'Creu mannau diogel ar-lein, nid gwahardd plant sydd ei angen i atal cam-drin'

plantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae twf amlwg wedi bod mewn camdriniaeth ar-lein, medd adroddiad diweddar

GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dydi hi "ddim yn glir eto" a fyddai gwahardd plant rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn help wrth daclo cam-drin pobl ifanc, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dawn Bowden fod angen gweithio gyda chwmnïau digidol i ddarparu "gofodau diogelwch" ar-lein, ac y dylid ystyried gwaharddiad dim ond os nad oedd modd sicrhau hynny.

Daw hynny wrth i'r llywodraeth lansio strategaeth hir dymor i daclo cam-drin plant yn rhywiol, gyda "blaenoriaeth" yn cael ei roi i ymyrryd cyn bod dioddefwyr posib yn cael eu niweidio.

Fe wnaeth adroddiad diweddar amcangyfrif bod tua 25,000 o blant yng Nghymru yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob blwyddyn, gyda thwf amlwg mewn camdriniaeth ar-lein.

Siarad gyda dioddefwyr

Wrth lansio'r strategaeth ddeng mlynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma oedd y cynllun hir dymor cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r cynigion yn cynnwys annog oedolion sydd wedi profi camdriniaeth rhyw i rannu eu stori, a gwneud mynediad at gymorth ac adnoddau yn haws i bobl sy'n gweithio gyda phlant.

Bydd amcanion eraill yn cynnwys atal camdriniaeth drwy godi ymwybyddiaeth ac addysg i blant, a sefydlu grwpiau cynghori i blant a phobl ifanc, yn ogystal ag oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr.

Bydd gan y strategaeth, gafodd ei ffurfio ar y cyd â sefydliadau fel yr NSPCC, y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, Barnardo's, a Sefydliad Lucy Faithfull, hefyd gynllun cyhoeddi tair blynedd.

"Y bwriad yw siarad gyda dioddefwyr-oroeswyr a gwrando arnyn nhw am beth sydd ei angen," meddai Ms Bowden, y gweinidog plant a gofal cymdeithasol.

"Un o'r pethau ddywedon nhw oedd bod angen strategaeth hir dymor.

"Mae pwy bynnag sy'n dod i gysylltiad â phlant angen deall a bod ymwybodol o beth yw'r arwyddion [o gamdriniaeth], a'r peth mwyaf allwn ni ei wneud o ran atal hynny yw gweld beth sy'n digwydd yn gynnar."

Ychwanegodd Ms Bowden fod y llywodraeth "mewn trafodaethau" gyda'u cyd-aelodau Llafur yn San Steffan, sydd ar hyn o bryd yn ymgynghori ar wahardd plant dan-16 rhag defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

Ond er eu bod nhw'n cefnogi "elfennau" o fesur arfaethedig Llywodraeth y DU, dywedodd Ms Bowden nad oedd hi'n glir eto a fyddai gwaharddiad yn effeithiol wrth fynd i'r afael â cham-drin plant.

"Mae'n fwy o gwestiwn o weithio gydag awdurdodau rheoleiddio er mwyn sicrhau fod gennym ni ofodau diogel," meddai.

"Os na allwn ni fod yn sicr y gallwn ni sicrhau'r gofodau hynny, wedyn dwi'n meddwl bod trafodaeth i'w chael ynglŷn ag ai gwaharddiad yw'r unig ffordd o gadw plant yn saff.

"Ond dwi'n meddwl bod honna'n drafodaeth sy'n parhau, a dyw hi ddim yn glir eto ai dyna'r ffordd orau ymlaen."

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru ar gangiau sy'n cam-drin plant (grooming gangs), gan y bydd hynny'n cael ei ystyried fel rhan o ymchwiliad Prydain gyfan.

Dywedodd Ms Bowden ei bod hi'n "gyfforddus" â hynny, gan ychwanegu: "Dylen ni wastad gofio bod y mwyafrif helaeth o gam-drin rhywiol yn digwydd yn y cartref, a chyda phobl mae'r plentyn yn eu hadnabod.

"Felly mae'n rhaid i ni gael perspectif ar hyn, ac mae'r strategaeth yn ceisio gwneud hynny wrth ddweud bod angen edrych ar bob agwedd o gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys gangiau sy'n cam-drin."

Ymateb y pleidiau

Wrth ymateb i gyhoeddiad y strategaeth, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid "croesawu" ymdrechion i daclo cam-drin plant yn rhywiol, ond y byddai eu maniffesto nhw yn ymrwymo i ymchwiliad penodol i Gymru ar gangiau cam-drin, a mwy o arian i wasanaethau dioddefwyr.

Dywedodd Reform UK y bydden nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad i gangiau cam-drin, fyddai'n ystyried "dimensiwn crefyddol, diwylliannol ac ethnig eu troseddau".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu'r strategaeth, ond ychwanegu bod angen yr "adnoddau, y gwasanaethau arbenigol a'r hyfforddiant i sicrhau ei bod yn gweithio'n ymarferol", gan alw am ariannu'r cynllun yn iawn i ddiogelu plant a chefnogi goroeswyr.

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.