Plaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Plaid Cymru wedi "sicrhau £300m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen"
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llafur ynghylch cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Mae disgwyl felly y bydd cynlluniau gwariant y llywodraeth yn pasio yn y Senedd ym mis Ionawr.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan bod y cytundeb "yn dangos cryfder pleidiau'r Senedd yn gweithio gyda'i gilydd ar flaenoriaethau a rennir i gyflawni dros Gymru".
"Trwy'r cytundeb hwn rydym wedi sicrhau pasio'r gyllideb ac wedi atal toriadau posibl trychinebus i gyllid y flwyddyn nesaf," meddai.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Drwy sicrhau £300m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, mae'n osgoi'r posibilrwydd o ymyl clogwyn i wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, ym mis Mai 2026, yn rhoi'r llywodraeth nesaf ar sail gadarnach nag y byddai fel arall.
"Er fy mod yn cydnabod y bydd cynghorau a'r GIG yn parhau i wynebu heriau, mae hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol mewn cyllid o gymharu â'r gyllideb ddrafft."
Beth sydd yn y cytundeb?
Mae tair elfen i'r cytundeb:
Cyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn 2026-27 – £112.8m ychwanegol, sy'n darparu cynnydd cyffredinol o 4.5% i setliad llywodraeth leol. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4%;
Cyllid ychwanegol i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol – £180m ychwanegol, sydd, ynghyd â'r cyllid yn y gyllideb ddrafft, yn cyfateb i gynnydd o 3.6% yn 2026-27;
Bydd £120m o gyllid cyfalaf ar gael i'r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd i'w ddyrannu.

Roedd yn rhaid i Mark Drakeford gael cefnogaeth pleidiau eraill i gymeradwyo'r gyllideb
Ar ôl colli sedd Caerffili yn yr isetholiad fis Hydref, does gan y llywodraeth Lafur ddim digon o aelodau o'r Senedd i basio'r gyllideb heb gefnogaeth o leiaf dau aelod arall o'r Senedd.
Pe bai'r llywodraeth wedi methu taro bargen gyda phlaid arall, mi fyddai'r goblygiadau wedi bod yn ddifrifol oherwydd fe fyddai'n pasio yn awtomatig ar 75% o wariant eleni, fyddai'n arwain at doriadau mawr a cholli swyddi.
Roedd Llafur un sedd yn brin o fwyafrif yn barod - hyd yn oed cyn iddyn nhw golli isetholiad Caerffili - ac felly eleni roedd rhaid dibynnu ar yr un AS Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, i basio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad, roedd yn rhaid i Lafur berswadio o leiaf dau aelod o'r Senedd i'w cefnogi er mwyn gallu pasio'u cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r gyllideb hon yn arwyddocaol oherwydd mae'r polau piniwn yn awgrymu mai plaid arall fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, ac felly yn etifeddu'r cynlluniau gwario yma.
Roedd drafft cyntaf y cynlluniau yn awgrymu y gallai pob adran weld cynnydd yn eu coffrau o tua 2%, ond mae disgwyl i'r ffigyrau yna newid, gyda £380m heb ei glustnodi er mwyn galluogi'r llywodraeth i sicrhau cefnogaeth plaid arall.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru wedi isetholiad Caerffili
Cafwyd trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a'r llywodraeth ynglŷn â tharo bargen.
Un o flaenoriaethau'r blaid honno oedd cael gwared ar drethi ar werthu tai, yn ôl eu harweinydd, Darren Millar.
Ond mae'r gweinidog cyllid Mark Drakeford wedi dweud na fydd hynny'n bosib oherwydd y byddai'n arwain at "dwll du mawr yn y gyllideb".
Mae disgwyl pleidlais ar y gyllideb Gymreig ar 27 Ionawr, dolen allanol.
'Plaid wedi camu i mewn i achub Llafur'
Yn ymateb i'r newyddion am y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru bod "hyn yn fwy o dystiolaeth bod pleidlais dros Plaid [Cymru] y flwyddyn nesaf yn bleidlais dros y Blaid Lafur".
"Tra bod Llafur yn canfod eu hunain heb rwyfau, mae Plaid wedi camu i mewn unwaith eto i'w hachub."
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Unwaith eto, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru ar fin pasio cyllideb sâl, diolch i gytundeb arall rhwng Plaid Cymru a Llafur.
"Cysylltodd y Ceidwadwyr Cymreig i gynnig agenda feiddgar i dorri trethi a gwariant gwastraffus er mwyn cael economi Cymru i symud eto, ond roedd y prif weinidog yn amlwg yn chwarae gemau.
"Bydd cytundeb Llafur a Phlaid Cymru yn golygu mwy fyth o'r un gwariant gwastraffus ar wleidyddion ychwanegol, llysgenadaethau tramor a choed, yn lle canolbwyntio adnoddau ar flaenoriaethau pobl Cymru a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd21 Medi 2025
