'Dwyn fy hunaniaeth i decstio dynion yn frawychus'

Sasha-Jay yn edrych ar y gamera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau o Sasha-Jay wedi cael eu dwyn o'i chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'u defnyddio i swyno trwy dwyll

GanEleri Griffiths
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Pan mae rhywun yn syllu ar Sasha-Jay Davies mewn siop, mae hi'n hynod bryderus - mae hi'n ofni bod pobl yn adnabod ei hwyneb ac ar fin dod ati.

Ers pedair blynedd bron mae hi wedi cael ei chyhuddo gan ddieithriaid o ddenu dynion - trefnu i i'w cyfarfod a pheidio troi fyny.

Mae hyn oherwydd bod lluniau Sasha-Jay wedi cael eu dwyn o'i chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'u defnyddio gan rywun arall i feithrin perthynas gyda dynion a merched.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r mater.

Dywed y cyfreithiwr diogelwch ar-lein, Yair Cohen, nad oes gan bobl sy'n swyno trwy dwyll (catfishing) lawer o hunan-barch a bod dwyn hunaniaeth rhywun arall i dwyllo eraill eu bod mewn perthynas yn rhoi "pŵer" iddyn nhw.

'Ofn mynd allan'

"Mae bechgyn wedi dod lan atai a fy nghyhuddo o anfon negeseuon atyn nhw, eu denu nhw ac i wneud cynlluniau i gyfarfod - sgyrsiau fi erioed wedi'u cael," meddai Sasha-Jay, sy'n 19 oed.

"O'n i'n arfer mynd allan yn aml ond nawr prin ydw i'n mynd allan oherwydd fy mod i'n ofni pa ddyn fydd yn dod lan atai nesaf.

"Mae'n anodd iawn ac ni fyddwn yn dymuno hyn i fy ngelyn pennaf."

Hyd yn hyn mae'r dynion sydd wedi dod ati wedi bod yn ddigon dymunol ond mae'n poeni am yr hyn a allai ddigwydd gan ychwanegu: "Mae'n frawychus cael eich herio am rywbeth chi ddim wedi 'neud a sylweddoli bod rhywun yn defnyddio'ch wyneb i swyno eraill."

Saith print A4 o sgrinluniau o gyfrifon ffug Sophie Kadare wedi'u gosod ar fwrdd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae 81,000 yn dilyn y cyfrif ffug ar TikTok

Mae tua 20 o fechgyn a sawl merch wedi cysylltu â Sasha-Jay, o Aberdâr ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod yn ei hadnabod.

Ond nid lluniau yw'r unig beth mae'r twyllwyr wedi'u cymryd.

Mae 'na negeseuon creulon sy'n gysylltiedig â'i diweddar dad gan gynnwys tystysgrif canser pancreatig ffug, ac mae llun ohoni hi hefyd yn ailbostio negeseuon hiliol sarhaus - negeseuon sydd wedi dwyn anfri arni.

Mae lluniau o gorff menywod eraill sydd â chorff tebyg i Sasha-Jay hefyd wedi cael eu postio - negeseuon sydd wedi denu llawer o sylwadau rhyfedd gan ddynion ac sydd wedi gwneud iddi deimlo'n "anghysurus iawn".

"Mae'n anodd deall rhywbeth sy' mor faleisus," meddai.

"Maen nhw'n gwybod popeth amdanai."

Y tro cyntaf i Sasha-Jay fod yn ymwybodol o gyfrif ffug oedd yn 2022, pan oedd hi'n 16 oed, a newydd ddechrau yn y coleg ar ôl gadael yr ysgol.

Fe wnaeth hi sylweddoli bod rhywun yn defnyddio ei lluniau ar TikTok.

Gan fod y proffil ffug yn gyhoeddus ac yn postio cynnwys dyddiol cynyddodd nifer y dilynwyr.

