Her gyfreithiol Cyngor Môn yn erbyn fferm solar ddadleuol yn methu

Bydd datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli yn cael eu gosod dros 660 erw o dir ger Llyn Alaw yng nghanol Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Môn yn dweud eu bod yn "hynod o siomedig" wedi i her gyfreithiol yn erbyn datblygiad fferm solar ddadleuol ar yr ynys fethu.
Ym mis Awst fe wnaeth Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ganiatáu datblygiad Alaw Môn.
Cafodd cais am adolygiad barnwrol gan y cyngor ei wrthod yn Uchel Lys Caerdydd ym mis Tachwedd.
Mae'r cyngor yn dweud bod cais ar gyfer adolygu'r penderfyniad bellach wedi methu yn dilyn gwrandawiad llafar ychwanegol yn Uchel Lys Wrecsam ar 16 Ionawr.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard mewn datganiad "nad oes unrhyw lwybrau apelio pellach ar agor i'r Cyngor Sir".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Cyngor Môn o blaid her gyfreithiol yn erbyn fferm solar ddadleuol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2025
Cymeradwyo fferm solar fawr ddadleuol ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd27 Awst 2025
Rali yn erbyn cynlluniau solar 'pryderus iawn' ym Môn
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2025
Bydd datblygiad Alaw Môn yn gweld paneli yn cael eu gosod dros 660 acer o dir ger Llyn Alaw yng nghanol Ynys Môn, gan gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o gartrefi.
Yn ôl y datblygwyr Enso Energy, bydd y cynllun 160MW yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion holl gartrefi'r ynys.
Ond mae'r prosiect wedi derbyn gwrthwynebiad chwyrn o'r cychwyn cyntaf, gyda thrigolion lleol yn poeni am golli tir amaethyddol o safon, a'r nifer cynyddol o ffermydd solar sy'n cael eu datblygu ar yr ynys.

"Mae'r datblygiad arfaethedig yn dal i greu llawer iawn o bryder yn ein cymunedau," meddai arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard
Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Gary Pritchard: "Fel Cyngor Sir, rydym wedi mynegi ein siom a'n rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu datblygiad Fferm Solar Alaw Môn. Aeth y Cyngor ati felly i gynnal her gyfreithiol nol ym mis Hydref 2025.
"Yn anffodus, gwrthodwyd caniatâd i fwrw ymlaen â'r Adolygiad Barnwrol i herio Fferm Solar Alaw Môn gan y Barnwr yn Uchel Lys Caerdydd yn wreiddiol ar 14 Tachwedd, 2025.
"Rydym bellach ar ddeall fod y Cyngor Sir - mewn gwrandawiad llafar ychwanegol yn Uchel Lys Wrecsam ar 16 Ionawr - wedi methu yn ei gais ar gyfer adnewyddu'r penderfyniad.
"Mae'r canlyniad yn un hynod o siomedig ond rydym yn derbyn dyfarniad yr Uchel Lys a'r ffaith nad oes unrhyw lwybrau apelio pellach ar agor i'r Cyngor Sir."
Ychwanegodd fod y datblygiad "wedi'i ganiatau gan Lywodraeth Cymru yn groes i bolisi ei hun mewn perthynas â defnyddio tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas".
"Mae'r datblygiad arfaethedig yn dal i greu llawer iawn o bryder yn ein cymunedau," ychwanegodd.

Bydd y paneli yn cael eu gosod i'r de o Lyn Alaw
Wrth ganiatáu'r datblygiad ym mis Awst fe ddywedodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol".
Gan gyfeirio at dargedau'r llywodraeth i gynhyrchu 70% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030, ychwanegodd ei bod yn "cytuno gyda barn yr arolygwyr y dylid rhoi cryn bwys ar gyfraniad sylweddol y cynllun at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y cydbwysedd cynllunio".
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS a Llinos Medi AS: "Rydym yn siomedig iawn o glywed bod her gyfreithiol Cyngor Sir Ynys Môn yn erbyn fferm solar Alaw Môn wedi bod yn aflwyddiannus.
"Er ein bod yn parchu penderfyniad yr Uchel Lys, nid oes amheuaeth bod y cynllun yn amlwg yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru ei hun ar ddiogelu Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas.
"Mae trigolion lleol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r datblygiad hwn dro ar ôl tro, oherwydd ei effaith niweidiol ar ein tirweddau ac ar sectorau amaethyddol a thwristiaeth yr ynys, tra'n cynnig ychydig iawn o ran swyddi na budd economaidd ehangach.
"Byddwn yn parhau i ddadlau y dylid gwrthod prosiectau solar maint diwydiannol eraill sy'n mynd trwy'r system gynllunio ar yr ynys ar hyn o bryd, ac y dylem ganolbwyntio yn lle ar gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd eraill sy'n cynnig buddion cymunedol ac yn creu swyddi, yn ogystal â chefnogi'r amgylchedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.