Dathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg yn y Rhondda ond 'mwy i'w wneud'

Disgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Ynys-wenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Ynyswen

GanGarry Owen
Gohebydd arbennnig Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy noson i ddathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg yn y Rhondda mae ymgyrchydd amlwg dros addysg Gymraeg yn y cwm yn dweud bod angen edrych i'r dyfodol a bod gwaith i'w wneud eto.

Dywedodd Cennard Davies bod yn "rhaid i ni gadw ein traed ar y ddaear a sylweddoli taw lleiafrif yw plant yr ardal sy'n cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a dylai hynny fod yn symbyliad i ni wella'r sefyllfa".

Ar ddechrau'r 1950au dwy ysgol Gymraeg oedd yn y Rhondda, Pont-y-gwaith (Llwyncelyn) ac Ynyswen.

Bu llwyddiant yr ysgolion yn sbardun i sefydlu ysgolion meithrin a Chymraeg drwy'r ardal gyfan.

Cennard Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cennard Davies yn credu bod angen gwneud mwy i wella'r niferoedd sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal

Mae'r plant yn mynd i ysgol Ynyswen o Dreorci a phentrefi ym mhen uchaf Cwm Rhondda.

Nifer fach o'r disgyblion sy'n dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf neu lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg.

Maisie a Charlie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maisie a Charlie yn teimlo cysylltiad â'r Gymraeg ac yn credu bod addysg Gymraeg yn bwysig iawn

Dywedodd Charlie, sy'n mynd i'r ysgol, ei fod yn siarad Cymraeg gyda'i fam a'i chwaer, ac yn hapus iawn wrth glywed y Gymraeg yn y pentref weithiau.

"Pan byddai yn clywed un neu ddau o bobol yn siarad Cymraeg fi wedyn yn dweud wrthyn nhw - 'Helo, da iawn chi yn siarad Cymraeg'," meddai.

Mae Maisie'n dweud ei bod yn teimlo'n "prowd a falch bod yr ysgol yn dal i fynd achos roedd tad-cu fi yma yn 1976 a fi yn hapus bo' fi fan hyn lle roedd e a bo' fi'n gallu siarad Cymraeg".

"Dyw mam ddim yn siarad Cymraeg," eglurodd, "felly fi a Dad yn trio dysgu hi. Ni yn trio ein gorau."

Loti ac Elis
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Loti fod yn athrawes rhyw ddydd a dychwelyd i Ysgol Ynyswen tra bod Elis yn mwynhau helpu ei dad i ddysgu Cymraeg

Mae plant Ynyswen yn dysgu am eu gorffennol a stori'r ysgol ar hyn o bryd, ac mae gan nifer o'r disgyblion gysylltiad teuluol â'r ysgol.

Mae Elis hefyd yn mynd i'r ysgol ac yn dod o gartref ble dim ond un rhiant sy'n siarad Cymraeg.

Esboniodd bod ei dad "yn trio ar bethe fel Duolingo, a mae fe yn helpu fe i glywed fi a mam a fy chwaer yn siarad Cymraeg yn tŷ".

"Dwi mor falch bo' fi yn siarad Cymraeg achos bo fi yn byw yng Nghymru," ychwanegodd.

Dywedodd Loti Gwen bod ei mamgu a'i mam wedi mynd i Ysgol Gymraeg a bod hi nawr yn "cario 'mlan â hanes teulu ni sef Cymraeg, Cymraeg, Cymraeg".

"Bydde ni yn hoffi bod yn athrawes a dod yn ôl i Ynyswen i ddysgu," meddai.

Cerian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerian Roberts mai'r her nawr yw "ysbrydoli'r plant i fagu eu plant nhw trwy gyfrwng y Gymraeg"

Dywed pennaeth ysgol Ynyswen, Cerian Roberts, fod yr ysgol wedi tyfu ers y cychwyn cynnar: "Mae yna ystod o blant gyda ni - pob un yn ffantastig ond y mwyafrif llethol o deuluoedd Saesneg.

"Mae llawer o gyn-ddisgyblion yn anfon plant yma, ond efallai bod nifer ohonyn nhw wedi colli hyder yn yr iaith."

Ychwanegodd mai'r her iddyn nhw nawr "yw newid y cylch yna ac ysbrydoli'r plant i fagu eu plant nhw trwy gyfrwng y Gymraeg ac i dyfu fel'na wedyn".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig