Ateb y Galw: Rhys Trimble

- Cyhoeddwyd
Cerddor, athro a Bardd Ynys Môn, Rhys Trimble sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Ers cael ei benodi'n Fardd Ynys Môn y llynedd, mae Rhys hefyd wedi rhyddhau albwm i gyd-fynd â'r gwaith.
Ar yr albwm Ynys Dywyll mae Rhys yn adrodd ei farddoniaeth dros gerddoriaeth sy'n cael ei pherfformio gan nifer o gerddorion amgen Ynys Môn.
Roedd Rhys ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar yn trafod ei rôl ac mae cyfle yma i bawb ddod i'w adnabod yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Crïo yn yr ysgol diwrnod cyntaf achos nid oeddwn eisiau mynd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bala achos mae ysbryd Ceridwen yn edrych dros Llyn Tegid.

Hoff olygfa Rhys yw un dros Lyn Tegid yn y Bala
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae sawl un hudolus: ennill poetry slam yng Ngwlad Pwyl a gwario 400 zloty ac yn prynu diodydd i bawb, tua 2013 yn Lublin.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Anystywallt, bregus, arbrofol
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Trio neidio i fyny ar lwyfan i wneud perfformiad yn Jamaica a baglu a disgyn ar fy wyneb.

Y perfformiad ble disgynodd Rhys yn Jamaica
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta camembert cyfan wedi rhostio yn y popty i fi fy hun.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Efallai gwaith Larry David sef Seinfeld a Curb Your Enthusiasm, achos o bosib rydyn ni'n gymeriadau tebyg!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Euros Bowen, teimlaf bod cysylltiad ar ôl imi gyfieithu ei waith.

Fe enillodd Euros Bowen y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn 1948 am y bryddest O'r Dwyrain
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ges i fy ngeni yn Affrica, ac roeddwn yn blymar unwaith.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael parti mewn rhywle cynnes a wedyn fflîo'n ôl i Gymru fach i ddisgwyl am fy huno olaf.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Lluniau Basquiat, dwi'n hoffi neo-expressionism; mae fel graffiti ar gynfas.

Mae Rhys yn hoff o luniau Jean-Michel Basquiat
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Y Dalai Lama neu'r Pab.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Mai 2025

- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2025
