Yw hi'n syniad da gwahardd cyfryngau cymdeithasol i blant?

Mae rhai ysgolion eisoes yn cymryd camau i gyfyngu ar ddefnydd ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ymhlith pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i wahardd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed, fel rhan o becyn o fesurau i "ddiogelu lles pobl ifanc".
Daw'r ymgynghoriad yn sgil pryder cynyddol am effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl, ymddygiad ac addysg plant a phobl ifanc.
Ym mis Rhagfyr daeth y gwaharddiad cyntaf o'i fath yn y byd i rym yn Awstralia, gyda'r wlad yn cyflwyno deddfwriaeth i atal pobl dan 16 oed rhag defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae nifer o wledydd eraill, gan gynnwys y DU, bellach yn ystyried dilyn yr un trywydd.
Cefnogaeth i 'Blentyndod Heb Ffonau Clyfar'
Yng Nghymru, mae rhai ysgolion eisoes yn cymryd camau i gyfyngu ar ddefnydd ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ymhlith pobl ifanc.
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd ledled y sir, wedi datgan cefnogaeth i'r mudiad cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar - neu Smartphone Free Childhood.
Mae'r mudiad yn annog rhieni a gofalwyr i beidio rhoi ffôn clyfar i blant nes eu bod yn o leiaf yn 14 oed, ac i osgoi defnyddio cyfryngau cymdeithasol nes eu bod yn 16 oed.

Yn ôl Laurel Davies, mae lleihau'r defnydd o ffonau a chyfryngau cymdeithasol yn yr ysgol wedi arwain at fwy o gymdeithasu wyneb yn wyneb
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Laurel Davies, pennaeth Ysgol Ystalyfera Bro Dur, ei bod hi wedi gweld yn uniongyrchol sut mae ysgolion yn Awstralia wedi ymateb i'r her.
Dywedodd ei bod wedi ymweld ag ysgolion yn Awstralia yn 2024 ar gwrs arweinyddiaeth ac wedi siarad â phenaethiaid presennol a chyn-benaethiaid, cyn i'r llywodraeth gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol yn 2025.
"Welon ni yn syth bod yr ysgolion wedi gosod sefyllfa lle doedd dim modd defnyddio ffôn symudol," meddai.
"Oeddech chi'n gweld posteri o gwmpas yr ysgolion - pethau fel 'off and away all day', 'phones are not to be used, seen or heard'," gan ychwanegu bod y disgyblion yn cydymffurfio.
'Ond yn gallu gweld pethau positif'
Yn ôl Ms Davies, mae'r un egwyddor bellach ar waith yn Ysgol Ystalyfera Bro Dur, lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gadw ffonau "i ffwrdd drwy'r dydd".
Dywedodd fod disgyblion yn dweud eu bod yn gallu canolbwyntio'n well yn yr ysgol, gan ychwanegu: "Dy'n nhw ddim yn cael eu tynnu mewn i'r byd digidol."
"Ni'n gweld effaith o ran eu cymdeithasu wyneb yn wyneb byw nhw.
"Ni ond yn gallu gweld pethau positif o beidio cael ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol o gwmpas yr ysgol."
Ond pwysleisiodd Ms Davies nad oes ateb syml i'r ddadl.
"Mae'r ymrwymiad yma sydd gyda nhw i'w ffonau yn ymwneud â'r gwefannau cymdeithasol sydd yn denu nhw mewn i fyd ffug," meddai.
Yn ei barn hi, addysg yw'r allwedd, gan helpu pobl ifanc i ddeall effaith cyfryngau cymdeithasol ac i beidio teimlo bod rhaid iddyn nhw fod ar-lein drwy'r amser.

Cymysg yw'r farn ymhlith Isabelle, Zac, Maisy a Robyn o Ysgol Ystalyfera Bro Dur
Ond mae barn y disgyblion eu hunain yn gymysg.
Dywedodd Isabelle ei bod hi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau nad sy'n mynychu'r un ysgol â hi.
"Mae rhai o fy ffrindiau i ddim yn mynd i'r un ysgol â fi, a dwi'n defnyddio'r cyfryngau i gysylltu gyda nhw, felly gallai rhai pethau gwael ddod o'r ban," meddai.
I Maisy, fodd bynnag, mae'r syniad o gyfyngu ar gyfryngau cymdeithasol yn un cadarnhaol.
"Dwi'n meddwl bydd pobl yn anghytuno yn gyntaf, ond i fi dyma'r peth iawn i 'neud achos maen nhw'n cael gormod o effaith gwael ar bobl."
Roedd Zac yn llai sicr, gan ddweud ei fod yn gweld y ddadl fel un gymhleth.
"I fi mae'n ddadl eitha' cymhleth, ond dwi'n credu bod e lan i'r rhieni, dim lan i'r llywodraeth.
"Dylai'r llywodraeth beidio effeithio ar eu rhyddid nhw."
Ychwanegodd Robyn ei fod yn teimlo bod "nifer o ddisgyblion yn ddibynnol ar ffonau a'r cyfryngau cymdeithasol".
"I rai ma' fe'n bwysig iawn a bydden nhw methu stopio, ond i'r mwyafrif sai'n credu bydd e'n rhy anodd i stopio," meddai.
'Rhy anaeddfed i declyn mor bwerus'
Hefyd ar Dros Frecwast dywedodd Gareth James, pennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, bod y defnydd o ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ar gynnydd ymysg disgyblion cynradd yn ogystal.
"Dy'n nhw ddim yn cael defnyddio ffonau yn yr ysgol, wrth gwrs, ond mae ffonau clyfar ar gynnydd 'weden i ymysg plant ifanc.
"Falle bod y gorddefnydd yma o ffonau clyfar yma'n cael effaith ar allu'r plant i ganolbwyntio yn y gwersi, i aros yn effro.
"Ni'n sylwi falle bod y gorddefnydd yma – maen nhw'n gallu gweld pethe dy' nhw ddim fod, maen nhw'n rhy ifanc, rhy anaeddfed o bosib i ddelio gyda chael y teclyn mor bwerus yn eu dwylo nhw.
"Ac mae'r sgwrs am gyfryngau cymdeithasol o'n safbwynt i yn y cynradd – dyle fe ddim fod o gwbl.
"Mae'r niwed ma' hynny'n gallu gwneud i blant ifanc iawn ddim yn dda o gwbl.
"Dwi ddim yn credu dewch chi o hyd i ysgol sydd ddim yn credu bod angen i rieni ystyried oedi rhoi ffôn clyfar i'w plant – dyna maen nhw'n ei ofyn.
"Dy'n nhw ddim yn gofyn am eu banio'n gyfan gwbl, ond oedi rhoi nhw tan eu bod nhw'n ddigon aeddfed i'w defnyddio nhw'n synhwyrol."
Y camau nesaf
Bydd ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn para am dri mis, gyda'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn dweud y bydd yn ceisio cael "barn rhieni, pobl ifanc a chyrff cymdeithas sifil" i benderfynu ar effeithiolrwydd gwaharddiad.
Bydd hefyd yn edrych a allai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol weithredu gwiriadau oedran mwy cadarn, ac a oes modd eu gorfodi i ddileu neu gyfyngu ar nodweddion "sy'n ysgogi defnydd o gyfryngau cymdeithasol".
Mae disgwyl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad helpu i benderfynu a fydd gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed yn cael ei gyflwyno yn y DU.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.