Teyrngedau i'r artist 'hynod dalentog' Iwan Gwyn Parry

Cafodd Iwan Gwyn Parry ei eni yng Nghaergybi yn 1970
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Iwan Gwyn Parry - artist amryddawn a fu farw yr wythnos hon yn ei bumdegau.
Cafodd ei eni yng Nghaergybi ar Ynys Môn yn 1970 a bu'n byw yn Rachub ym Methesda yn ddiweddarach yn ei fywyd.
Wedi iddo raddio mewn celf yng Nghaerdydd yn 1992 aeth i astudio ar gyfer ei radd meistr i ysgol gelf yn Chelsea.
Bu'n arddangos ei waith mewn orielau yng Nghymru, Llundain a Dulyn.
Roedd e'n bennaf adnabyddus am ei luniau o'r arfordir a'r môr - ac roedd y môr yn gefndir i nifer fawr o'i weithiau.
Yn ystod ei yrfa fe enillodd nifer o wobrau gan gynnwys dod yn ail am y fedal aur ar gyfer celfyddyd gain yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'n siarad yn gyhoeddus am fyw gydag anorecsia ac anhwylderau bwyta.
Wrth siarad ar y Post Prynhawn nos Iau dywedodd ffrind coleg iddo, yr artist Luned Rhys Parri, fod Iwan yn "ffraeth iawn, o'dd 'na lot o hwyl i'w gael hefo fo ac o'dd o'n licio siarad hefo pobl o bob oed".
Dywedodd perchnogion Oriel Ffin y Parc, Llandudno, mewn teyrnged y byddai "colled ar ei ôl" a'u bod wedi cydweithio gydag Iwan ers 2021.

Dywedodd Luned Rhys Parri, ffrind i Iwan, ei fod yn berson "cefnogol iawn"
Roedd Luned Rhys Parri yn ffrindiau gydag Iwan ers yn 18 oed a dywedodd ei fod yn "fyfyriwr hynod o dalentog ac ymroddgar".
"Roedd o'n gymeriad diddorol iawn hefyd. O'dd Iwan yn cario sketch book hefo fo trwy'r amsar - oedd o ddim yn stopio gweithio.
"O'dd genna' fo fag yn llawn siarcol, inc a phensilia', dyna oedd ei fyd o - celf - ac o'dd o'n benderfynol o oed cynnar iawn ei fod o eisiau bod yn artist."
O ran ei ysbrydoliaeth, esboniodd Ms Parri fod Iwan "wrth ei fodd" yn mynd o gwmpas arfordir Ynys Môn a mynd draw i Iwerddon.
"Tirlun, awyr, edrych ar y môr - dyna oedd ei ddileit o."
'Da iawn yng nghwmni pobl'
Roedd y ddau yn astudio yng Nghaerdydd yr un pryd a dywedodd Ms Parri eu bod wedi cael "lot o hwyl" yn byw mewn tŷ o bump yno.
"O'dd Iwan wastad yn gefnogol iawn, o'dd o'n gyrru cerdyn post i'n llongyfarch i os o'n i wedi gwneud arddangosfa ac o'dd o'n trio dod i bob un."
Ychwanegodd Luned Rhys Parri ei fod yn hoffi bod ar ben ei hun i wneud ei waith, ond ei fod hefyd yn "dda iawn yng nghwmni pobl".
"O'dd o'n ffraeth iawn, o'dd 'na lot o hwyl i'w gael hefo fo ac o'dd o'n licio siarad hefo pobl o bob oed."

Roedd tirluniau Iwan fel petai nhw'n "fynegiant o'i dirwedd fewnol", meddai Oriel Ffin y Parc mewn teyrnged
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Oriel Ffin y Parc bod "Iwan yn llawn gobaith, yn benderfynol a chadarnhaol" er ei salwch.
"Roedd yn llawn caredigrwydd ac anogaeth," meddent ac roedd edrych ymlaen at brosiectau'r dyfodol yn ei gynnal.
Ychwanegodd un o'r perchnogion ei bod hi'n hawdd adnabod ei waith a bod ei dirluniau yn "fynegiant o'i dirwedd fewnol".
"Bydd colled ar ei ôl - roeddem yn ei gyfri'n ffrind."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.