Traddodiad canu yn dychwelyd i dafarn yn Nyffryn Conwy

Alun ac Ann
Disgrifiad o’r llun,

Alun ac Ann tu ôl i'r bar yn y Tŷ Gwyn

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae tafarn yn Nyffryn Conwy wedi ail-ddechrau traddodiad poblogaidd sydd wedi bod yn rhan o'r gymuned cefn gwlad ers degawdau.

Pob nos Wener yn nhafarn y Tŷ Gwyn ym mhentref Rowen, byddai'r lle dan ei sang gyda phobl yn mwynhau canu Cymraeg.

Roedd pobl yn teithio cyn belled â Wrecsam i fod yn rhan o'r digwyddiad, ac er iddo stopio yn dilyn y cyfnod clo, mae perchnogion newydd y dafarn wedi dechrau ail-gyflwyno'r nosweithiau poblogaidd unwaith y mis.

Mae Ann Anderson yn wreiddiol o'r pentref, ond fe dreuliodd 30 mlynedd yn byw dramor yn Tanzania a Sweden cyn dychwelyd i Gymru. Ers dros flwyddyn mae hi, ei gŵr John a'i brawd Alun wedi cymryd drosodd yn y dafarn.

Ty Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn ar lwybr y pererinion

Dywedodd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru:

"Pan wnaethon ni y penderfyniad i gymryd drosodd, roedden ni jyst eisiau troi'r lle yn ôl i fod yn dafarn a lle i bobl allu dod i gymdeithasu, a'r ffocws ar yr ochr gymdeithasol yna."

Mae Alun wedi bod yn byw yn yr ardal drwy ei oes ac yn cofio'r nosweithiau canu'n dda.

Roedd Alun yn amlwg iawn yn y gymuned yn gymdeithasol; yn chwarae rygbi i dîm Nant Conwy am ddegawdau, ac hefyd yn adnabyddus am gael ei goroni Y Cymro Cryfaf yn 1991 gan y diweddar Orig Williams.

Mae'r tlws bellach wedi'i osod y tu ôl i'r bar i bawb ei weld.

Yn ôl Ann mae'r canu Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o hanes y dafarn.

"Yn ôl be' dwi'n ddeall mae canu Cymraeg wedi bod yn mynd ymlaen yn fan hyn ers degawdau," meddai.

"Mae Dad wedi bod yn canu yma ers 1945 ac roedd canu pob nos Wener yn y cyfnod yna hyd at jest cyn Covid gyrraedd.

"Dwi ddim yn gwybod sut oedden nhw'n llenwi'r lle pob nos Wener ond roedd pobl yn dod yma o bob man."

Mae Ann yn awyddus i apelio at bobl ifanc i ddod draw i ymuno â'r canu ac yn gwahodd unrhyw gôr i gysylltu os ydynt eisiau cyfle i ymarfer.

"Fel mae'r blynyddoedd wedi mynd mae'r hen fois 'ma i gyd yn dechre blino. Pan wnaethon ni gymryd drosodd 15 mis yn ôl y peth cynta' naethon ni 'neud oedd rhoi'r canu Cymraeg yn ôl," meddai.

Alun a thlws Cymry Cryfaf
Disgrifiad o’r llun,

Alun gyda'i dlws am ennill Y Cymro Cryfaf yn 1991

Un o flaenoriaethau Ann, John ac Alun oedd i wneud y dafarn yn un gynhwysol.

Mae Rowen yn bentref sydd â chymdogion Cymraeg yn byw yno, rhai yn ffermio'r tir ac eraill wedi byw yno gydol eu hoes, tra mae trigolion eraill y pentref yn rhai sydd wedi symud i'r ardal i fyw.

Mae lleoliad y pentref ar droed mynyddoedd y Carneddau yn ei wneud yn lle poblogaidd iawn gyda cherddwyr ac mae'r dafarn hefyd wedi'i lleoli ar ochr llwybr y pererinion.

"O'n i'n weld o fel cyfle i ddod â'r dafarn yn ôl yn rhywle i'r gymuned ac i bobl y pentref," meddai Ann.

"Rwy'n ceisio bod yn gynhwysol yn y ffordd yna hefyd achos mae Rowen yn bentra reit wahanol, mae dipyn o Gymry a ffermwyr sydd dal yn asgwrn cefn y gymuned, i ddweud y gwir, ond mae yna lot o bobl yn amlwg wedi symud i mewn.

"Rhai wedi symud ers blynyddoedd maith yn ôl ac yn rhan o'r pentra ers hanner canrif a mwy, ac mae pobl eraill sydd wedi symud i mewn yn reit ddiweddar.

"Yr her ydi cael y cydbwysedd fel bod ni'n cael cadw'r Cymreictod, ond ei wneud o fel bod o'n rhywbeth mae pawb yn gallu teimlo'n rhan ohono fo."

Roedd agor y dafarn hefyd yn golygu y gallai Alun setlo'n ôl a byw yn ei gynefin unwaith eto ar ôl cyfnod o weithio i ffwrdd.

"Mae hyn yn newid i be' o'n i'n 'neud o'r blaen; ro'n i wedi gweithio i ffwrdd o hyd a byth adra a daeth y cyfle i agor y lle 'ma a dod a fo'n ôl i sut oedd o ers talwm," medd Alun.

Wrth edrych i'r dyfodol mae Ann yn bwriadu cyflwyno rhagor o ddigwyddiadau i hybu Cymreictod ac yn annog unrhyw un i fod yn rhan o draddodiad poblogaidd sydd wedi bod yn rhan bwysig o gymuned fach gefn gwlad yng Nghonwy ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig