Arian i wersylloedd yr Urdd a'r Eisteddfod yng nghyllideb y llywodraeth

Mae'r Urdd eisoes wedi gwireddu cynlluniau ar gyfer Gwersyll Pentre Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o arian ar gyfer gwersylloedd yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.
Bydd pob un o adrannau'r llywodraeth yn derbyn mwy o gyllid o fis Ebrill ymlaen, yn bennaf er mwyn talu am y cynnydd mewn chwyddiant a chyflogau.
Roedd y llywodraeth eisoes wedi cytuno i roi £300m yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol fel rhan o'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei phasio yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Ond fe gyhoeddwyd mwy o arian i adrannau eraill, wrth i'r gyllideb derfynol o £27.5bn gael ei chyhoeddi ar gyfer 2026-27.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r gwariant ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau allweddol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, gwasanaethau bysiau, prentisiaethau, addysg bellach, atal llifogydd ac ysgolion.
Mae £3.1m yn ychwanegol i'r iaith Gymraeg, o gymharu gyda'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd fis Tachwedd.
Bydd y rhan fwyaf o'r arian yma yn talu am gynllun "uchelgeisiol" o welliannau i wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, Glan Llyn a Phentre Ifan.
Mae arian hefyd i'r Eisteddfod Genedlaethol - sydd yn dathlu 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf - ac i sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
'Pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd'
Wrth gyhoeddi'r gyllideb olaf cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei fod yn "rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaeth cyhoeddus" ac yn enghraifft o "bleidiau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r adnoddau hanfodol y mae eu hangen ar bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn i ddod".
"Mae cynlluniau eithaf uchelgeisiol gan yr Urdd i fuddsoddi yn Llangrannog ac yn y gogledd ac mae hwnna yn help mawr i ni ar y daith at filiwn o siaradwyr Cymraeg yn 2050, achos mae lot o blant Cymru yn dysgu Cymraeg yng ngwersylloedd yr Urdd."
Dywedodd bod mwy o arian i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd sydd "yn dathlu carreg filltir bwysig" yn 2026.
Daeth llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru i gytundeb ym mis Rhagfyr i roi £113m yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gynyddu cyllidebau cynghorau o 4.5% y flwyddyn nesaf, gyda'r addewid na fydd unrhyw gyngor unigol yn cael cynnydd o lai na 4%.
Bydd £180m ychwanegol hefyd ar gyfer y gwasanaeth iechyd sy'n golygu bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer 2026-27 yn cynyddu o 3.6% i £12.6bn, mwy na 55% o gyllideb Llywodraeth Cymru, ar gyfer gwariant dydd i ddydd.
Yn ogystal, mae £120m o gyllid cyfalaf wedi cael ei neilltuo i'r llywodraeth nesaf ei wario ar brosiectau mawr, fel adeiladu ysbytai neu ffyrdd newydd.
Plaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
Gallai'r gyllideb nesaf gael effaith 'trychinebus' ar wasanaethau
- Cyhoeddwyd21 Medi 2025
Cynnydd yswiriant gwladol i gostio £65m i wasanaethau cyhoeddus
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2025
Does gan y blaid Lafur ddim mwyafrif ym Mae Caerdydd, sefyllfa waethygodd pan gollodd Llafur isetholiad Caerffili ym mis Hydref, felly roedd angen cytundeb â phlaid arall er mwyn pasio'r gyllideb.
Yn ogystal â'r arian a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, mae newidiadau pellach ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Tachwedd.
Mae'r gyllideb derfynol yn darparu £6m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, yn ogystal â £10m i fuddsoddi mewn bysiau a gorsafoedd.
Mae £2.8m ychwanegol hefyd ar gyfer y rheilffyrdd.
Bydd busnesau sy'n cael eu heffeithio gan newidiadau i'r ardrethi busnes ym mis Ebrill yn gallu elwa o becyn cymorth gwerth £116m dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae yna £6m pellach i dalu am gynnydd mewn cyflogau athrawon mewn sefydliadau addysg bellach ac adrannau chweched dosbarth, £4.2m yn fwy i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â £5m i gefnogi'r nifer cynyddol o ddysgwyr mewn addysg bellach.
Bydd £20m ychwanegol yn talu am welliannau i adeiladau ysgolion.
I'w gymharu â'r gyllideb ddrafft mae £2.6m yn ychwanegol ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd, £6m yn fwy ar gyfer llifogydd a chynnydd o £3.5m yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Bydd sefydliadau diwylliant a chwaraeon yn elwa o fuddsoddiad pellach hefyd, gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn elwa o £2.5m i helpu i storio a gofalu am ei chasgliadau o lyfrau, llawysgrifau, celf a ffilmiau.