Carnarvon, Caernarvon, Caernarfon... beth yw'r hanes tu ôl i enw'r dref?

CaernarfonFfynhonnell y llun, John Speed
Disgrifiad o’r llun,

Hen fap sy'n cyfeirio at 'Caernarvon'

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ganrif ers i'r enw 'Caernarvon' gael ei ddefnyddio'n swyddogol ar y dref yng ngogledd orllewin Cymru. Cyn hynny, 'Carnarvon' oedd yn cael ei ddefnyddio yn answyddogol.

Ar 14 Ionawr, 1926, penderfynodd y cyngor lleol i wneud y newid, ac fe barhaodd yr enw 'Caernarvon' tan ganol y 1970au. Yna, fe newidiwyd y sillafiad unwaith eto, i'r 'Caernarfon' rydym yn ei 'nabod heddiw.

Ond beth yw hanes enw'r dref a'r newidiadau dros y blynyddoedd?

'Kairnarvon'

Mae Bob Morris yn hanesydd sy'n arbenigo ar hanes ardal Caernarfon, ac yma fe esboniai wreiddiau enw'r dref.

"Penderfyniad cwbl naturiol, fe dybiai rhywun, oedd i Gyngor Bwrdeistref Caernarfon, yn 1926, newid sillafiad enw'r dref hynafol a chael gwared â'r ffurf llwgr 'Carnarvon'.

"Credai rhai mai dyna a fu'r sillafiad ers concwest Edward I yn 1283-84, wedi cwymp Tywysogaeth Gwynedd, ond nid felly'n union roedd hi.

"Yn 1284 crëwyd sir o'r enw 'Caernarvan' yn ôl Statud Rhuddlan, gyda bwrdeistref o'r un enw. A doedd yr enw ddim yn newydd, o bell ffordd.

"Yn 1188, ar ei daith enwog trwy Gymru, roedd Gerallt Gymro wedi ymweld â thref 'Kairarvon'; ac yn 1221 lluniwyd Siarter ar gyfer mynaich Ynys Lannog (Ynys Seiriol heddiw) wedi ei selio gan Llywelyn Fawr yn 'Kaerinarvon'.

"Yn 'Kaer yn Arvon', yn 1258, y lluniodd Hywel ap Rhys Gryg ddatganiad yn cydnabod iddo dalu gwrogaeth i Llywelyn ap Gruffudd, ei Dywysog."

CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Muriau Castell Caernarfon, a gafodd ei adeiladu ar ddiwedd y 13eg ganrif

Nid amrywiad o'r enw 'Caernarfon' oedd yr enwau gwreiddiol, roeddent yn dra gwahanol, fel dywed Bob Morris:

"Bu nifer o enwau gwahanol ar Gaernarfon dros y canrifoedd cynnar: 'Caer Segeint', 'Caer Saint' a 'Chaer Segont' – y rhain yn adleisio enw Celtaidd yr afon a roesai ei henw, hefyd, i Gaer Segontium y Rhufeiniaid. Yr enw mwyaf annisgwyl, mae'n debyg, oedd 'Minmanton' (12fed ganrif), sef 'ymyl y man ble mae'r don'.

"Hyd yn oed yn arolwg swyddogol pwysig yr "Extentae" o Arfon a Môn (1352), fe ddefnyddir y ffurf 'Caernarvon'. Dipyn o ystumio Seisnigrwydd oedd y ffurfiau 'Karnarvon' a 'Carnarvon' a gafodd eu harddel gan awdurdodau lleol a chyrff eraill trwy Oes Victoria ac i mewn i'r 20fed ganrif - 'Dic Siôn Dafyddiaeth' meddai un gohebydd i'r wasg yn 1926.

"'Caernarvon' oedd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin yn Saesneg, yn swyddogol ac yn llenyddol; ac yn Gymraeg doedd gafael 'Caernarfon' heb simsanu dim, o leiaf ers cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

"Fe welid anghysondeb digrif yn y papur newydd 'The Carnarvon and Denbigh Herald': dyna ffurf pennawd y papur, ond 'Caernarvon' a geid ymhob un erthygl a hysbyseb o'i fewn."

Bob Morris
Disgrifiad o’r llun,

Yr hanesydd, Bob Morris

Felly, beth yw hanes y newid yn 1926?

"Ym mis Tachwedd 1925, gwnaed cais gan gangen Caernarfon o'r Blaid Genedlaethol (Plaid Cymru) ar i Gyngor y Dref newid y sillafiad swyddogol i'r ffurf Gymraeg 'Caernarfon'.

"Tua'r un pryd, gwnaeth awdur y golofn amrywiol 'Mustard and Cress', yn y 'Carnarvon and Denbigh Herald', awgrym o newid llai, sef dim ond ychwanegu'r 'e' yn 'Caer...'. Wedi peth trafodaeth, cytunodd y Cyngor, ar 10 Tachwedd, i adfer yr 'e' yn 'Caer...', ond ddim i newid y 'v' yn 'Arvon' i 'f'."

Dywedai Bob bod teimlad y byddai'r 'f' yn peri anhawster i bobl ddi-Gymraeg.

"Gwnaeth Clerc Cyngor y Dref gais i'r Cyngor Sir i ganiatáu'r newid, ac ar 14 Ionawr, 1926, cytunodd y Cyngor Sir i'r newid, ac i wneud yr un newid yn sillafiad 'Caernarvonshire' yn ei enw ei hun.

"Cafodd y newidiadau hyn eu cadarnhau gan lywodraeth Llundain ar 1Gorffennaf, 1926. Serch hynny, roedd y 'Carnarvon and Denbigh Herald' yn dal i ddefnyddio'r hen sillafiad ar gyfer pennawd y papur mor ddiweddar ag 1931."

Caernarfon & Denbigh HeraldFfynhonnell y llun, Caernarfon & Denbigh Herald
Disgrifiad o’r llun,

Y 'Carnarvon and Denbigh Herald' yn defnyddio'r hen sillafiad

"Cafwyd mwy o alw am adfer enwau lleoedd Cymraeg oedd yn cael eu llurgunio'n rhemp ar arwyddion ffyrdd ac ar fapiau", meddai Bob. "Agwedd dipyn yn wahanol fu ceisio adfer enwau traddodiadol yn lle enwau capeli (sef enwau Beiblaidd) ar bentrefi.

"Llwyddodd HR Jones, un o sylfaenwyr Plaid Cymru, i gael newid enw pentref ei febyd, Ebeneser (enw capel yr Annibynwyr), ym mro Gwaun Gynfi, i 'Deiniolen'.

"Ymgyrchydd arall dros enwau lleoedd Cymraeg oedd Gwilym T Jones, brodor o Bwllheli a ddaeth yn Glerc Cyngor Sir Gaernarfon. O dan ei arweiniad, cafwyd arwyddion enwau lleoedd mewn Cymraeg safonol ar ffyrdd Sir Gaernarfon yn yr 1940au a'r '50au."

Ond nid hynny oedd ddiwedd y stori gyda thref y sir, gan ei bod heddiw'n defnyddio 'f' yn lle'r 'v' yn y sillafiad, fel esboniai Bob:

"Cafwyd gwared a'r 'v' o enw Caernarfon yn swyddogol yn 1975 ac adfer yr 'f' Cymraeg. Erbyn hynny, wedi ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, roedd Sir Gaernarfon wedi diflannu; ond mae Cyngor Tref Caernarfon yn dal mewn bri a'r dref yn fwrlwm o Gymreictod o hyd."

CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ym Meddgelert heddiw

Dydi'r stori o dref yn defnyddio ffurf Seisnigaidd ac yna'n newid i sillafiad Cymraeg ddim yn un yn prin - roedd yn gyffredin drwy Gymru. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys sillafiadau fel Dolgelley/y, Towyn, Conway ac Aberystwith.

Mae Dr James January-McCann yn gweithio i'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac mae'n esbonio'r cyd-destun ehangach:

"Y peth cyntaf i'w ddweud yw nad yw enwau fel Carnarvon yn enwau Saesneg fel y cyfryw. Beth sydd wedi digwydd yw bod Saeson wedi dod ar draws enwau Cymraeg, ac wedi ceisio eu hysgrifennu mewn modd sy'n gwneud synnwyr yn ôl ffoneteg yr iaith fain.

"Mae hynny'n mynd yn ôl canrifoedd. Wedi'r cwbl, mae llawer o enwau lleoedd yn Lloegr yn deillio o'r Frythoneg, sef yr iaith a ddatblygodd y Gymraeg ohoni, fel Peover, sy'n dod o'r gair pefr, Liss (llys) a Cheadle, sy'n cyfateb i Coed-llai yn Sir Y Fflint.

"Mae'r rhain yn addasiadau i'r Saesneg, yn hytrach nac yn enwau Saesneg gwreiddiol, ac mae Carnarvon, ac enwau fel Merioneth a Dolgelly'n enghreifftiau mwy diweddar o'r ffenomenon."

Dr James January-McCannFfynhonnell y llun, James January-McCann
Disgrifiad o’r llun,

Dr James January-McCann o'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Dywed James fod y newidiadau a ddigwyddodd yn yr ugeinfed ganrif yn dilyn canrifoedd pan oedd gan y Gymraeg ddim statws swyddogol.

"Rhaid cofio mai'r Saesneg oedd unig iaith swyddogol Cymru o'r Ddeddf Uno hyd 1993. Ffurfiau "Saesneg" (hynny yw, enwau Cymraeg wedi'i Seisnigeiddio) fyddai'r unig ffurfiau 'awdurdodol' felly.

"Fodd bynnag, dyw hynny ddim yn golygu nad oedd ffurfiau Cymraeg mewn defnydd. Mae Dolgellau, gyda'i sillafiad Cymraeg modern, yn ymddangos yn y farddoniaeth yn y 1340au er enghraifft."

Newid agweddau

Credai James bod agweddau wedi newid parthed enwau llefydd yng Nghymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

"Erbyn y 1970au roedd cenedlaetholdeb wedi tyfu nes bod galw am gael gwared ar ffurfiau Seisnig llefydd fel Caernarfon a Dolgellau.

"Erbyn hynny, gan ddilyn Deddf yr Iaith Gymraeg (1967) roedd digon o hyder yn nefnydd cyhoeddus y Gymraeg i bobl fedru defnyddio'r ffurfiau Cymraeg yn unig. Hynny yw, beth yw pwrpas cael Caernarvon ar arwydd ar bwys Caernarfon? Yr un enw ydyn nhw i bob pwrpas, un wedi'i sillafu'n gywir yn ôl orgraff y Gymraeg a'r llall yn wallus.

"Mae'r tuedd hon wedi magu stêm eto'n ddiweddar, gyda phenderfyniad Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i safoni Llandaff a Rhondda Cynon Taff i Llandaf a Rhondda Cynon Taf, dim ots pa iaith mae pobl yn ei defnyddio."

abergynolwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd gyda Dolgelly arno sydd dal i'w gweld ym mhentref Abergynolwyn

"Mae rhai'n galw am gael gwared ar y ffurf Seisnig 'Caerphilly' ac arddel Caerffili'n unig, ac mae sawl enghraifft arall yng Nghymru lle gellid gwneud yr un peth."

Felly, fel defnyddir Caernarfon yn unig bellach, fe all defnyddio 'Caerffili' fod yn norm mewn blynyddoedd i ddod, ac o bosib fe welwn newidiadau tebyg ledled Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: