Dysgu Cymraeg yn Utica wedi 'helpu fi ffeindio fy llais eto'

Jen Rizio
- Cyhoeddwyd
Mae dysgu'r iaith Gymraeg wedi helpu Jen Rizio o Utica, Efrog Newydd i ymdopi gyda ei chyflwr niwrolegol a PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma).
Dechreuodd Jen ddysgu'r iaith ar ôl cyfnod yn yr ysbyty yn Chicago pan oedd hi'n dioddef meigryn (migraine) ac mi glywodd enw lle Llanfairpwll am y tro cyntaf, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Roedd gen i boen pen am flynyddoedd heb stopio.
"Yn 2020, o'n i'n gwylio fideo firal ar YouTube lle oedd Liam Dutton (y cyflwynydd tywydd) wedi dweud yr enw Llanfairpwll ac mi wnes i benderfynu dechrau dysgu Cymraeg yn y fan a'r lle."
Wedi gadael yr ysbyty, cychwynodd Jen ar sesiynau bioadborth (biofeedback) i helpu ei chyflwr gan ddefnyddio'r Gymraeg yn y sesiynau. Mae bioadborth yn cysylltu'r meddwl a'r corff drwy ddefnyddio synwyryddion i fonitro prosesau corfforol fel curiad y galon.
Meddai: "Roedd siarad Cymraeg y peth cyntaf i helpu fi gyda tyndra a circulation ar y sgrîn bioadborth. Dw i'n teimlo bod siarad Cymraeg wedi helpu ailweirio fy mrên."

Jen ar y pier ym Mangor
Hwyl gyda'r iaith
Bu Jen hefyd yn gwylio rhaglen Now You're Talking Welsh am 10 munud dwywaith bob dydd ond daeth y trobwynt wedi iddi gychwyn dysgu Cymraeg efo tiwtor ar-lein, meddai: "Mi wnes i basio yr arholiad Mynediad yn 2024, ac mi af i i Gymru i sefyll yr arholiad Sylfaen ym mis Mehefin eleni.
"Mae fy niwtor yn bendigedig! Dw i'n teimlo bod y tiwtoriaid dysgu Cymraeg yn ardderchog yn paratoi y dosbarth i sefyll yr arholiadau."
Ac mae Jen wedi cwympo mewn cariad gyda'r Gymraeg, un o chwe iaith mae hi wedi ei ddysgu: "Dw i'n caru sain yr iaith; mae mor hwyl!
"Fy hoff bethau ydy'r llythrennau arbennig: ll, ch, ac yn y blaen. Hefyd dw i'n mwynhau sgwennu yn Gymraeg achos mae'r iaith mor disgrifiadol."
Yn ogystal â Chymraeg mae Jen yn siarad Saesneg, Sbaeneg, Eidaleg, ychydig o Hebraeg a Rwsieg - "ond Cymraeg ydy fy hoff un" meddai.
Y llynedd enillodd hi'r drydedd wobr am ei cherdd Fy Ffrind yng nghystadleuaeth Merched y Wawr i ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg.
Helpu dysgwyr
Mae ei hangerdd am yr iaith wedi arwain ati'n creu sianel YouTube i helpu dysgwyr eraill o'r enw Curious About Welsh? ac mae wedi cyfarfod llawer o bobl drwy ddysgu'r iaith erbyn hyn: "Dw i'n trio helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg achos dw i eisiau cadw hanes Cymru yn fyw.
"Yn anffodus, roedd y Blue Books a'r Welsh Not yn trio stopio bobl i siarad eich iaith, a newid iaith busnes a chyfraith i'r Saesneg.
"Rŵan, mae gan y Llywodraeth brosiect Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a dw i'n gobeithio helpu cefnogi pobl i ddechrau siarad neu ailddechrau siarad Cymraeg efo ffrindiau, teulu ac yn y busnesau.
"Mae gen i lond bol o bobl yn galw Cymraeg yn 'useless'. Cymraeg ydy iaith yr wlad, iaith bobl Cymru. Cymru am byth!"
Mae Jen yn adnabod siaradwyr Cymraeg eraill yn America ac mae hi'n mynd i sgyrsiau Cymdeithas Madog: "Mi wnaeth pobl sgwennu ata i ar ôl gwylio fy sioe YouTube.
"Ro'n i wrth fy modd pan oedd yr actores Cathe B wedi gofyn i mi siarad efo hi ar ei rhaglen YouTube hi, The Aunty Sochelle Hour-Ish Show am siarad Cymraeg. Hefyd, mi wnes i siarad ar y radio lleol am fy nysgu Cymraeg ac y pwysigrwydd o drio pethau newydd.
"Dw i'n caru rhannu fy joio. Dwi'n awtistig a ieithoedd ydy fy hoff beth i ddysgu. Wrth gwrs, Cymraeg ydy fy hoff iaith i siarad.
"Mae gen i PTSD, ac mae siarad Cymraeg yn helpu fi teimlo mwy hyderus ac ymlaciol.
"Iaith y Nefoedd yn helpu fi ffeindio fy llais eto ac mae gen i obaith rŵan."
Y peth anoddaf am ddysgu Cymraeg yw'r treigliadau, meddai Jen: "Dw i'n siŵr does dim syndod mae'r treigladau yn anodd i mi, ond dw i'n trio fy ngorau glas."
Meddai Jen, sy' wedi bod i Fangor ac i Ynys Môn ym Mehefin 2024: "Mae gen i un person yn y dosbarth Sylfaen yn byw yn yr Unol Daleithiau hefyd.
"Yn anffodus, does dim llawer o bobl yn fy ardal i'n siarad Cymraeg, ond mae fy ffrind coleg gyda diddoreb yn dysgu.
"Dw i'n gobeithio symud i Gymru un dydd."
Beth yw cyngor Jen?
"Y sgwrs cyntaf ydy y mwya' anodd, ac wedyn bydd yn haws. I gychwyn, gwrandewch ar radio Cymraeg am 10 munud dwywaith y diwrnod. Ymarfer mwy a mwy. Ysgrifennwch eich rhestr siopa yn Gymraeg. Cyfrifwch yn Gymraeg. Trïwch gwrs dysgu Cymraeg. Gwyliwch fy rhaglen Curious About Welsh? a rhaglenni eraill ar Youtube.
"Mae'n iawn i wneud mistêcs neu defnyddio ychydig o eiriau Saesneg. Dal ati!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
