Cwymp pris llaeth 'mwyaf sydyn erioed' yn peryglu dyfodol ffermydd

Rhisiart Lewis
Disgrifiad o’r llun,

"Hwn ydy'r cwymp mwyaf sydyn 'da ni wedi ei gael erioed," medd Rhisiart Lewis

  • Cyhoeddwyd

Fe allai rhai ffermydd yng Nghymru fynd i'r wal oherwydd gostyngiad sydyn ym mhris llefrith, medd Undeb Amaethwyr Cymru [UAC].

Yn ôl un ffermwr o Ben Llŷn, mae'n amcangyfrif ei fod wedi colli £35,000 mewn incwm dros y chwe mis diwethaf, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, yn sgil y gostyngiad.

Yn ôl Dairy UK, mae'r prisiau isel o ganlyniad i anghydbwysedd rhwng faint o lefrith sy'n cael ei gynhyrchu a faint sydd ei angen gan y cwsmer.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y pryder ac yn cydweithio gyda'r undebau i gefnogi ffermwyr.

Yn ôl UAC, mae disgwyl i brisiau llefrith aros yn oddeutu 30c i 35c y litr.

Ond mae prisiau cynhyrchu yn uwch - ar 39c i 44c y litr - sy'n golygu bod nifer o amaethwyr ar hyn o bryd yn gwneud colled ariannol wrth gynhyrchu.

Gwartheg

Ers degawdau mae Rhisiart Lewis yn berchen ar fferm yn Llangybi ger Pwllheli ac yn godro rhyw 150 o wartheg.

Yn gyn-gyfarwyddwr ar fwrdd Hufenfa De Arfon, mae'n dweud nad yw erioed wedi profi cwymp mor sylweddol ac mor sydyn.

"Hwn ydy'r cwymp mwyaf sydyn 'da ni wedi ei gael erioed," meddai.

"Mae pethau wedi bod fel hyn ar hyd y blynyddoedd dweud y gwir ac mae'r drop yma 'di bod ers mis Awst."

Gyda gormod o lefrith yn cael ei gynhyrchu ar draws y byd o gymharu â'r galw amdano gan gwsmeriaid, mae 'na oblygiadau ariannol i ffermwyr yma.

"Mi oedd pris llefrith tua 44c y litr 'nôl ym mis Awst... ond fyny at Chwefror [eleni] fydda' i 'di colli rhyw £35,000, gyda llai o incwm yn dod i mewn 'de."

Elin Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lawer o ffermwyr yn poeni'n fawr am effaith y cwymp mewn pris, meddai Elin Jenkins

Wrth gynnal arolwg cychwynnol o'r sefyllfa yng Nghymru, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod nifer o ffermwyr wedi profi gostyngiad o 9.46c y litr dros gyfnod o dri mis.

Gyda phris cynhyrchu yn oddeutu 37c y litr, mae hynny'n golygu bod ffermwyr ar gyfartaledd yn colli tua 4c ar bob litr.

"Mae'n ffermwyr llaeth ni yn rhedeg ar golled ar bob litr o laeth," meddai Elin Jenkins, Swyddog Polisi UAC.

"Mae hynny'n rhywbeth sydd ddim yn gynaliadwy a gyda hynny - os nad yw busnes yn gallu gwneud busnes - dyw'r busnes ddim am oroesi o gwbl a byddwn ni'n colli ein ffermwyr.

"Mae nifer fawr o'n ffermwyr ni mewn lle tywyll iawn.

"Mae lot yn dioddef, yn poeni a ddim yn gweld sut allwn ni oroesi hyn mewn 8, 10 neu 12 mis," ychwanegodd Ms Jenkins.

Yn ôl Dairy UK mae prisiau llefrith yn cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau, ond mae'r gostyngiad diweddar yn ganlyniad i anghydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad.

Mae Andrew RT Davies yn Gadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Senedd sy'n trafod materion amaethyddol, ac mae'n dweud bod pryder am sgil-effeithiau'r niwed sy'n cael ei achosi i'r sector laeth.

"Mae'r sector yn gyrru meysydd eraill fel cwmnïau peiriannau, milfeddygaeth a rhai eraill sy'n cael eu cefnogi.

"Os bod 'na lai o bres yn mynd mewn i'r diwydiant lefrith mae'n golygu bod o ddim yn mynd i'r meysydd eraill hefyd."

'Cynnig ystod o gymorth addas i ffermydd llaeth'

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau penodol "sy'n wynebu ffermwyr llaeth wrth i brisiau ostwng".

"Yn ddiweddar, cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog ag UAC a'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth i drafod y sefyllfa.

"Bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, i sicrhau bod ffermwyr yn cael mynediad at gymorth ymarferol.

"Rydym wedi ymrwymo i'r sector llaeth yng Nghymru, ac, drwy ein cynlluniau amaethyddol, rydym yn cynnig ystod o gymorth sy'n addas i ffermydd llaeth i wella eu perfformiad ariannol ac amgylcheddol.

"Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gael i bob ffermwr, gan gynnwys y rhai yn y sector llaeth, er mwyn sicrhau bod ganddynt ddyfodol cryf a bywiog."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.