Cartref teulu wedi ei ddinistrio 'mewn eiliadau' ar ôl i fatri sgwter trydan achosi tân

Lluniau o'r ty wedi ei ddinistrio gan y tanFfynhonnell y llun, Chelsea Ann Buckler
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chelsea Ann Buckler fod y tân wedi dinistrio'r tŷ a'r holl eiddo ynddo'n llwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg yn 'hynod ddiolchgar o fod yn fyw' ar ôl i sgwter trydan achosi tân difrifol wnaeth ddinistrio eu cartref a'u holl eiddo yn llwyr.

Roedd difrod sylweddol i'r tŷ yng Nghlôs Caerffili ar ôl tân a gafodd ei achosi gan fatri lithiwm y sgwter trydan oedd yng nghyntedd y cartref.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw ychydig ar ôl hanner nos ddydd Gwener 9 Ionawr i ddiffodd y tân.

Dywedodd Chelsea Ann Buckler ar dudalen codi arian fod "gwylio popeth yn diflannu yn dal i deimlo'n afreal," ac mae'n diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gyda'i phum brawd a chwaer a'i rhieni, "mae'r daith o'u blaen yn teimlo'n llethol."

'Mewn eiliadau, dinistriodd tân ein cartref a phopeth oedd ynddo'

Ar ôl colli'r cyfan yn y tân, dywedodd Chelsea Ann Buckler, un o ferched y teulu, fod ei chwaer yn lwcus o fod yn fyw ar ôl gorfod neidio o ffenest ei llofft i ddianc rhag y fflamau.

"Mae hi'n fyw, ond mae hi bellach ar grutches, bron yn methu cerdded, ac yn gwella o'r boen gorfforol a'r sioc o'r hyn a ddigwyddodd iddi. "

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar ei bod hi'n fyw, ond mae ein calonnau'n brifo am yr hyn wnaeth hi ei ddioddef. "

Ychwanegodd Chelsea Ann Buckler fod y "dyddiau diwethaf wedi bod ymhlith y rhai anoddaf y mae ein teulu erioed wedi'u hwynebu. "

"Mewn eiliadau, dinistriodd y tân ein cartref a phopeth oedd ynddo— ein hatgofion, lle yr oeddem yn teimlo'n ddiogel, ac roedd bywyd yn teimlo'n normal," meddai.

"Mae gwylio'r cyfan yn diflannu yn dal i deimlo'n afreal. Yr hyn sy'n brifo hyd yn oed yn fwy yw gwybod pa mor agos y daethom at golli ein gilydd."

"Rydyn ni'n ddiolchgar ein bod yn ddiogel ac yn fyw, er ein bod yn galaru am bopeth wnaethon ni ei golli yn y tân."

"Mae'r trychineb hwn wedi ein gadael mewn sioc. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ceisio prosesu'r golled, y trawma, a'r daith hir sydd o'n blaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig