Creadigrwydd teulu'r Glyniaid

Gareth, Glyn, Peredur, Seiriol a Ffion Dafis
  • Cyhoeddwyd

Os oes 'na un gair sy'n dod i'r meddwl pan yn sôn am deulu'r Glyniaid, creadigrwydd yw hwnnw.

Mae Gareth Glyn yn gerddor blaenllaw ac yn gyn-gyflwynydd Y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru am ddegawdau.

Ei ddau fab yw Peredur a Seiriol. Peredur enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni am ei gyfrol 'Anfarwol'.

Mae Seiriol Davies yn ddramodydd, yn sgwennwr ac yn berfformiwr o fri felly does dim syndod mai creu cynnwys neu gerddoriaeth oedd wrth wraidd magwraeth y ddau ar Ynys Môn.

Ar gyfer ei rhaglen ar gyfer BBC Radio Cymru, Ffion Dafis aeth draw i gael sgwrs efo'r tri, a dyma bum peth gododd yn ystod y sgwrs honno.

Magwraeth Greadigol

Disgrifiad,

Geiriau gwreiddiol gan Peredur Glyn o'r enw Y Delyn yn cael eu canu ar dôn Carol y Blwch

Yn ôl Gareth Glyn, roedd ei feibion yn dangos arwyddion o greadigrwydd "ers y foment iddyn nhw allu gafael mewn ysgrifbyn, gyda geiriau ac yn gerddorol."

Gan fod Gareth yn gerddor ei hun, roedd 'na ddylanwad amlwg ar ei feibion i ymddiddori yn y pwnc ac i chwarae offerynnau gwahanol.

"Roedden nhw'n dysgu'r piano a'r corn ffrenging i Peredur a'r Cello i Seiriol. Roedd 'na fagwraeth gerddorol yma, ond doedd dim angen gwthio dim arnyn nhw, roedd o ynddyn nhw'n gynhenid."

Mae Gareth hefyd yn sôn fod yntau a'i wraig, Eleri "wrth eu boddau fod y ddau wedi tyfu i fyny i fod yn arweinwyr yn eu maesydd, pwy all beidio teimlo'n falch o ddau fab fel 'na."

'Peredur y dyn geiriau'

Perdur GlynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Peredur Glyn yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel 'Anfarwol' yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni

Mae Peredur yn awdur, yn enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, a hefyd yn Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Yn y sgwrs gyda Ffion, mae Peredur yn sôn am ei fagwraeth gerddorol, a'r ffaith ei fod yn canu'r piano, y corn Ffrengig ac yn canu mewn corau hefyd pan yn blentyn. Ond roedd o wastad yn cael ei dynnu "at eiriau ac ysgolheictod."

"Nes i sylweddoli'n weddol fuan mai hobi a diddordeb oedd cerddoriaeth yn fwy na gyrfa. Ond dwi'n hapus efo'r cyfeiriad dwi wedi mynd achos dwi'n gallu cyfuno fy niddordeb mewn cerddoriaeth efo fy mywoliaeth mewn geiriau.

"Dwi'n gweld fy hun fel awdur yn y genre arswyd cosmig ac mae hwn yn deillio o fath o ffuglen ragweledol oedd yn boblogaidd yn y 1920au a 30au yn America yn enwedig.

"Un o nodweddion hwn yw bod yr arswyd yn dod o fodau dynol yn sylweddoli fod na bethau yn y byd a'r bydysawd sydd yn fwy pwerus na nhw. Mae'n syniad o'r datguddiad mawr yn rhan o'r genre.

"Mae fy nghymeriadau i yn aml yn byw bywyd lled ddedwydd ac mae rhywbeth yn digwydd sy'n ei gwneud nhw sylweddoli fod na rhywbeth am y byd nad oedden nhw wedi sylweddoli o'r blaen.

"Mae arswyd cosmig yn gadael i mi ddweud straeon cyffroes ac anturus gan hefyd roi cyfle i mi wneud trosiadau i sôn am bethau go iawn," meddai.

Seiriol y perfformiwr sy'n 'torri tir newydd'

Mae Seiriol yn actor sydd wedi perfformio ar nifer o lwyfannau theatrau ar draws Prydain, ond mae'n falch iawn o'i wreiddiau ar Ynys Môn.

Mae tirwedd a diwylliant Môn yn aml yn cael eu cynnwys yng ngwaith Gareth Glyn, ac mae Seiriol hefyd yn hoff o ddehongli'r hyn sydd o'i gwmpas.

"Mae tirwedd a'r fytholeg sydd wedi'i seilio oddi fewn ohono fo yn rhan fawr o waith Dad, a finnau hefyd, dwi'm mwynhau ail-ddehongli ac ail-dreulio straeon sydd o'n cwmpas ni.

"Dwi'n mwynhau edrych ar naill ai mytholeg neu'r hen war horses ein hanes ni ac edrych arnyn nhw o ochr mwy camp, mwy theatraidd achos mae 'na lot o gamprwydd yn yr holl straeon ma," meddai.

Mae sioeau sy'n gwthio'r ffiniau yn elfen bwysig o waith creadigol Seiriol ac nid yw'n ysgrifennu er mwyn ysgrifennu, mae ganddo'r ysfa i ddweud rhywbeth.

"Pan mae rhwyun yn gofyn i mi addasu rhywbeth, dwi ddim yn mwynhau y 'sgwennu yn llawn tan i mi ffeindio'r bit sydd yn fy nychryn i. Pam arall y base ti'n sgwennu rhywbeth?

"Dwi'n mwynhau gwneud i bobl chwerthin a thanio rhywbeth yn yr ystafell. Dwi'n teimlo cyfrifoldeb i drio neud i bobl deimlo rhywbeth gwahanol.

"Mae gen i arddull agored iawn sy'n rhoi cyfle i mi siarad efo pawb, dim jest y pobl sy'n cytuno efo fi," meddai.

Ond mae Peredur yn teimlo fod yna wahaniaeth o ran creadigrwydd o ysgrifennu nofel i'r hyn mae ei dad a'i frawd yn ei neud.

"Mae nhw ar y cyfan yn creu rhywbeth sydd yn cael ei berfformio, ond mae rhywun yn darllen nofel sydd yn broses reit breifat a phersonol. Does gyno chi ddim syniad beth yw eu hymateb nhw os nad ydyn nhw yn siarad efo chi.

"Mae hi'n neis cael pobl yn trafod dy waith di ac mi faswn i'n hoffi gweld mwy o hynny yn digwydd mewn diwylliant Cymraeg," meddai.

Gareth a'r genres cerddorol

Gareth Glyn

Mae Gareth Glyn yn cael ei gysylltu â sawl genre o gerddoriaeth, ond mae well ganddo rhai genres yn fwy na'r lleill.

"Mi fyswn i wastad wedi dweud mai ;sgwennu ar gyfer cerddorfa, achos mae fel cael llond bocs o deganau i chwarae gyda nhw, 'da chi'n gwybod fod pawb yn y gerddorfa yn mynd i fod y gorau sydd ar gael.

"Mewn gwirionedd tydi hi ddim yn beth hawdd i 'sgwennu i gerddorfa, a gan fy mod i'n licio tynnu lluniau mewn cerddoriaeth, dwi ddim yn dda i fod yn berffaith onest gyda cerddoriaeth absoliwt - cerddoriaeth sydd yn bodoli yn ei rhinwedd ei hun.

"Dwi'n licio disgrifio rhywbeth yn y gerddoriaeth, fel mynegiant chewch chi ddim gwell na'r llais dynol. Dwi'n ei chael hi'n hawdd iawn i gyfansoddi i lais achos mae'r geiriau i bob pwrpas yn 'sgwennu'r peth i chi.

"Dyna pam mae opera wedi bod yn atyniad i mi erioed ac ro'n i wrth fy modd yn cael cyfle i wneud un o'r rheiny, achos yn fan yna mae'r holl ddisgyblaethau yn dod at ei gilydd, cael 'sgwennu i lais a chael 'sgwennu i gerddorfa.

"Dwi wedi dechrau gwneud mwy o opera rwan ac mi faswn i'n hapus iawn i barhau hefo hynny. Opera amdani," meddai.

'Mawredd Taid' - T. Glynne Davies

T Glynne DaviesFfynhonnell y llun, Wikipedia

Tad Gareth a thaid Seiriol a Peredur yw'r diweddar T. Glynne Davies a fu farw yn 1988.

Roedd yn brifardd, nofelydd ac yn ddarlledwr. Erbyn hyn mae Peredur yn gweithio ar waith ei daid.

"Fe wnaeth Taid farw pan o'n i'n saith oed. Do'n i ddim yn ei nabod o mor dda a hynny achos doedd o ddim yn byw yn agos i ni ar y pryd.

"Ond yn y blynyddoedd ers hynny dwi wedi darllen y rhan fwyaf o'i waith o, a'i brif nofel o oedd 'Marged', nofel, fawr swmpus o'r 1970au am fywyd yn Llanrwst rhwng y 1870au tan y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Tydi Marged heb fod mewn print ers tro byd, mae hi'n gan mlwyddiant geni Taid yn 2026, ac fe wnaethon ni feddwl y base hi'n syniad da trio cael Marged wedi'i ail gyhoeddi ar gyfer cynulleidfa heddiw.

"Dwi wedi cael boddhad a mwynhad yn mynd drwyddo fo achos dwi wrth fy modd efo'r syniad y bydd cynulleidfa newydd yn cael cyfle i'w darllen hi.

Un arall sy'n dathlu pen-blwydd arbennig y flwyddyn nesaf yw Gareth a fydd yn 75.

Wrth sôn am ei dad, roedd Gareth yn difaru un peth hyd heddiw nad oedd wedi'i gyflawni cyn i'w dad farw yn 1988.

Un o ganeuon amlycaf Gareth Glyn yw Llanrwst, ble mae 11 o denorion gwahanol wedi recordio fersiwn ohoni.

"Mae 'na gefndir chwerw felys i'r gân yna. Fe ddechreuodd o gyda comisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yn Llanrwst yn 1989.

"Roedden nhw eisiau unawd i denor ar gyfer y rhestr testunau. I mi roedd hwnna'n hawdd i'w ddewis achos gan ei fod o yn Llanrwst, dwi eisiau gosod cerdd am rhywun sydd o Llanrwst, sef Dad ac mae ganddo fo gerdd o'r enw Llanrwst, ac roedd o'n ticio'r bocsys i gyd.

"Nes i osod Llanrwst ac roedd fy nhad yn sâl iawn ar y pryd. Mi nes i ei orffen o yn 1988 a dyna'r flwyddyn lle gollon ni Dad. Dwi'n difaru fy enaid fy mod erioed wedi ei chanu hi idda fo.

"Mae'r drafft cyntaf yn union, arwahan i'r cyfeirnod, ydi beth gafodd ei gyhoeddi wedyn. Dwi byth a hefyd yn deud mai rhywbeth y tu allan i mi oedd yn sgwennu honna ac nid y fi."

Hefyd o ddiddordeb:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.