Fe wnaeth Sasha-Jay roi gwybod am y proffil i'r heddlu ond dywedwyd wrthi nad oedd llawer y gellid ei wneud.

"Meddyliais, 'o, wel, gobeithio y byddan nhw'n diflasu ac yn ei wneud e i rywun arall'," meddai.

Ond yn fuan dechreuodd y lluniau ymddangos ar apiau dyddiol ac fe gafodd cyfrifon ffug yn defnyddio llun o'u ffrindiau eu creu i "wneud i bopeth i edrych yn fwy credadwy".

Er gwaethaf gwneud ei chyfrifon ei hun yn breifat 18 mis yn ôl, dywedodd Sasha-Jay fod y rhai a wnaeth ddwyn ei hunaniaeth wedi parhau i ddefnyddio hen luniau, a rhai newydd wedi'u golygu gan ddeallusrwydd artiffisial - AI.

Ciplun o sgwrs cyfryngau cymdeithasol.Ffynhonnell y llun, Mark
Disgrifiad o’r llun,

Cip ar y math o sgyrsiau oedd yn digwydd gan ddefnyddio llun Sasha-Jay

Cafodd lluniau o Sasha-Jay eu defnyddio ar gyfrifon o dan yr enw Sophie Kadare, ac un person a gafodd ei dwyllo oedd Mark (nid ei enw iawn), 22 oed, o Essex.

Ym mis Rhagfyr dechreuodd anfon negeseuon at "Sophie" ar Instagram ar ôl gweld ei fideos ar TikTok.

Mae TikTok ac Instagram bellach wedi dileu'r cyfrifon ffug.

"Dywedodd ei bod hi'n cefnogi Lerpwl felly meddyliais y byddwn i'n ei dilyn," meddai Mark.

Am tua mis fe wnaethon nhw anfon negeseuon a sgwrsio am bethau fel pêl-droed, yr hyn ro'n nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd a theithio.

Yna un diwrnod wrth sgrolio ar TikTok, daeth Mark ar draws fideo ar gyfrif go iawn Sasha-Jay am ei phartner hi.

"Ro'n i mewn sioc ar y dechrau," meddai.

"O'n i erioed wedi profi unrhywbeth fel yna o'r blaen."

Fe wnaeth Mark rybuddio Sasha-Jay, ond pan wynebodd "Sophie", fe'i blociodd.

"Fi'n meddwl roedd hi'n anfon negeseuon ataf i gael sylw," meddai.

"Efallai bod hi'n ferch na sy'n cael llawer o sylw gan fechgyn - does gen i ddim syniad."

Sasha-Jay yn edrych ar y nifer o brintiau A4 o'r cyfrifon ffug sydd wedi'u gosod ar fwrdd yn ei chegin.
Disgrifiad o’r llun,

O ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan ambell lwyfan cyfryngau cymdeithasol a'r heddlu, mae Sasha-Jay yn dweud ei bod hi wedi gorfod ymchwilio ei hun

Mae Sasha-Jay yn cwestiynu a oes rhywun y mae hi'n ei adnabod y tu ôl i'r cyfan.

Cyn i'r cyfrifon gael eu dileu, roedd hi wedi ceisio rhoi gwybod amdanyn nhw i'r cyfryngau cymdeithasol ond mae'n dweud bod y person ffug yn blocio ei ffrindiau a'i theulu er mwyn i'w hatal rhag gwneud.

Roedd y ffaith bod y cyfrifon ffug wedi cael 81,000 o ddilynwyr ar TikTok a 22,000 yn ei gwneud hi'n anoddach.

"Oherwydd bod gan y cyfif ffug mwy o ddilynwyr na sydd gen i, mae'r cyfri ffug yn edrych fel un gan berson go iawn," meddai.

I ddechrau, dywedodd yr heddlu wrthi na ellid gwneud dim, ond ar ôl i Sasha-Jay bostio'n ddiweddar am ei phrofiadau ar Facebook, rhoddwyd rhif digwyddiad iddi, ac maen nhw nawr yn ymchwilio.

Mae'n teimlo'n ofnus, pryderus ac yn cywilyddio, meddai.

"Ar y dechrau doedd e ddim rili yn cael effaith arnaf ond doedd e ddim mor fawr ag y mae nawr. Mae'r cyfrif hwn wedi cymryd drosodd fy mywyd cyfan," ychwanegodd Sasha-Jay.

"Mae pawb yn meddwl mai fi yw'r Sophie yma - alla i ddim bod yn fi fy hun."

Swyno trwy dwyll a'r gyfraith

Yn ôl Hayley Laskey o Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel, dolen allanol, mae dynwared a swyno trwy dwyll yn broblem sylweddol.

Roedd tua 5% o'r achosion a adroddwyd i linell gymorth y ganolfan yn 2024 a 2025 yn ymwneud â chyfrifon ffug.

Dywedodd Ms Laskey nad yw swyno trwy dwyll bob amser yn anghyfreithlon yn y DU, ond gall ymddygiad cysylltiedig dorri cyfreithiau fel y Ddeddf Twyll 2006 - er enghraifft, os yw rhywun yn defnyddio hunaniaeth ffug i gael arian neu roddion, neu'n achosi niwed i enw da rhywun neu niwed ariannol.

Yn yr un modd, gall dynwared rhywun arall ar-lein hefyd fod yn anghyfreithlon os yw'n achosi niwed neu golled ariannol.

O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, mae rhaid i lwyfannau weithredu os yw dynwared yn arwain at gynnwys anghyfreithlon fel bygythiadau neu dwyll.

Cyngor Ms Laskey yw dweud wrth blatfformau digidol yn gyntaf ac aros tua 48 awr cyn cyfeirio'r gŵyn at linell gymorth y ganolfan.

Ond dywedodd mai'r hyn sy'n allweddol yw "atal ac addysg" - gan gynnwys cyfyngu ar wybodaeth bersonol ar-lein, defnyddio cyfrineiriau cryf a dilysu dau ffactor, a bod yn ofalus cyn anfon arian neu luniau personol.

Llun a dynnwyd o gefn Sasha-Jay yn ddangos hi'n edrych ar y brintiau A4.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r De bellach yn edrych ar achos Sasha-Jay

Dywedodd heddlu lleol Sasha-Jay: "Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos o ddwyn hunaniaeth yn ardal Aberpennar.

"Mae'r dioddefwr yn cael ei ddiweddaru yn ystod yr ymchwiliad."

Gwrthododd TikTok wneud sylwadau ar yr achos penodol ond yn ôl eu canllawiau mae'n gwahardd cyfrifon dynwared a sbam, yn ogystal â chynnwys sy'n "torri hawliau eiddo deallusol rhywun arall".

Ers i'r BBC gysylltu â TikTok ac Instagram mae'r cyfrifon ffug wedi'u dileu.

Yn y cyfamser, dywedodd Sasha-Jay bod hi'n rhannu ei stori yn gobeithio bydd hi'n cael atebion.

Mae hi hefyd eisiau i bobl fod yn mwy ofalus pan fyddant ar-lein.

"Roeddwn i bob amser yn meddwl, 'o, fydd e byth yn digwydd i mi', ac mae e wedi digwydd i mi nawr," meddai.

Dywedodd Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg llywodraeth y DU, dolen allanol fod angen i holl ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol amddiffyn defnyddwyr.

"Mae dynwared neu swyno trwy dwyll yn fath ofnadwy o gam-drin a all gael canlyniadau gofidus i ddioddefwyr ar-lein ac all-lein," meddai llefarydd.

"O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein mae angen i bob gwasanaeth, gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, amddiffyn defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon ac ymddygiad troseddol, gan gynnwys troseddau cyfathrebu ffug."