Tudur Hallam: 'Dydyn ni ddim wedi rhoi'r gorau i'r brwydro'

Tudur Hallam yn eistedd yng nghadair Eisteddfod Wrecsam a Dei Tomos yn ei holi
- Cyhoeddwyd
"Yn Ionawr 2025 ges i wybod bod y driniaeth immunotherapy heb weithio ac felly ysgrifennais yr awdl a'r bryddest mewn stad o drallod ac mae hynny'n amlwg wrth ddarllen y cerddi. Doedd dim sicrwydd o gwbl y bydden i yma haf ddiwethaf. Rwy' dal yma wrth gwrs."
Roedd seremoni'r cadeirio yn Eisteddfod Wrecsam yn Awst y llynedd yn un cofiadwy wrth i'r bardd Tudur Hallam ennill y Gadair am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.
Mewn seremoni llawn emosiwn, cododd y pafiliwn ar eu traed i'w gymeradwyo am ei gamp.
Bu'r bardd yn trafod y 'diwrnod bythgofiadwy' hwnnw a'r dyfodol ansicr mewn cyfweliad o'r galon ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru wrth iddo gyhoeddi cyfrol newydd o gerddi, Y Golau yn y Gadair.
Y cadeirio
Dywedodd Tudur am y seremoni: "Roedd e'n brofiad bythgofiadwy yn sicr.
"Ar y naill law wrth gwrs o'n i eisiau codi, ar y llaw arall, a finne wedi sgwennu'r gerdd dan y fath amodau, roedd rhywbeth chwithig iawn am godi.
"Mae rhywun yn codi i ddathlu, yn codi mewn llawenydd ac wrth gwrs yn fy achos i mae 'na elfen o dristwch oherwydd amodau'r sgwennu.
"Un peth weda'i - yn dirion fe'm cadeirwyd. Mae eisiau diolch i'r Eisteddfod am y gofal ges i ar y dydd. Mae eisiau diolch i Mererid (Hopwood) am arwain y seremoni. A heb os, roedd yn brofiad mawr i ni fel teulu, yn brofiad i'r plant i gofio.
"Pan gododd y gynulleidfa'r eildro, roedd hynny yn fy nghyffwrdd i, rhaid dweud. I ddechrau braidd o'n i'n medru cerdded. O'n i dan deimlad wrth gwrs, a braidd o'n i'n gallu rhoi un goes o flaen y llall.
"A wedyn dyma fi'n mynd heibio ffrindiau a nhw'n bloeddio a hynny'n helpu fi. A wedyn mynd heibio ffrind arall a hwnnw'n gweiddi 'gwena Tudur, ti 'di ennill!'.
"A dwi'n credu ges i nerth o rywle i wneud y cyfweliadau, i fod yna yn y seremoni, achos dechrau'r wythnos o'n i'n eitha' sâl a fyddwn i ddim wedi gallu bod yn y Steddfod."

Tudur Hallam yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
'Dyfodol ansicr'
Enillodd Tudur, oedd yn bennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe am chwarter canrif, y wobr am ysgrifennu'n 'gignoeth' am ei gyflwr ei hun mewn awdl dan y testun 'Dinas': "Ers clywed bod y driniaeth heb weithio a bod gen i ychydig fisoedd i fyw, ers hynny fe lifodd yr awdl allan ohono'i yn eitha' rhwydd.
"A wedyn wn i ddim pam, ond roedd rhyw awydd ynof i ychwanegu at y pryddest ac, o bosibl, creu casgliad o gerddi.
"Ar hyn o bryd dwi'n o lew. Ambell ddydd fi'n syndod o dda. Ond mae'r dyfodol yn ansicr, ac yn sicr fel mae Mari Grug yn dweud, un dydd ar y tro yw hi.
"Dydyn ni ddim wedi rhoi'r gorau i'r brwydro, ac mae yna o bosib obaith i gael triniaeth arall.
"Does dim gwella, rwy'n gwybod hynny.
"Does dim gwella o ran y canser, ond dwi eisiau cymaint o amser a phosib gyda'r teulu, gyda'r ffrindiau a dyna'r nod."

'Angen ymladd'
Mae'r bobl mae Tudur wedi'u cyfarfod tra'n cael triniaeth am ganser wedi bod yn ysbrydoliaeth pellach iddo, gan gynnwys meddyg o Birmingham oedd wedi creu argraff ddofn arno, gan ysbrydoli un o'r cerddi yn y gyfrol newydd: "Roeddwn i mewn cyflwr o drallod dwfn iawn a thristwch dwfn iawn.
"Ac ar ôl y driniaeth fe ddaeth y meddyg i'n ngweld, i ddweud bod y driniaeth yn llwyddiannus ond hefyd bod angen i fi stopio â'r hunan-dosturi a bod angen i fi ymladd – 'mod i'n ddyn dysgedig ac felly bod angen i fi defnyddio'r ddysg honno a chwilio am bob cyfle posib i ddod o hyd i driniaeth.
"Oedd y meddyg ges i yn Birmingham yn ddyn arbennig. Mae'n dweud yn y gerdd amdano fy mod i bob bwrpas yn farwedd cyn i fi ddod ar ei draws e. Fe wnaeth fynnu mod i yn ysgwyd fy hunan o'r cyflwr o alar a cholled a sioc a 'mod i yn brwydro.
"A bydda i wastad yn ddiolchgar iddo am wneud hynny."
Bocs coffa
Mae'r gerdd Adfeilion yn ei gyfrol newydd yn cloi drwy sôn am greu bocs coffa i'w blant, Garan, Bedo ac Edwy: "Dyna sy'n cloi y bryddest mewn ffordd, dyna pam mae mor emosiynol.
"Yn y cyfnod hwnna ar ôl clywed bod y driniaeth ddim wedi gweithio ac yn credu bod gen i fawr ddim amser, dyma fi'n dod ar draws y syniad yma o baratoi bocs coffa.
"Mae'r gerdd yn sôn am gasglu gwahanol drugareddau i'w rhoi yn y bocs. Pethau y byddai'r plant yn medru eu byseddu, eu teimlo ac wrth wneud hynny cofio am eu tad.
"A dwi'n sôn am sgwennu cerdd yr un iddyn nhw a'u cau yn y bocs cof.
"Bydd 'na gerddi eraill yn y bocs coffa, dim ond ar eu cyfer nhw."
Adfeilion (detholiad)
Tair cerdd Gymraeg.
Un yr un i'r plant.
Dyna'r cyfan dw i am ei adael ar fy ôl.
Un vers libre i'r hynaf.
Un cywydd i'r mab canol.
Un soned iddi hi, fy mechan.
Tair cerdd gyfrinach
i'w rhoi yn y bocs cof
yn ymyl hen luniau
a thrugareddau f'ewyllys amgen:
fy nghap Swans, fy menyg rhedeg,
f'organ geg, fy hen waled ledr,
tocyn pwll 'nabod fy nhad-cu a'i droed gwningen,
Y Plentyn nad oedd am Gysgu,
fy sbectol ddarllen a'm modrwy briodas,
blwch cudyn gwallt eu babandod
a'm gwelltyn i a'u mam yn un bleth,
Cwm-Rhyd-y-Rhosyn a'm sgarff Scarlets,
ac yn destament llên,
copi'r un o 'Siwan', 'Y Llwynog' a'r 'Condemniedig',
i oleuo'u ffordd yn y byd.
Trysorau a bigais
wrth nythu glanhau'r tŷ
yn gysgod ohonof.
Ac yn y bocs creiriau tra Eifftaidd hwn,
rwy'n rhoi yn fy sgrôl un swyngerdd arall
i'w clymu'n drindod am byth.
Dychmygaf y tri'n agor eu cof
ac yn byseddu adfeilion eu tad,
ac ydw, rwy'n rhacs jibidêrs.
Detholiad o gerdd Adfeilion o gyfrol Y Golau yn y Gadair gan Tudur Hallam, gyda chaniatâd Cyhoeddiadau Barddas
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2025
