Williams, dirprwy arweinydd y tîm, a ddywedodd fod y llwybr lle syrthiodd Leah yn "gadarn".
"Roedd Leah wedi gwisgo'n iawn, roedd ganddi'r offer iawn, ac roedd y gweithgaredd o fewn ei gallu. Mae'n dangos gall damweiniau ddigwydd i unrhyw un."
'Synnu bod hi'n fyw'
Ar ôl sicrhau bod Leah yn sefydlog roedd rhaid ceisio ei chodi o'r ceunant er mwyn ei chludo i'r ysbyty.
"Roedd y ceunant yn serth iawn", meddai Andrew Vaughan, rheolwr yng ngorsaf Glyn-nedd a oedd yn rhan o'r tîm o ddiffoddwyr tân wnaeth ymateb i'r ddamwain.
"Yn anffodus oherwydd lle'r oedd hi, nid oeddem yn gallu ei chodi allan mewn hofrennydd oherwydd y gwynt a'r coed, felly nid oedd ei chodi allan gyda winsh yn opsiwn."
Cymerodd tua chwe awr i achub Leah a'i throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Treuliodd Leah dair wythnos yno, cyn cael ei symud Ysbyty Brenhinol Morgannwg am wythnos arall.
Dywedodd Robin Bidgood o Wasanaeth Ambiwlans Cymru wrth Leah ei fod wedi "synnu" ei bod hi'n fyw.

Mae Leah yn awyddus i hel arian ar gyfer y timau achub yn y dyfodol
Mae'n chwe mis ers iddi adael yr ysbyty ac er ei bod hi'n gallu cerdded a gyrru am bellteroedd byr, mae hi'n parhau i fod mewn poen.
"Os dwi'n gor-wneud rhywbeth, mae'n gallu golygu fy mod i'n gaeth i fy ngwely am ddau neu dri diwrnod ac yn dioddef", meddai Leah sy'n fam i ddau o blant.
"Mae wedi bod yn erchyll, dwi'n dibynnu ar bawb am bopeth."
Ond mae ei meddyliau'n troi at y dyfodol, ac unwaith y bydd hi wedi gwella mae'n bwriadu codi arian i'r rhai a'i hachubodd.
"Beth bynnag alla i ei wneud nawr dim ond i ddangos pa mor ddiolchgar ydw i a byddaf yn ddiolchgar am byth."
"Rwy'n fyw, rwy gyda fy mhlant a'n nheulu felly, alla i ddim diolch digon iddyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Ionawr
