Ateb y Galw: Nia Arfon

- Cyhoeddwyd
Mae Nia Arfon wedi bod yn brif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri, Caernarfon, ers blwyddyn bellach.
Yn byw yn y dref gyda'i gŵr ac yn fam i ddau o blant, bu'n gyfarwyddwr cynlluniau Menter Môn cyn cael ei phenodi i'r Galeri.
Ond heddiw mae hi'n Ateb y Galw.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Chwarae â phêl o dan fwrdd y gegin efo Nain. Dwi'n cofio traed nain, ei theits lliw croen a'i sgerts hir wrth i mi guddio o dan y bwrdd.
Ble yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
W! Cwestiwn anodd! Fy nhriongl bach rhwng ein cartref, y feithrinfa a Galeri ydi lle dwi'n byw fy mywyd prysur. Dw i wedi ymgartrefu yn yr ardal ers 12 mlynedd bellach, ac yn teimlo mor freintiedig o gael byw, magu a dathlu bywyd mewn cymuned Gymraeg a Chymreig.
Mae topia Fron hefyd yn le braf – dwi'n mwynhau gweld yr olygfa draw tuag at Ben Llŷn, Eryri ac Ynys Môn, heb grwydro yn rhy bell o tŷ.
Dwi hefyd wedi disgyn mewn cariad gydag Ynys Môn. Ar ôl gweithio yn Llangefni am dros 10 mlynedd, roedd dreifio adra bob dydd i olygfa hyfryd Eryri yn tanio'r awch am gael mynd i grwydro dros y penwythnos.
O fano dechreuodd y diddordeb mewn mynydda gan fod modd gweld panorama'r mynyddoedd wrth ddreifio adra bob dydd.
Mae Gruff y gŵr wedi cwblhau ei 100 Cymru, ond mae gen i 33 ar ôl ar y rhestr! Dwi hefyd wedi cael coeden deulu yn ddiweddar, a dysgu lot am fy nghyn-deidiau yn ardal Brynsiencyn a Llangefni, felly, mae'n debyg bod rhywbeth yn yr enaid.

Mae hoff le cudd Nia yn nho'r Galeri yn rhoi golygfa o rai o'r llefydd sy'n bwysig iddi - Caernarfon, Fron, Ynys Môn a'r ganolfan gelfyddydol
Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Noson geni Ifor, y mab, sydd bellach yn ddwy oed. Nes i eni Ifor adra – mewn pwll yn y stafell fyw! Tân ymlaen, miwsig 'mlaen - profiad gora' fy mywyd heb os.
Ganwyd Ifor am 18:00, erbyn 20:00 roedd ein bydwragedd anhygoel wedi ein gadael ni, ac erbyn 22:00 roeddwn i mewn pyjamas glân, mewn gwely glân, yn bwydo fy mab.
Ges i anhawstera' mawr yn bronfwydo'r cyntaf, er ein bod wedi llwyddo ar ôl 10 wythnos heriol iawn i ddyfalbarhau nes oedd hi'n braf dros ei blwydd.
Cyn geni Ifor, roeddwn i wedi mynd ar gwrs hyfforddi – ac yna 'mlaen i gwrs cefnogi merched eraill i fronfwydo, a drwy ennyn gwybodaeth a dealltwriaeth daeth y cyfan llawer iawn haws i mi'r ail dro, felly r'on i'n teimlo reit arbennig y noson honno.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Brwdfrydig. Egnïol. Dyfalbarha-wraig!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n cofio cyrraedd rowndiau sirol yn rhedeg i gynrychioli'r ysgol – a baglu cyn cyrraedd y llinell derfyn a brifo nhrwyn yn ofnadwy. Dwi dal i deimlo'r embaras heddiw!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn gwylio ffilm Hamnet yn ddiweddar - ond mi oedd hynny yn fwy na chrïo, mi o'n i wedi fy llorio'n llwyr.
Mi es i mewn yn ddigon di-hid, yn bennaf er mwyn cael profi ein seti sinema newydd, a chael sgwrs gydag ein cwsmeriaid am eu profiad o fod acw – ond doeddwn i bendant methu wynebu'r un sgwrs ar ddiwedd honna!
Ges i hefyd brofiad reit emosiynol yn gwylio sioe The Ancient Oak of Baldor gan Frozen Light Theatre – cynhyrchiad amlsynhwyraidd i bobl gydag anableddau dysgu dwys. Ces wylio o'r ochr – a mi oedd gweld mwynhad y cyfranogion a'u rhieni neu ofalwyr i'r cynhyrchiad yn brofiad arbennig iawn.
Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gormod o goffi! Heb os!
Beth ydy dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi wastad yn teimlo pwysa mawr i ateb cwestiynau fel hyn!
Dwi'm yn meddwl bod gen i hoff lyfr – dwi'n caru straeon y Mabinogi ac mae gen i sawl fersiwn a chopi gwahanol adra. Dwi'n licio patrymau sydd yn y straeon, yr hud a lledrith a'r perthnasedd i enwau lleoedd heddiw.
Wrth ochr fy ngwely ar hyn o bryd mae gen i; Caernarfon: Through the Eye of Time gan T Meirion Hughes, How To Be Curious gan Meena Alexander a The Little Book of Chanel – gyda diolch i Siân (GISDA) am hwn yn anrheg yn dilyn fy mhenodiad i rôl Galeri. Mae hanes Gabrielle "Coco" Chanel yn ddiddorol iawn.
Ffilm – Parent Trap, dwi jyst yn gyted mod i ddim yn cofio'r handshake!
Ac mae albwm The Art of Loving gan Olivia Dean yn cael ei chwarae dro ar ôl tro gen i ar hyn o bryd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?
Taid – mae hi bron i flwyddyn union ers colli Taid a dw i'n gweld eisiau ei gwmni yn fawr iawn.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n introvert llwyr – ond, mae'n rhywbeth dwi'n dysgu gweithio gydag o yn hytrach nag yn ei erbyn o yn fy swydd drwy arwain gydag empathi.
Ar dy diwrnod olaf ar y blaned, be' fyddet ti’n ei wneud?
Agor llenni'r stafell wely'n llydan a chael coffi ffresh yn fy ngwely.
Pacio'r câr (gyda theulu, ffrindiau a bwyd a gwin da!) a mynd am bicnic ochrau Fron, i fwynhau'r olygfa banoramic o Ben Llŷn, Eryri ac Ynys Môn.
Gan obeithio mod i'n hŷn nag ydw i heddiw – cael cwmni'r plant, neu blant fy mhlant a gafael ym mhob un ohonyn nhw'n dynn.
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Nia, gydag Ifor, ar alwad gyda'i Mam a'i Nain
Screengrab o bedair cenhedlaeth – chafodd Nain 'rioed gyfarfod Ifor mewn person cyn i ni ei cholli, felly dyma lun o Ifor a finna, gyda Mam a Nain ben arall y ffôn.
Dwi'n trysori'r llun yma.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Ella mod i'n gor-ramanteiddio'r ddelwedd, ond perchenog patisserie yn Paris! Codi gyda'r wawr, seiclo i fy ngwaith, coffi da, pastries da, a chornel i gerddoriaeth byw – joio byw!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd12 Ionawr

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
