Gwobrwyo cynghorydd am dros 70 mlynedd o wasanaethu ei gymuned

Y Cynghorydd Myfyr Davies
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mr Myfyr Davies yn gynghorydd cymuned pan oedd yn 21 oed

  • Cyhoeddwyd

Bydd gŵr o Fôn yn cael ei gydnabod am wasanaethu fel cynghorydd cymuned am dros 70 o flynyddoedd.

Fe ddechreuodd Myfyr Davies fel cynghorydd yn ardal Bodorgan, Ynys Môn, pan oedd yn 21 oed - mae'n 93 erbyn hyn ac yn dal yn parhau yn ei rôl.

Er mwyn diolch iddo am ei waith mi fydd un o gynghorwyr sir yr ynys yn rhoi tarian iddo ac mae rhai'n awgrymu fod ei wasanaeth dros gyngor cymuned yn record.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn "wirioneddol ddiolchgar" am y gydnabyddiaeth a'r ffaith "bod rhywun wedi cymryd sylw o'r peth".

'Gwirioneddol ddiolchgar'

Esboniodd Myfyr Davies nad oedd awydd ganddo i gymryd y rôl yn wreiddiol ond fe lwyddodd ffrind ei berswadio.

"I ddechrau, roeddwn i'n gweithio yn camp Tŷ Croes fel shorthand typist, ac o'n i'n seiclo 'efo un o'r pentra' yma, Tom Evans - oeddan ni'n gweld ein gilydd bob dydd.

"Rhyw fora, dyma fo'n gofyn i mi - 'Mae 'na sedd wag ar y cyngor plwyf, ti â diddordeb?' medda fo.

"'Na, 'dw i ddim yn meddwl', medda fi. 'Ty'd, 'da ni isio rhywun ifanc', a 21 oeddwn i ar y pryd, ac felly ddaru fi gychwyn.

Myfyr Davies yn ysgol BodorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Myfyr Davies (chwith) wedi bod yn weithgar yn ei gymuned ers degawdau

Yn ogystal â gwasanaethu fel cynghorydd lleol, mae Mr Davies hefyd wedi bod ynghlwm â sawl mudiad lleol arall.

Esboniodd ei fod yn berson â mwy nag un diddordeb.

"Mi fues i ar lywodraethwyr yr ysgol am hanner cant o flynyddoedd, ac ar bwyllgor y gymuned ei hun am dros tua 25, ysgrifennydd capel Hermon am 25 ac ysgrifennydd Capel Mawr am tua 20 mlynedd.

"Y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml iawn ydi 'sut wyt ti'n cael amser?', a'n ateb i'r cwestiwn yna ydi, 'dw i'n meddwl mai rhywbeth 'da chi'n neud ydi amser."

Ond fe bwysleisiodd: "Mae'n rhaid i mi gydnabod oedd fy ngwraig yn fy helpu i'r pen draw chwarae teg iddi."

Hyd yma, dydi Mr Davies ddim hyd yn oed wedi ystyried ymddeol meddai, "'dw i dal i fynd".

Ond ers iddo ddechrau yn ei rôl dros 7 degawd yn ôl dywedodd fod sawl peth wedi newid.

"Tai sydd wedi mynd i fyny" meddai wrth iddo gofio "cyfnod pan oeddwn i'n blentyn ac yn yr ysgol ym Modorgan, oedd hi'n gwasanaethu tri pentref - Hermon, Bethel a Malltraeth.

"A'r ffaith ydi'r amser yna, mi oeddach chi'n nabod pawb yn y tri pentra, a tad a mam yr hogia oedd yn yr ysgol efo chi.

"Heddiw 'da chi ddim yn 'nabod y bobl sy'n byw drws nesaf i chi, dyna ydi'r gwir mawr amdani felly."

Mi fydd cynghorwyr sir yr ardal yn gwobrwyo Mr Davies am ei oes o wasanaeth, sy'n dod fel syndod iddo.

"Toeddwn i'm yn gwybod dim byd amdano nes ddaru Sian [fy merch] fy ffonio i.

"'Dw i'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw a bod rhywun wedi cymryd sylw o'r peth."

Arfon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Arfon Wyn fod Mr Davies yn "gymeriad ar y naw"

Mae'r cynghorydd Arfon Wyn, sy'n cynrychioli ward Bro Aberffraw yn gwobrwyo unigolion yn ei gymuned bob mis.

Mr Myfyr Davies gafodd ei ddewis ar gyfer mis Rhagfyr.

Dywedodd Arfon Wyn: "Des i ar ei draws o pan oeddan ni'n canfasio yn yr ardal yma - cymeriad ar y naw.

"O'n i'n gwybod ei fod o ar y cyngor cymuned ond nes i ffendio ar ddamwain, fod o wedi bod ar y cyngor cymuned ers bod o'n 21 oed."

Mae'r cynghorydd Arfon Wyn yn credu fod ei gyfnod yn gwasanaethu cyngor cymuned yn record.

"Mae o rŵan yn ei nawdegau, ac o'n i wedi synnu ac yn meddwl wrtha fi fy hun, 'dw i'n siŵr bod 'na neb drwy Gymru gyfan sydd wedi gwasanaethu dros saithdeg o flynyddoedd ar y cyngor cymuned."

Ychwanegodd ei fod yn "haeddu cydnabyddiaeth am hynny".

"'Dw i'n falch o gydnabod pobl sy'n gwneud gwaith yn ddistaw a ddim yn cael sylw o gwbl, a theimlo bod isio rhoi'r gydnabyddiaeth iddyn nhw.

"Tydi pobl fatha Myfyr ddim isio sylw a dyna sut fath o berson ydi o."

Sian a Myfyr Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mr Davies a'i ferch Sian (chwith) yn edrych drwy luniau o'r blynyddoedd a fu

Yn ôl merch Mr Davies - Sian Prytherch, mae hi'n falch iawn ohono.

Dywedodd: "Doedd o byth yn segur ac wrth ei fodd yn gwneud beth oedd o'n neud.

"Os oedd 'na rywbeth ymlaen yn yr ysgol neu yn y gymuned, oedd pawb yn fodlon mynd i helpu ac mi fydda lecsiwns a phethau felly.

"'Dw i'n cofio, mi fydda fo'n rhedeg i nôl pobl i fynd â nhw i'r lecsiwn i fotio pan oedd yna lecsiwn lleol a ballu.

"Oeddan ninnau yn blant yn mwynhau bod o gwmpas y miri i gyd a chael gwybod beth oedd yn mynd ymlaen".

Dywedodd nad oedd hi'n gweld ei thad yn rhoi'r gorau iddi yn fuan iawn.

"Does 'na ddim stopio ynddo fo a gorau'n byd iddo gario ymlaen tra medrith o.

"['Dw i'n] ofnadwy o falch, mae'n gamp a hannar i fod dal wrthi yn ei oed o ac yn cael y clod mae o'n ei haeddu o'r diwadd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig