Llygod 'maint cwningod' ar stryd llawn sbwriel

Dywedodd Shane Williams fod y llygod mawr wedi bod yn broblem ar y stryd ers dros 18 mis
- Cyhoeddwyd
Mae llygod mawr "maint cwningod" yn bla ar stryd lle mae gadael sbwriel yn anghyfreithlon yn broblem gyson, medd trigolion lleol.
Mae pobl sy'n byw ar stryd ym Mhilgwenlli, Casnewydd, yn dweud fod y lle wedi troi'n "dir dympio" ar gyfer gwastraff mewn bagiau ac eitemau cartref.
Mae pryderon bod rhannau eraill o'r stryd wedi'u hesgeuluso, wedi gordyfu ac yn gartref i "bla o lygod mawr".
Casnewydd ydy'r awdurdod lleol gwaethaf yng Nghymru o ran gadael sbwriel yn anghyfreithlon yn ôl StatsCymru, dolen allanol, gyda 7,318 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi rhwng 2024 a 2025.
Dywed Cyngor Dinas Casnewydd eu bod "yr un mor flinedig gyda thipio anghyfreithlon yn ein dinas ag y mae ein trigolion", gan ychwanegu eu bod yn cael gwared ar sbwriel o'r stryd bob dydd ac yn gweithredu camau gorfodi.

Un olygfa ar Ffordd y Crochendy (Pottery Road)
Mae Shane Williams, 48 , yn berchen ar eiddo ar Ffordd y Crochendy a dywed fod y llygod mawr wedi bod yn broblem ar y stryd ers dros 18 mis.
Yn ôl Shane mae dynes hŷn ar y stryd yn "rhy ofnus i fynd allan oherwydd y tipio anghyfreithlon a'r llygod mawr - mae ychydig yn ffiaidd".
Dywedodd David Wall, sydd wedi byw ar y stryd ers 44 mlynedd, fod y tomenni o fagiau duon wedi cynnwys clytiau budr, gwastraff bwyd a hyd yn oed llygoden fawr wedi marw a oedd yn achosi arogl erchyll.
Mae'r blynyddoedd diwethaf o ddelio hefo'r pla o lygod a'r tipio anghyfreithlon wedi effeithio ar ei iechyd meddwl, meddai David - sy'n 63 oed.
"Dwi'n gallu bod ar bigau'r drain 24 awr y dydd."

Dywed David Wall fod y llygod mawr wedi mynd mewn i gartrefi rhai pobl.
"Ar rai dyddiau, rwy'n teimlo'n eithaf cyfoglyd oherwydd drewdod rhai o'r mannau lle mae'r llygod mawr yn tueddu i ymgynnull - mewn sbwriel sy'n pydru.
"Yn ystod misoedd yr haf mae gennych chi bryfed a chynrhron. Mae hynny yn fy ngwneud yn sâl - byddai hynny'n gwneud unrhyw un yn sâl.
"Unwaith ry'ch chi wedi arogli llygod mawr unwaith neu ddwywaith, chi'n dod i'w adnabod yn syth."
Llygod 'yr un maint â chwningod'
Ar un achlysur, gwelodd Mr Wall "dri phlentyn bach" yn "rhedeg ar ôl dwy lygoden fawr o gwmpas y lle".
"Tyfais i fyny yn yr ardal hon fy hun a mae llawer o hen dai wedi'u condemnio, felly fel plentyn doedd gweld llygoden fawr na chwilod duon yn ddim byd mawr.
"Ond mae geld llygod "yr un maint â chwningod" yn beth hollol newydd."

Mae tipio anghyfreithlon yn broblem barhaus o fewn llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Er mai Sir Casnewydd sydd â'r nifer uchaf o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon ymhlith awdurdodau lleol Cymru roedd yna ostyngiad o10% yn 2023-2024.
DyweddCyngor Dinas Casnewydd eu bod wedi cynnal "bron i 2,400 o gamau gorfodi, y nifer uchaf o bob awdurdod lleol yng Nghymru", rhwng 2024-25.
Dywedodd y cyngor ei fod hefyd wedi cymryd camau penodol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar Ffordd y Crochendy drwy osod camerâu CCTV.
'Dirwy o £400 i un unigolyn'
Dywedodd Mr Wall fod camerâu wedi gwella'r sefyllfa rywfaint, ond nad ydyn nhw'n dangos o ble mae'r troseddwyr yn dod.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r problemau ar y stryd ac mai dyma pam eu bod wedi gosod y camerâu.
"Mae ein camerâu yn cwmpasu'r stryd yn llwyr.
"Mae lleoliad y camerâu wedi ein harwain i roi dirwy o £400 i un unigolyn am dipio anghyfreithlon ar y safle ac mae gennym ddau achos arall yr ydym yn ceisio eu herlyn.
"Mae ein timau sy'n plismona gwastraff yn ymweld â'r stryd bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener i fonitro problemau a chael gwared ar unrhyw dipio anghyfreithlon."

Mae Taclo Tipio Cymru, rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy'n cael ei chydlynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dweud bod tipio anghyfreithlon "yn niweidio ein hamgylchedd, yn peryglu bywyd gwyllt, yn tarfu ar gymunedau lleol ac yn ddrud i'w lanhau".
"Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan gynghorau ynghylch lefelau cynyddol o ddympio bagiau du, mae Taclo Tipio Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar gyfer y gwanwyn," meddai'r llefarydd.
"Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar wneud pobl yn ymwybodol bod gadael bagiau o wastraff wrth ymyl biniau sbwriel cyhoeddus yn dipio anghyfreithlon, ac yn hyrwyddo camau syml y gall pobl eu cymryd i reoli gwastraff cartref yn gyfrifol."
Ychwanegodd y rhaglen eu bod hefyd yn gosod deg camera newydd i'w defnyddio ar draws yr ardal er mwyn casglu tystiolaeth o adael swbriel yn anghyfreithlon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023

- Cyhoeddwyd7 Mai 2024
