Cyrraedd targed o 20,000 o ferched yn chwarae pêl-droed yng Nghymru

Mwy fwy o ferched wedi cofrestru i chwarae pêl-droed yng Nghymru nac erioed o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae dros 20,000 o ferched a menywod wedi cofrestru i chwarae pêl-droed yng Nghymru, y nifer uchaf erioed ar gofnod.
Dyma oedd un o amcanion strategaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ein Cymru: Amdani Hi, a gafodd ei chyhoeddi yn 2021.
Fe ddaw'r garreg filltir yn dilyn blwyddyn gyffrous i dîm y merched wrth iddyn nhw gyrraedd pencampwriaeth yr Euros am y tro cyntaf.
Ond er cyrraedd y targed, dywed Bethan Wolley o'r gymdeithas ei bod eisoes yn "edrych ymlaen at y dyfodol" i sicrhau bod y gamp yn fwy hafal fyth.
'Mor bwysig i gyrraedd y targed'
Mae cyrraedd y nod yn gynt na'r disgwyl yn destun balchder mawr i'r gymdeithas, fel y sonia Bethan Woolley, Arweinydd Strategaeth Menywod a Merched:
"Mae mor bwysig i gyrraedd yr 20,000 o chwaraewyr merched, 'da ni 'di bod yn gweithio at hyn am flynyddoedd nawr," meddai.
"'Dan ni hefyd eisiau parhau i weithio ar hynny i wneud yn siŵr bod 'na lefydd i ferched dal i chwarae mewn llefydd sy'n gyfforddus a rhoi hyder i ferched i chwarae."

Mae yna fwy o waith i'w wneud i dyfu gem y menywod yma yng Nghymru, meddai Bethan Woolley
Yn ôl ystadegau'r gymdeithas, mae twf o 83% wedi bod yn nifer y merched rhwng 14-17 oed sydd wedi cofrestru.
Esbonia Ms Woolley ei bod "wedi bod yn anodd cael merched yn rhan o'r gêm, a 'dan ni wir wedi rhoi pwyslais a ffocws ar sut 'dan ni'n gallu cael mwy o ferched yn eu harddegau i chwarae."
Ychwanegodd fod 'na "lot o resymau" pam eu bod wedi llwyddo i gyrraedd y targed yn gynt na'r disgwyl.
'Clybiau, gwirfoddolwyr a'r cynghreiriau yn allweddol'
Gyda'r gymdeithas wedi creu prosiectau i annog merched, dywed Ms Woolley bod "y clybiau, gwirfoddolwyr a'r cynghreiriau" wedi bod yn allweddol "oherwydd nhw sydd ar y llawr bob dydd yn neud yn siŵr bod llefydd i ferched chwarae mewn lle cyfforddus".
Er y llwyddiant diweddar, dywedodd fod dal gwaith i'w wneud er mwyn gwneud y gêm yn hafal.
Dywed ei bod eisoes yn "edrych ymlaen at y dyfodol, sut gallwn ni wneud yn siŵr bod 'na fwy o gyfleoedd lle mae merched yn chwarae yn gyfforddus."

Mae Chloe yn gobeithio chwarae i Gymru yn y dyfodol
Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn hanesyddol i'r tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf.
Ac mae'r llwyddiant yn amlwg wedi gadael ei farc ar y genhedlaeth iau.
Dywed Chloe, 14 o Ysgol Gyfun Gwyr sy'n chwarae i glwb Abertawe, ei bod "wir yn mwynhau pêl-droed a chwarae gyda fy nhîm oherwydd mae'n ffordd dda i ddangos fy hunain a fy nghreadigrwydd".
"Dwi'n gobeithio chwarae i Gymru oherwydd dwi wir yn mwynhau chwarae pêl-droed, dwi'n gobeithio chwarae i safon uwch."

Mae chwarae pêl-droed wedi rhoi mwy o hyder i Bella
Ychwanegodd Bella Davies, 11 o Ysgol Uwchradd Aberteifi, ei bod hi'n mwynhau chwarae'r gamp "achos mae'n neud fi'n hapus".
"Mae chwarae pêl-droed gyda merched yn rhoi mwy o hyder i fi ac yn rhoi cyfleoedd i greu mwy o ffrindiau," meddai.
Ers lansio'r strategaeth 'nôl yn 2021, roedd y gymdeithas wedi cyrraedd 45% o'u targed erbyn tymor 2023/24 cyn cyrraedd y nod eleni.
Ymhlith y nodau eraill sy'n rhan o'r strategaeth mae dyblu'r nifer o gefnogwyr, dyblu'r buddsoddiad a chynyddu cynrychiolaeth.
'Gallu gweld y ffigwr yn dyblu a dyblu eto'
Wrth ymateb i'r garreg filltir, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney fod yna "alw aruthrol" am gêm y merched yng Nghymru.
"Mae'n symudiad anhygoel sydd ddim yn stopio, felly pob tro ni'n edrych ar y nifer sy'n cofrestru mae'n mynd yn uwch ac uwch," meddai.
"Rydym yn gweld twf aruthrol yng ngêm y merched, ac roedd cyrraedd y ffigwr 20,000 yn flaenoriaeth i ni.
"Rydym wedi cyrraedd y rhif hwnnw, dwi ond yn gallu gweld y ffigwr hwnnw yn dyblu a dyblu eto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2025
