Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn 50

  • Cyhoeddwyd

Nepell o Langefni ym Môn mae pentref Bodffordd, ac mae'r gymuned fach honno'n dathlu carreg filltir arbennig y flwyddyn hon. Mae Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn troi'n 50 mlwydd oed.

Hanner canrif ers ei sefydlu mae'r clwb mor boblogaidd ag erioed gyda dros 30 o aelodau ffyddlon.

Cafodd Ellis Wyn Roberts, a oedd yn un o sefydlwyr y clwb – flynyddoedd cyn iddo fod yn bensiynwr – sgwrs gyda Heledd Cynwal am y clwb a'r dathliadau i nodi'r achlysur.

Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn Nant yr Odyn ar gyfer eu cinio Nadolig, 2025Ffynhonnell y llun, Ellis Wyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn Nant yr Odyn ar gyfer eu cinio Nadolig, 2025

"Rydyn ni'n falch iawn o'r hanner can mlynedd sydd 'di mynd heibio. Roedd 'na nifer fawr yn yr ardal adeg hynny yn bensiynwyr, ac roedd 'na ferch yna oedd yn digwydd bod o'r un pentre â fi, Llynfaes. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gweld cymaint o bobl yn y pentre, a ddim byd ar eu cyfer nhw.

"Mi benderfynodd gwneud ryw swper bach ar eu cyfer nhw, ac yn wir, mi ddaeth yna domen ohonyn nhw!"

Yn dilyn hynny fe berswadiwyd Ellis i fynd ati i sefydlu Clwb Pensiynwyr er ei fod ef, mae'n prysuro i ddweud, ymhell o fod yn bensiynwr ei hun ar y pryd.

Gyda chymorth clerc y Cyngor, T. P. Roberts, a chaniatâd gan brifathro'r ysgol, Elwyn Roberts, i ddefnyddio'r adeilad i gynnal y clwb fe'i sefydlwyd.

"Mi gychwynon ni ar ein hunion. Roedd 'na nifer fawr o bensiynwyr yn y pentref. Roedd 'na ryw 45 o aelodau, ac roedden nhw'n byw yn y pentref – ac roedd hwnna'n rhywbeth anghyffredin iawn."

Alwyn Humphreys ac aelodau'r clwb pensiynwyrFfynhonnell y llun, Ellis Wyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alwyn Humphreys yn un o'r siaradwyr gwadd yn 2014

Yn fuan wedyn, penodwyd Ysgrifenydd, Trysorydd a Llywydd i'r clwb gan wneud pethau ychydig yn fwy swyddogol.

Ond nid oedd gan Ellis swydd yn y clwb bryd hynny, dim ond trefnu siaradwyr gwadd neu ambell drip – "cadw llygaid a helpu fel oedden nhw eisiau" eglurodd.

Ond dros y 30 mlynedd diwethaf mae Ellis wedi bod ynghlwm "yn drwm iawn" gyda threfnu a rhedeg y clwb.

Roedd nifer o'r pensiynwyr hyn yn byw ar ben eu hunain a dyna oedd y rheswm am weld y clwb yn llwyddo. Roedd "eisiau cael nhw at ei gilydd i gael sgwrsys a ballu, a hel atgofion."

Aelodau'r clwb ugain mlynedd yn ôlFfynhonnell y llun, Ellis Wyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r clwb ugain mlynedd yn ôl

Mae trefnu tripiau wedi bod yn rhan bwysig o fywyd y clwb, ac mae Ellis yn cofio un trip penodol i Langollen:

"Rwy'n cofio'n iawn, mynd i Langollen, ac ambell i ryw hen lanc, rhyw ffermwr, hefo ni ar y trip.

"Welais i 'rioed ei llgada fo'n agor gymaint pan welodd o'r holl ddawnswyr oedd yn Llangollen. Oedden nhw wedi mwynhau eu hunain wrth fynd i wahanol lefydd."

Aelodau'r clwb yn sefyll o flaen bwsFfynhonnell y llun, Ellis wyn roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwyliau i ardal y llynnoedd

Mae Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn dal i ffynnu hanner can mlynedd yn ddiweddarach gyda dros 30 o aelodau o hyd, er nad yw bob un o bentref Bodffordd ei hun.

"Mae nhw'n talu rhyw aelodaeth bach, chwarae teg iddyn nhw, a wedyn dan ni'n gwneud rhyw raffyl am ryw buntan neu ddwy i bob cyfarfod. Mae 'na rhai pobl sydd wedi, yn garedig iawn, rhoi arian er cof am yr aelodau.

"A mae yna fudiad William Bould yn yr ardal, a da ni'n cael 'chydig o arian gan nhw hefyd, chwarae teg."

Mae'r arian yma wedyn yn mynd i dalu am bethau fel tripiau, cinio Nadolig a siaradwyr gwadd.

Ellis Wyn RobertsFfynhonnell y llun, Ellis Wyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellis Wyn Roberts yn dathlu pen-blwydd go arbennig ei hun yn 2026 yn 90 oed

Er mai yn ôl ym mis Tachwedd 2025 y bu'r pen-blwydd swyddogol, mae'r dathliadau'n parhau am y flwyddyn.

Ond fe gafwyd noson arbennig i ddathlu gyda'r Moniars, Hogia Bodwrog, a Trefor Williams yn diddanu. Fe fu Enid Williams yn siarad, un sydd wedi byw yn Bodffordd ar hyd ei hoes, ac mae hi'n 94 mlwydd oed.

Ac Ellis ei hun yn troi'n 90 mlwydd oed heddiw (Ionawr 16), mae'r afiaeth a'r mwynhad mae o'n ei gael o'i waith efo Clwb Pensiynwyr Bodffordd yn amlwg.

"Mae'n bleser bod yno, dim ond i wrando ar [yr aelodau] ar ôl cael rhywun i siarad. Maen nhw wrth y byrddau wedyn, ac maen nhw sy'n siarad ag yn y blaen. Dydyn nhw ddim yn cael cyfle fel arall gan fod lot ohonyn nhw byw eu hun."

Gwrandewch ar y sgwrs gyfan ar Bore Cothi gyda Heledd Cynwal..

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig