Melys Edwards: 'Trawma wedi troi fi at Dduw'

Roedd Melys yn un o griw Amour & Mynydd eleni
- Cyhoeddwyd
Pan fentrodd Melys Edwards o Wrecsam i chalet y gyfres ddêtio Amour & Mynydd i chwilio am gariad yn yr Alpau Ffrengig, derbyniodd gryn sylw am ei chredoau am gariad a rhyw.
Dywedodd ar y gyfres: "Dwi ddim yn siŵr os dwi wedi bod mewn cariad efo dyn. Dwi wedi bod mewn cariad efo Duw a Iesu.
"Y cariad yna – dwi'n teimlo'n amazing. I bobl sy' ddim yn Gristnogol, mae'n ickinstantly a dipyn bach yn intense. Dwi heb gael rhyw efo unrhywun ers dwy flynedd a dwi ddim eisiau cael rhyw efo unrhywun tan bo' fi'n priodi nhw."
Bellach mae Melys 'nôl adref yn Wrecsam, yn sengl, ac yn dweud er bod ymddangos ar y gyfres "wedi bod yn sialens bersonol" ei bod hefyd "wedi dysgu llawer" amdani hi ei hun.
Bron i 27,000 o ddilynwyr
"Dwi'n berson authentic a chryf efo gymaint o integrity," dywedodd wrth BBC Cymru Fyw.
A'r cryfder i fod yn hi ei hun sy'n ei hysbrydoli fel influencer digidol hefyd. Mae gan Melys, sy'n 28 oed bron i 27,000 o ddilynwyr ar Instagram.
Mae'n dweud bod postio ar-lein yn ffordd "o roi ei llais allan yno a gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
"Dim fi yn bod yn vain ydi o, dwi jest eisiau helpu pobl a rhannu barn a llais."
O fideos am ei Chymreictod, am fod yn ddynes, ac am ei hegni ysbrydol mae Melys yn creu pob math o gynnwys fideo yn Gymraeg a Saesneg i fynegi hi ei hun.
Mae'n dweud mai "gwaith caled a chysondeb" sydd wedi ei harwain at gymaint o ddilynwyr, a'i bod wedi adeiladu cynulleidfa ar draws y byd sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'i gwreiddiau Celtaidd.

Mae rhai o fideos Cymreig Melys yn ymwneud ag elfennau o hanes Cymru a Cheltaidd fel y Welsh Not, hanes Buddug a'r Mabinogion
Trawma yn arwain at ei thaith ysbrydol
A hithau wedi siarad yn agored am ei ffydd Gristnogol a'i hegni ysbrydol ar gyfres Amour & Mynydd, dywed mai blynyddoedd o drawma a heriau personol wnaeth ei harwain at ffydd.
Eglurai: "Wnaeth fy mherthynas Gristnogol gychwyn bum mlynedd yn ôl.
"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n anxious ac yn depressed, wedyn o'n i efo bulimia, wedyn wnes i symud at gyffuriau achos o'n i'n meddwl fod cyffuriau yn gwneud i chi golli pwysau.
"Yna es i i'r brifysgol yn Llundain a ges i fy nghamdrin yn rhywiol achos o'n i yn passed out ar gyffuriau.

Mae teithio yn rhan fawr o fywyd Melys erbyn heddiw hefyd
Ar ei phen-blwydd yn 21 fe benderfynodd Melys nad oedd hi eisiau "byw fel hyn rhagor". Fe roddodd y gorau i yfed, i gymryd cyffuriau ac fe amgylchynodd ei hun o gwmpas "pobl dda ac iach".
Ond roedd cynnal perthnasau iach yn parhau'n anodd iddi.
Meddai: "Oedd yna dal attraction at bobl wael felly wnes i barhau i weithio ar fy hun. Wnaeth hyn i gyd fy arwain at Dduw ac at yr eglwys."
Ar hyn o bryd mae Melys yn mynychu eglwys Gymraeg yn Wrecsam ond mae'n hoff o fynychu gwasanaethau mewn eglwysi amrywiol.
Dywed am ei thaith ysbrydol: "Pan o'n i'n mynd i'r eglwys i ddechrau ro'n i'n mynd jest i cael bach o ddistawrwydd, wedyn wnaeth fy mherthynas gyda fi fy hun a gyda Iesu dyfu.
"Dwi wedi cwrdd â gymaint o bobl neis mewn cymunedau Cristnogol, a dwi'n teimlo mor agos at Dduw erbyn hyn."

Melys yn ymarfer yoga
Byddai nifer yn galw gonestrwydd Melys am ei daliadau ar y gyfres ddetio Amour & Mynydd yn ddewr, ond nid felly Melys.
Meddai: "Dwi wastad wedi bod o gwmpas personoliaethau cryf, yn y chalet ro'n i o gwmpas pobl faswn i ddim fel arfer o gwmpas llawer, felly wnes i jest meddwl dydi pawb ddim yn meddwl yr un fath â fi.
"Dwi'n teimlo'n anghyfforddus yn meddwl am gael rhyw efo dynion sydd jest ddim yn parchu fy nghorff rŵan, dyna pam dwi am aros nes priodi nes cael rhyw eto, ac roedd gallu lleisio hynny yn y chalet yn bwysig i fi.
"Dwi'n caru fy nghorff sy'n rhan o fy enaid, felly dwi ddim isio boys bach gwirion gyffwrdd fi fel yna.
"Does yna ddim byd casual am adael dyn i mewn i'ch corff dwi ddim yn meddwl."

Melys yn cael ei chario gan weddill o griw Amour & Mynydd eleni
Ydy Melys yn teimlo iddi gael ei derbyn yn chalet Amour & Mynydd?
"Dwi ddim yn meddwl oedd pobl yn deall fi ar y lefel yna. Pan ti'n berson sydd wedi mynd drwy llawer o brofiadau gwahanol sy'n cynnwys lot o trawma, ti'n berson reit ddwfn neu ti am self-destruct fel oeddwn i.
"Ond roedd yn ddiddorol, ac mae wedi fy atgoffa fod pawb yn wahanol. Dwi'n hoffi rhoi fy hun allan yna, a dwi'n curious, dyna pam es i ar y sioe."
Cerddoriaeth
Mae Melys hefyd yn gerddor ac wrthi'n cyfansoddi a recordio caneuon i'w EP cyntaf ar hyn o bryd.
Fel un sydd wedi ei magu yng nghymuned ddwyieithog Wrecsam mae cyfansoddi'n Gymraeg a Saesneg yn bwysig iddi.
"Mae hwnna yn adlewyrchiad gwir ohona i oherwydd dwi wedi siarad Cymraeg yn tyfu fyny ond dwi wedi siarad Saesneg hefyd; byse canu yn Gymraeg yn unig yn misrepresentation."

Melys yn gigio
Sut fyddai Melys yn disgrifio ei cherddoriaeth a hi ei hun fel artist?
"Dwi'n cael fy nylanwadu gan dretadaeth Gymreig a chymunedau Celtaidd. Mae'n gymysg o bethau ac yn cynnwys elfen o farddoniaeth hefyd.
"Dwi wrth fy modd ar y llwyfan, ac wrth fy modd yn dawnsio; ar y llwyfan dwi'n teimlo fwyaf fel fi fy hun."
Ar hyn o bryd mae Melys am flaenoriaethu ei cherddoriaeth yn hytrach na chwilio am berthynas.
Ond un sylweddoliad mae hi wedi ei gael ar ôl cymryd rhan yn Amour & Mynydd yw, "mae angen mwy o bobl fel fi ar y teledu, pobl sydd heb ofn bod yn pwy ydyn nhw".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2025
