'Cael tatŵ henna yn rhan o fy hunaniaeth Fwslemaidd'

Dwylo addurnedig: Patrymau o bob math
- Cyhoeddwyd
Mae hi bron yn ddiwedd cyfnod Ramadan sef mis o ymprydio i Fwslemiaid.
Wedyn daw dathliadau Eid, sydd yn gyfle i deuluoedd ymgynnull, bwyta bwyd da, cyfnewid anrhegion, ac wrth gwrs, wisgo eu dillad gorau.
I'r rhan fwyaf o ferched, mae hyn yn golygu tatŵs henna, ac un o'r rheiny yw Isra o Gaerdydd.
Cymuned yn dod at ei gilydd
Mae pâst henna – sy'n cael ei wneud o ddail y goeden henna – yn lliwio'r croen dros dro, ac mae merched Mwslemaidd yn ei ddefnyddio i wneud patrymau cywrain, prydferth ar eu dwylo a'u traed.
Dyma ran o'u gwisg ar gyfer achlysuron arbennig, fel priodasau a dathliadau fel Eid.
Er ei bod hi ond yn 16 oed, mae Isra yn hen law ar gael tatŵs henna, gan ei fod yn eu cael ers ei bod hi'n blentyn, ac mae hi wrth ei bodd gyda'r profiad, meddai:
"Mae'n rhywbeth mae llawer o fenywod yn ein crefydd yn rhoi ar eu llaw nhw cyn Eid neu ddathliadau fel priodasau.
"Dy'n ni'n defnyddio fe i fynegi'n hunain a dathlu ein crefydd – mae'n rhan o'n hunaniaeth ni fel Mwslemiaid.

"Yn draddodiadol, merched sy'n cael e. Mae'n ffordd i ferched y gymuned i ddod at ei gilydd. Flynyddoedd yn ôl, roedd menywod eisiau ffordd o fynegi ei hunain ac felly dechreuon nhw eistedd efo'i gilydd, a gwneud henna ei gilydd.
"Roedd e'n ffordd o gymdeithasu ond hefyd ddathlu ein crefydd a'r gymuned.
"Fi'n edrych ymlaen at gael e oherwydd pryd fi'n ysgol mae llawer o bobl yn gofyn, 'o beth yw hynna?' a fi wedyn dwi'n gallu addysgu nhw ar ein crefydd a phwysigrwydd yr henna.
"Mae llawer o bobl yn holi cwestiynau, a fi'n mwy na hapus i ateb nhw ac addysgu nhw am y grefydd."
Sut mae henna yn gweithio?
Ar ôl dylunio patrwm ar y croen, mae'n rhaid gadael iddo sychu am rai oriau, cyn i'r pâst sych syrthio i ffwrdd yn naturiol.
Beth sydd ar ôl yw patrwm oren golau ar y croen, sydd yn datblygu'n lliw brown tywyll dros y 48 awr nesaf. Mae'r patrwm yn para am ryw bythefnos.

(o'r chwith) Amna ac Isra - mam Isra oedd artist henna Amna, a nawr Amna sy'n gwneud henna Isra!
Patrymau o bob math
Mae Amna yn gweithio fel artist henna yng Nghaerdydd ers dros ddegawd. Mae hi'n brysur iawn ar hyn o bryd, eglurai, oherwydd fod pawb eisiau cael henna ar gyfer Eid.
"Mae llawer o ferched ifanc yn ei wneud achos mae o rhyw fath o ritual – dyma be' ti'n tueddu i'w wneud cyn Eid. 'Dyn ni wedi tyfu lan gyda fe."
Er fod henna yn rhan greiddiol o draddodiad ffydd Islam, mae hefyd i'w weld mewn nifer o grefyddau a diwylliannau eraill.
Ac yn ôl Amna – sydd yn arbenigo mewn dyluniadau De Asiaidd – mae gan ddiwylliannau gwahanol eu patrymau a'u steil unigryw eu hunain.
"Mae dyluniadau De Asiaidd yn denau a chywrain, tra bod patrymau gwledydd gogledd Affrica yn llawer mwy blodeuog, ac artistiaid ym Mauritius yn gosod tâp ar y croen a thaenu'r henna drosto."
GWYLIWCH: Dathlu hunaniaith Fwslemaidd gyda thatŵ henna
Mae hefyd gwahaniaeth yn y mathau o batrymau sydd yn cael eu dylunio yn ôl pa achlysur sy'n cael ei ddathlu, meddai – a gallwch fynd mor gymhleth ag ydych chi eisiau!
"Ar gyfer Eid, y dwylo sydd fwya' traddodiadol. Ond ar gyfer henna priodasol, dwi'n gwneud y traed, cefn, coesau...
"Gall henna priodferch gymryd unrhywbeth o dair i wyth awr, yn dibynnu ar y maint a'r manylder!"
Perthyn i ddiwylliant
Bydd Mwslemiaid ledled y byd yn dathlu diwedd Ramadan yn y dyddiau nesaf, pan fydd y lleuad cilgant newydd gael ei weld. Byddan nhw yn treulio'r dydd wedyn - Eid al-Fitr - gyda'u teuluoedd, yn addoli a chyfnewid anrhegion.
Mae gwisg arbennig Isra ar gyfer yr achlysur yn barod, a'i llaw wedi ei haddurno'n hardd â henna.
"Fel Pacistani, fi'n gwisgo salwar kameez, sy'n wisg sbarcli, traddodiadol i ni. Un las yw e eleni. Mae henna'n rhan o'r wisg.
"Pryd fi'n gwisgo lan fi'n teimlo bod fi'n perthyn i'r diwylliant a'r crefydd ac mae'n deimlad da."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2024

- Cyhoeddwyd9 Mawrth
