National Milk Bars – y ffarmwr llaeth o Sir Drefaldwyn a'i gaffis eiconig

Agorodd Willie Griffiths y National Milk Bars cyntaf ym Mae Colwyn yn 1933.
- Cyhoeddwyd
Roedd caffis eiconig y National Milk Bars yn arfer bod yn olygfa gyfarwydd iawn ar brif strydoedd trefi y gogledd a'r canolbarth.
Ar un adeg, roedd 17 o'r bariau llaeth adnabyddus ar draws Cymru a Lloegr – gan gynnwys Aberystwyth, Porthmadog, Machynlleth, Bae Colwyn a Lerpwl.
Caëwyd y National Milk Bars olaf yng Nghymru yn 2010 yn Y Rhyl ac Aberystwyth – ond mae un yn dal i fod ar agor yn Ellesmere Port ger Lerpwl, gyda nifer o bobl heddiw'n hiraethu am ddyddiau'r milk bars.
Er bod y busnes wedi lledaenu i Loegr yn hwyrach, cychwynnodd y bariau llaeth fel menter hollol Gymreig – y National yn dynodi Cymru.
Dyma fwy o hanes y National Milk Bars – ymerodraeth llefrith Willie Griffiths, y ffarmwr llaeth o ardal Y Trallwng.
Pwy oedd Willie Griffiths?
Ganwyd Robert 'Willie' Griffiths yn 1896 ger Y Trallwng.
Dechreuodd ffermio yng Ngarthllwyd, ger Llanfair Caereinion, yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda chwech o wartheg godro Blue Albion. Wrth i'r gyr dyfu, roedd Griffiths yn anfodlon gyda'r prisiau isel roedd yn cael am werthu ei laeth yn lleol.
Felly, cychwynnodd werthu hufen o'r fferm yn siop adrannol enwog Harrods yn Llundain.
Yn 1926, symudodd i fferm fawr Woodlands yn Ffordun gyda haid llawer fwy o wartheg. Cyn pen dim, roedd Willie Griffiths yn godro gwartheg yno ar 900 o erwau o dir gydag oddeutu 250 o wartheg.
Roedd y fferm yn cael ei bweru'n drydanol, ac yn un o'r ffermydd fwyaf modern yn y Deyrnas Unedig ar y pryd.

Willie Griffiths yn ei wisg arbennig fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn yn 1953
Ysbrydoliaeth o Lundain
Ar daith fusnes i Lundain ar ddechrau'r 1930au, aeth Willie Griffiths i 'far llaeth' cyntaf y Deyrnas Unedig ar Stryd y Fflyd – caffi oedd yn gweini coffis frothy ac ysgytlaethau mewn bar gyda stôls uchel.
Roedd y 'bar llaeth' yn gysyniad Americanaidd, yn deillio o gyfnod y Gwaharddiad, pan roedd alcohol wedi ei wneud yn anghyfreithlon.
Cyflwynwyd y milk bars i Brydain gan yr entrepreneur o Awstralia, Hugh D. McIntosh, a oedd yn enwog am fod yn hyrwyddwr gornestau paffio – ac yn y 1930au roedd yn berchen ar 11 o'r bariau hyn yn Llundain.
Gwelodd Griffiths ei gyfle i greu ei deyrnas llefrith ei hunan, felly!

Bariau llaeth Llundain yn y 1930au – yr ysbrydoliaeth ar gyfer y National Milk Bars
Creu teyrnas laeth
Yn 1933, agorodd Willie Griffiths y National Milk Bars cyntaf ym Mae Colwyn.
Yn fuan, datblygodd y cwmni'n tsiaen llwyddiannus, ac erbyn cyfnod yr Ail Ryfel Byd roedd yna 11 National Milk Bars ar draws gogledd Cymru – gan gynnwys Aberystwyth, Y Drenewydd, Machynlleth a'r Trallwng.
Trwy redeg y bariau llaeth, roedd Willie Griffiths yn gwerthu ei gynnyrch llaeth ei hun ar draws y wlad. Roedd 65% o'r holl laeth, hufen, cig moch, bara ac wyau oedd yn cael eu defnyddio yng nghynnyrch y bariau'n dod o fferm Woodlands yn Sir Drefaldwyn.
Yn ôl nifer, roedd Griffiths yn ddyn fusnes ymhell o flaen ei amser, gan sefydlu'r tsiaen a barodd nes 2010.
Yn 1953, gwnaed Willie yn Uchel Siryf Sir Drefaldwyn.

Y National Milk Bars yn Aberystwyth yn 1935 – caëwyd y caffi yn 2010, un o'r rhai olaf yng Nghymru i gau
Dyluniad eiconig
Roedd gan y bariau ddyluniad eiconig – lloriau siec du a gwyn, fordydd fformica a gosodiadau crôm disglair, jiwcbocsys, a stôls Americanaidd wrth ymyl y bariau.
Roedd y bariau'n enwog am eu coffis frothy – a oedd yn ecsotig iawn ar y pryd – a'u hysgytlaethau blasus, ac am werthu cacennau hufen Tunnock's.
Roedd y bariau ar eu hanterth yn y 50au a'r 60au, pan roedd 17 o National Milk Bars ar draws gogledd Cymru a Lloegr. Ehangodd y tsiaen i agor bariau ar draws y ffîn yn Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Yr Amwythig a Chroesoswallt.

Pobl ifanc yn yfed ysgytlaethau yn un o'r bariau llaeth yn y 50au
Atgofion melys
Un sy'n cofio ymweld yn aml â'r National Milk Bar yn Aberystwyth ydy'r ffarmwr llaeth Twm Jones, o Lanfechell, sy'n gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Ynys Môn.
"Roedd y milk bar yn boblogaidd ymysg ffermwyr yn yr ardal", meddai. "Roedd pobl yn gwybod am gefndir amaethyddol y cwmni, ac roedd yna dynfa naturiol yn hynny o beth.
"Roeddech chi'n aml yn cwrdd â ffermwyr oedda chi'n nabod yno!
"Ac ar gefn y bwydlenni, roedd yna fapiau oedd yn dangos yn union lle'r oedd bob National Milk Bar ar draws Cymru a Lloegr. O'dd llawer ohona nhw o gwmpas y Gogledd.
"Mae'n rhaid dweud bod 'na rywbeth reit nostalgic amdanyn nhw erbyn hyn!"

Y National Milk Bar ar Lime Street yn Lerpwl - lle'r oedd y Beatles yn mwynhau mynd am goffi ar ddechrau eu gyrfa!
Yn y cyfnod hwn, daethon nhw'n llefydd cŵl i bobl ifanc gwrdd. Roedd y bariau'n boblogaidd iawn ymhlith y teddy boys, gyda'r jiwcbocsys yn ffrwydro gyda chaneuon roc a rôl o America, a dyluniad atyniadol y caffis yn atgoffa nifer o fywyd yn yr Unol Daleithiau.
Roedd hyd yn oed y Beatles yn ffans – roedden nhw'n mynd yn aml i'r National Milk Bar ar Lime Street ar ddechrau'r 60au, gyda nifer o ieuenctid Lerpwl yn dilyn yn eu plith.
Un arall sy'n cofio'r National Milk Bars yn dda ydy menyw 76 oed o Fachynlleth (doedd ddim eisiau cael ei henwi ar gyfer yr erthygl hon) oedd yn rheolwr ar gaffi'r National Milk Bars yn Nolgellau.
"Agorwyd y National Milk Bar yn Nolgellau yn Awst 1975, pan o'n i'n 27," meddai.
"Fi oedd y rheolwraig gyntaf gan dreulio 15 mlynedd yno cyn gadael yn Awst 1990. Dwi'n cofio'r prysurdeb wrth i ni agor ganol haf, yr holl bobl ddiarth o'n cwmpas! Doeddach chi ddim yn cael amser i feddwl, rywsut!
"Roedd Dolgellau yn agos iawn at deulu Willie a Florence Griffiths gan fod eu hunig ferch wedi treulio ei bywyd addysgol yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau.
"Erbyn i'r milk bar agor yn Nolgellau yn 1975, roedd Mr Griffiths wedi marw. Ond roedd Florence, ei wraig yn dal i redeg y busnes o Woodlands, sef eu fferm nhw yn Ffordun.
"Ac mi oedd hi'n dŵad i mewn yn aml i'r milk bar yn Nolgellau. Ac roedd y merched eraill yn cwyno amdani weithiau, yn dweud bod hi just yn dod a cherdded i mewn i'r gegin heb unrhyw rybudd i edrych dros bethau.
"Ond efo fi, doedd hi ddim yn dod ymhellach na'r cownter a'r till, ac yn barchus iawn hefo fi. Ac mi fyddai hi'n dweud 'Get the girls to make us a pot of tea, and sit down here with me.' Ac mi fyddwn ni'n trafod y busnes wedyn.
"Roedd hi'n fenyw glên dros ben, ac yn gymeriad."
Hiraeth am ddyddiau'r milk bars
Mae'r tsiaen wedi dirwyn i ben yng Nghymru eisoes.
Er hynny, mae hanes y National Milk Bars yn diddori nifer o bobl ar-lein.
Mae yna flog yn trafod hanes y bariau, ac mae yna hefyd fand synth-pop o Fachynlleth wedi eu henwi ar ôl y tsiaen. Mae prif leisydd y band National Milk Bar, Jason Childs, yn cofio'r caffis yn dda:
"Dwi'n cofio mynd i'r un ym Machynlleth yng nghanol yr 80au, pan o'n i yn yr ysgol. Dyna lle o'n i'n mynd i hongian allan gyda ffrindiau yn ystod amser cinio'r ysgol – yn eistedd yno'n yfed ysgytlaeth frothy a darllen Smash Hits!
"O'n i'n arfer mynd yno hefyd am frothy coffees gyda fy nghariad. 'Dy ni nawr wedi bod yn briod ers 34 mlynedd!"
"Oedd dyluniad y caffis yn eitha Americanaidd, mewn ffordd," meddai Jason. "Ac o'ch chi'n gallu cael coffis da, coffis go iawn yno, oedd yn beth eitha prin yn y cyfnod!
"Mae'r milk bars just yn snapshot arbennig o'r cyfnod hwnnw, i llawer o bobl oedd yn tyfu fyny yn y gogledd ar y pryd.
"A dyna pam ddewisais i'r enw National Milk Bar ar gyfer y band – oherwydd bod e'n eitha retro ac yn crisialu'r cyfnod yna i fi, o dyfu fyny yn yr 80au!"

Map yn dangos lleoliadau'r holl National Milk Bars – oedd ar gefn bob bwydlen ymhob un caffi!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd13 Mai 2025
