Cymru'n dechrau treialu pêl-droed haf i daclo problemau tywydd

Cae pêl-droed dan ddŵr yn Rhaglan
Disgrifiad o’r llun,

Cae pêl-droed dan ddŵr yn Rhaglan

GanIolo Cheung
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd clybiau ieuenctid yng Nghymru yn dechrau cynllun peilot fis yma, i weld a allai chwarae pêl-droed dros yr haf ddatrys pryderon cynyddol dros ohirio gemau oherwydd y tywydd.

Mae'r treialon yn rhan o Brosiect Chwarae - ymgais gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i edrych ar ffyrdd o wella'r profiad i chwaraewyr ieuenctid ac oedolion.

Dywedodd un tîm sy'n rhan o'r cynllun prawf y gallai arwain at fwy o ddiddordeb, yn enwedig gan fod chwarae mewn tywydd gaeafol oer a gwlyb yn brofiad "diflas" i blant ifanc.

Ond mae clybiau eraill wedi gwrthod y cynnig, oherwydd pryderon gan gynnwys colli incwm, argaeledd dros wyliau'r haf, a chyd-daro gyda chwaraeon eraill.

Mae data dros y pedwar tymor llawn diwethaf yn dangos bod 21,800 o gemau ar draws Cymru wedi eu gohirio oherwydd y tywydd – bron i un o bob pum gêm.

Mae'r broblem yn llawer gwaeth dros fisoedd y gaeaf, gyda data CBDC yn dangos bod 30% o gemau wedi'u gohirio hyd at nawr yn nhymor 2025/26.

Dywedodd rhai clybiau wrth BBC Cymru eu bod nhw prin wedi chwarae gemau ar gaeau glaswellt ers mis Tachwedd, a hynny ar ôl i Gymru weld 20% yn fwy o law dros y gaeaf hwn na'r cyfartaledd.

Mae Cynghrair Ieuenctid Gwynedd yn un o bedair ardal ble bydd timau ieuenctid nawr yn treialu tymor o bêl-droed haf 2026, fel rhan o gynllun CBDC.

Dion Jones o CPD Ieuenctid Deiniolen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dion Jones yn teimlo y bydd y cynllun prawf yn cynnig gwell profiad i'r chwaraewyr ifanc, ond mae'n dweud nad oedd pob clwb yn yr ardal wedi eu darbwyllo

"Cynnig mwy o amser chwarae i'r plant a phobl ifanc [ydi'r nod]," meddai cadeirydd CPD Ieuenctid Deiniolen, Dion Jones.

"Hefyd fel bod ni ddim yn creu mwy o gostau dros y gaeaf o ran llogi astros.

"Mae 'na wrthwynebiad wedi bod, 'dan ni'n cydnabod hynna fel cynghrair, ond eto treial ydi o, felly os dydi o ddim yn gweithio, nawn ni fynd yn ôl i'r hen ffordd."

Mae Glesni Jones, sy'n hyfforddi'r timau dan-8 a dan-10, yn cytuno fod pêl-droed haf yn syniad da.

"Bydd plant yn cael mwy o gyfleoedd i chwarae mewn tywydd gwell, mae lot o blant yn cwyno bod hi'n rhy oer i chwarae [yn y gaeaf]," meddai.

Disgrifiad,

Ai pêl-droed haf yw'r ateb i ddelio â thywydd Cymru? Dyma'r farn CPD Ieuenctid Deiniolen

Mae'r chwaraewyr hefyd yn edrych ymlaen at gemau yn y tywydd braf.

"Yn y gaeaf ti'n mynd yn oer a ti'n dechrau crynu a colli concentration ar y gêm," meddai Tomos, 9.

Ychwanegodd Owi, 8: "Bydda ti ddim yn cael annwyd yn y glaw, a bydd o ddim yn oer – yn yr haf ti'n licio mynd allan lot i deimlo'r haul arna chdi."

Beth yw Prosiect Chwarae?

Bydd clybiau a chynghreiriau sy'n rhan o'r treialon pêl-droed haf eleni yn gweld eu tymor yn rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd, gyda saib o thua pedair wythnos o gwmpas mis Awst.

Bydd CBDC hefyd yn cynnig opsiwn arall i glybiau dreialu fel rhan o Brosiect Chwarae, fyddai'n ychwanegu saib o wyth wythnos dros y gaeaf fel rhan o'r tymor arferol 2026/27.

Er mwyn creu lle ar gyfer hynny, byddai cynghreiriau sy'n dewis yr opsiwn hwnnw'n dechrau eu tymor yn gynt ym mis Awst, gan orffen ym mis Mehefin neu Orffennaf.

Pêl-droed ieuenctid anghystadleuol fydd yn rhan o'r cynllun peilot i ddechrau, ond gallai timau ieuenctid hŷn a thimau oedolion fod yn rhan o dreialon yn y dyfodol.

Ben Field, Pennaeth Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dau brif amcan Prosiect Chwarae yw gwella'r profiad ar gyfer plant ac oedolion, a lleihau nifer y gemau sy'n cael eu gohirio oherwydd y tywydd, meddai Ben Field

"Mae'r ystadegau ar faint o gemau sy'n cael eu gohirio gymaint yn uwch pan 'dych chi'n sôn am fisoedd Tachwedd i Chwefror – llynedd roedd bron i 48% o gemau wedi canslo yn y cyfnod yna," meddai Ben Field, pennaeth pêl-droed llawr gwlad CBDC.

"Rydyn ni'n rhoi cynnig ar gwpl o gynlluniau prawf achos tan 'dyn ni'n trio rhywbeth, fyddwn ni ddim yn gwybod beth yw'r canlyniad.

"Gofyn a oes diddordeb wnaethon ni, felly does neb yn cael eu gorfodi a dydyn ni ddim am fynnu hyn ar unrhyw gynghrair yn y wlad."

Er mai prin iawn mae pêl-droed haf yn cael ei chwarae ym Mhrydain, mae Cymru hefyd yn gobeithio dysgu gwersi o Weriniaeth Iwerddon, sydd wrthi yn y broses o newid eu calendr cyfan nhw i dymor haf.

"Mae pob opsiwn ar y bwrdd ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd Mr Field.

"Bydd rhaid i ni adolygu canlyniadau'r cynlluniau peilot yna... cyn mynd yn ôl i CBDC a'r bwrdd i wneud penderfyniadau hir dymor."

Gwyliau, criced ac arian

Ni fydd CPD Ffostrasol yng Ngheredigion yn rhan o'r treialon presennol, ond mae un o hyfforddwyr ieuenctid y clwb yn dweud na fyddai'n "gwrthwynebu'r syniad" o bêl-droed haf.

"Pan mae'r tywydd yn wael 'dach chi'n gallu gweld ar bersonoliaeth y plant, eu hymddygiad nhw, 'dyn nhw ddim isio bod yna… a ti ddim yn beio nhw," meddai Meredydd Derbyshire.

"Mae caeau 3G yn help, ond does dim cymaint ohonyn nhw yn yr ardal yma. A dwi'n mwynhau'r tymor pêl-droed traddodiadol, a bod nhw'n cael y cyfle i chwarae ym mhob tywydd.

"Ond o ran chwarae yn yr haf, maen nhw'n cael cyfle i chwarae yn gyson."

Caio, Arthfael, Gruffydd ac Efan o CPD Ieuenctid Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun,

Cymysg yw'r farn am bêl-droed haf ymhlith chwaraewyr ifanc Ffostrasol - Caio, Arthfael, Gruffydd ac Efan

Ond cymysg yw'r farn ymhlith rhai o'r chwaraewyr.

"Well 'da fi gadw pethau fel ma' fe, achos yn yr haf pan mae'r tywydd yn neis ti'n gallu ymlacio a mynd ar wyliau gyda teulu ti," meddai Caio, 14.

Cytuno mae Arthfael, 12, sy'n dweud nad yw chwarae dros y gaeaf yn ei boeni.

"Mae lot o stwff yn mynd 'mlaen yn yr haf fel Royal Welsh a 'Steddfod - lot o bethe yn clasho," meddai.

Ond mae Gruffydd, 11, yn credu y byddai mwy o blant yn mwynhau chwarae pan mae'r tywydd yn well.

"Yn y gaeaf mae lot mwy o gemau'n cael eu canslo achos y glaw a'r rhew – yn yr haf bydde cyfle i chwarae mwy," meddai.

Ychwanegodd Efan, 13: "Bydd well 'da fi'r caeau lot mwy sych a mewn gwell cyflwr.

"Dros y gaeaf mae gormod o fwd ar y cae, ac mae'n wahanol i chwarae arno."

Meredydd Derbyshire, hyfforddwr tîm dan-14 Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Meredydd Derbyshire yn "ffan mawr o gae gwair", mae'n dweud y byddai mwy o gyfleusterau 3G a chaeau artiffisial yn helpu clybiau

Mae rhai clybiau, fel CPD Ieuenctid Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi gwrthod y cyfle i roi cynnig ar bêl-droed haf am resymau ariannol.

"Ein prif ffynhonnell ni o incwm yw twrnamentau dros yr haf, ac mae'r rheiny'n gwneud miloedd i ni sy'n helpu ein cynnal ni drwy'r flwyddyn," meddai cadeirydd y clwb, Amie Dembicki.

"Felly tase nhw'n newid y tymor i chwarae dros yr haf, bydden ni a llawer o glybiau eraill o bosib methu gwneud hynny."

Ychwanegodd ysgrifennydd Rhaglan, Jamie Finlay, y gallai pêl-droed haf hefyd wrthdaro gyda diddordebau eraill.

"Doedden ni ddim yn sylwi faint o bobl oedd yn chwarae criced, pêl-rwyd a chwaraeon eraill dros yr haf, ac wrth gwrs mae pobl yn meddwl am eu gwyliau haf," meddai.

"Ein hawgrym ni i'r gymdeithas bêl-droed oedd gwell mynediad i gaeau 3G – byddai hwnna'n well opsiwn i ni."

Sesiwn ymarfer i glwb Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae cystadlaethau pêl-droed yn gallu denu incwm sylweddol i rai clybiau

Er bod CBDC wedi buddsoddi miliynau mewn caeau artiffisial dros y blynyddoedd diwethaf, meddai Ben Field, dywedodd bod "bwlch sylweddol" o hyd rhwng yr arian sydd ar gael a'r galw cynyddol.

"Beth 'dyn ni'n ceisio ei wneud yw ymateb i'r galw fel mae'n sefyll ar hyn o bryd," meddai.

"Mae'r gêm yn tyfu, felly bydd buddsoddi mewn cyfleusterau 3G newydd yn cyfrannu at hynny – ond dyw e ddim am fod yn ddigon i helpu drwy gydol tymor y gaeaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.