Ateb y Galw: Beca Llwyd

Beca LlwydFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
  • Cyhoeddwyd

Actores sydd wedi perfformio mewn nifer o gynyrchiadau ar lwyfan a theledu ac un o gyflwynwyr y rhaglen Stwnsh Sadwrn ar S4C, Beca Llwyd sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Pan o'n i'n llai, oedd Mam a Rhian ei ffrind yn mynd â ni gyd i Baby Gym. Oedd ganddyn nhw bedwar o blant yr un felly oedd 'na wyth ohona ni.

Dwi'n cofio'r twll mawr o sbwnj roedden ni'n neidio i fewn iddo fo a'r bisgedi buwch odda ni'n bwyta.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bwrdd cegin tŷ ni (tŷ Mam a Dad). 'Da ni mor lwcus gallu gweld mynyddoedd Eryri drwy'r ffenest.

Mae Dad wastad yn coginio bwyd delicious a does 'na ddim byd yn well gen i na cael y chwech ohona ni (a phwy bynnag arall sydd draw ar y dydd) yn cael bwyd gyda'n gilydd.

Dyn yn sefyll yn gafael ar bryd bwyd gyda mynyddoedd Eryri tu ôl iddo yn y pellterFfynhonnell y llun, Beca Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca'n hoff iawn o'r bwyd mae ei thad yn ei goginio

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd meddwl am un. O'n i wastad yn caru'r nosweithiau ar ôl i ni orffen y perfformiad ola o sioe yn y coleg drama. Pawb wedi ymlâdd ond yn llawn egni r'un pryd. Pawb yn rili balch o'i gilydd. Teimlad lyfli a fizzy.

Beca'n perfformio ar lwyfan yr ysgol ddrama Italia Conti yn Lloegr mewn cynhyrchiad o'r enw Machinal, wedi ei gyfarwyddo gan Chris WhiteFfynhonnell y llun, Sophia Pardon
Disgrifiad o’r llun,

Beca'n perfformio ar lwyfan yr ysgol ddrama Italia Conti yn Lloegr mewn cynhyrchiad o'r enw Machinal, wedi ei gyfarwyddo gan Chris White

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Egnïol, ymroddgar a gwerthfawrogol

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Ci ni, Ben, yn dartio ar hyd traeth yng Nghernyw, sathru ar draws tyweli a matiau pawb, dymchwel cestyll tywod a bwyta barbeciws pawb! A'r chwech ohona ni yn rhedeg ar ôl Ben yn ymddiheuro wrth bawb yn trio ei ddal o. Dwi'n meddwl o'dd o'n briliant!

Ci a merch ar draeth Ffynhonnell y llun, Beca Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Achosodd Ben y ci dipyn o ddinistr ar draeth yng Nghernyw!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Dwi'n meddwl o'n i'n Blwyddyn 5. Nes i sgwennu nodyn yn gofyn i Gethin Bryn i fod yn gariad i fi. 'Nath Miss Phillips weld y nodyn. 'Nes i banicio a dwyn o'n ôl ganddi a rhwygo fo mewn i ddarnau bach fel bod hi methu ei ddarllen o... 'Nath hynny ddim stopio Miss Phillips.

'Nes i orfod isda yn gwylio hi'n rhoi o nôl at ei gilydd. Oedd yr holl firi yn y dosbarth wedi tynnu sylw pawb ac erbyn iddi hi lwyddo i ddarllen y neges, roedd y dagra' yn llifo. Yn cymryd piti arna fi 'nath Miss Phillips yrru fi i'r toiled gyda fy ffrind gora Ceri. Mortified!

Beca gyda'i ffrind gorau, CeriFfynhonnell y llun, Beca Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Beca gyda'i ffrind gorau, Ceri

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe ond allai'm deud pam... ma'n rhy pathetic!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n dyslexic a mae sillafu fi'n anobeithiol. Dwi'm yn rhy bothered i fod yn onast.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Mae'n greulon o drist ond 'nes i hedfan drwy'r llyfr Widow Basquiat: A Memoir by Jennifer Clement.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Isabella Eklöf... hi 'nath gyfarwyddo cyfres diweddara' Industry ar y BBC. 'Swn i'n trio ngorau i berswadio hi roi rhan i fi yn y gyfres nesa... gwerth trio yndi?

Beca LlwydFfynhonnell y llun, S4C / BoomPlant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca'n chwarae rhan Sioned yn y ddrama Y Coridor ar S4C

Dyweda rywbeth am dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i gystadlu mewn ras beicio mynydd o'r blaen... byth eto!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Gwahodd pawb i Baby Gym i neidio fewn i'r twll spwnj efo fi. Mae'n rhaid i Sion Emlyn ddod ond croeso i bawb arall hefyd.

Mynd am dro ar y traeth a chael cinio efo fy nheulu. 'Swn i'n licio Dad a fi goginio'r salad crispi twrci 'da ni'n gael amser Dolig.

Wedyn 'swn i'n licio cael diod efo Evan yn yr haul a chwarae gêm o Othello... a 'swn i'n hoffi curo plîs.

dyn yn chwarae gêm bwrddFfynhonnell y llun, Beca Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Ar ei diwrnod olaf (prysur!) ar y blaned, fyddai Beca'n hoffi chwarae'r gêm fwrdd Othello

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Hwn di lock screen ffôn fi. Dwi'n lyfio'r llun 'ma. Ma' chwiorydd fi'n gorjys!

dau ferch yn rhoi mwythau i giFfynhonnell y llun, Beca Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Chwiorydd Beca yn rhoi mwythau i Ben y ci

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dumbledore tra mae ganddo yr Elder Wand.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: