Melin Tregwynt: 'Gwneud popeth ni'n gallu i sicrhau bod gwehyddu yn parhau'

Cyfarwyddwr Melin Tregwynt Louise Clarke Ffynhonnell y llun, Melin Tregwynt
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarwyddwr Melin Tregwynt Louise Clarke

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cydweithio gyda dylunydd ffasiwn sy' wedi creu dillad ar gyfer y sêr pop Rihanna a Harry Styles wedi helpu Melin Tregwynt i gyrraedd cynulleidfa newydd.

Wrth i'r felin wlân greu blanced newydd gyda'r dylunydd o Iwerddon, JW Anderson, bu cyfarwyddwr Melin Tregwynt, Louise Clarke, yn trafod pam fod gwehyddu mor bwysig i dreftadaeth Cymru:

Meddai Louise, sy'n dod o Sir Benfro ac sy' wedi gweithio i'r felin ger Abergwaun ers 13 o flynyddoedd: "Mae gwehyddu yng Nghymru yn rhan o'n treftadaeth ac oherwydd bod cyn lleied o felinau Cymreig yn dal i weithredu heddiw, mae mor bwysig ein bod yn gwneud popeth ni'n gallu i sicrhau bod gwehyddu yn parhau.

"A mwy na hynny - ei fod yn cael ei ddathlu a'i rannu, a'n bod yn diogelu'r talent sydd yma er mwyn ysbrydoli'r cenedlaethau nesaf o grefftwyr.

"Mae gweithio gyda brand fel JW Anderson wedi gwneud i ni sylweddoli ein bod ni'n fwy adnabyddus nag oedden ni'n meddwl, ac mae wedi agor cyfleoedd newydd i gydweithio â brandiau eraill."

Blanced yn cael ei greu gyda'r un technegau traddodiadol sydd wedi'u defnyddio yn y felin ers 1912Ffynhonnell y llun, Melin Tregwynt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melin Tregwynt yn ddefnyddio'r un technegau traddodiadol sydd wedi'u defnyddio yn y felin ers 1912 - dyma flanced JW Anderson yn cael ei greu

Adfywiad

Melin Tregwynt yw un o'r ychydig felinau gwlân sy'n dal i weithredu yng Nghymru ac roedd creu blanced JW Anderson, sy' wedi'i chreu o wlân Cambria, yn rhan o ymdrech i adfywio y diwydiant gwlân yma.

Meddai Louise: "Roedd gwlân Cymru arfer fod yn greiddiol i economi'r wlad, ond o'r 1980au ymlaen dechreuodd y gadwyn gyflenwi dorri wrth i fwy o ffibr ac edafedd gael eu cynhyrchu dramor.

"Wrth i gwsmeriaid chwilio am fwy o ddewis ar gyfer dillad a thecstilau cartref, dechreuodd y galw am wlân o Gymru ddisgyn."

Y broses gwehyddu dwbl ar waith gyda blanced JW AndersonFfynhonnell y llun, Melin Tregwynt
Disgrifiad o’r llun,

Y broses gwehyddu dwbl Cymreig ar waith gyda blanced JW Anderson

Mae melin wedi bod ar safle Melin Tregwynt ers yr 17eg ganrif pan fyddai ffermwyr lleol yn dod â'u cnuoedd (fleeces) i'w troelli'n edafedd ac i'w gwehyddu'n flancedi gwlân Cymreig cadarn.

Cofnodwyd bod gwehyddu yn y felin yn y cyfrifiad yn 1841, ac mae'r felin wedi bod ar waith yn ddi-dor ers hynny.

Sefydlwyd Melin Tregwynt ar ôl i Henry Griffiths brynu'r felin mewn ocsiwn yn Abergwaun yn 1912, ac arhosodd yn fusnes teuluol am dair cenhedlaeth tan 2022 pan benderfynodd Eifion Griffiths a'i wraig Amanda Griffiths droi'r cwmni'n Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr, gan sicrhau bod gan bob gweithiwr gyfran yn y busnes.

Taid Eifion Griffiths oedd Henry Griffiths a dywedodd ar y pryd mai eu gweithwyr oedd y "bobl iawn" i gynnal y busnes.

Dyluniad JW AndersonFfynhonnell y llun, Melin Tregwynt
Disgrifiad o’r llun,

Cam olaf gwehyddu blanced JW Anderson, sy' hefyd yn dylunio dillad i Uniqlo ac a enillodd wobr Dylunydd Ffasiwn y Flwyddyn yn 2025

Yn 2021 wrth i werth gwlân Cymru fynd yn is ac yn is, dechreuodd y fenter gymdeithasol Menter Môn y prosiect Gwnaed â Gwlân, gan ddod â phobl o bob rhan o Gymru at ei gilydd i geisio newid y sefyllfa.

Nod y prosiect oedd rhoi bywyd newydd i'r diwydiant gwlân Cymreig ac i ailadeiladu cadwyn gyflenwi fasnachol ar gyfer gwlân Cymru.

Gwaith yn y felinFfynhonnell y llun, Melin Tregwynt

Meddai Louise: "Rydyn ni'n ymwybodol bod perygl i'r grefft a'r sgiliau sydd eu hangen i greu ffabrigau gwehyddu dwbl Cymreig i ddiflannu - mae'n grefft sydd bellach ar y rhestr goch o grefftau mewn perygl.

"Rydyn ni'n bwriadu gweithio gyda'r melinau gwlân Cymreig sy'n dal ar ôl i helpu diogelu a chadw'r grefft hon ar gyfer y dyfodol."

Melin TregwyntFfynhonnell y llun, Melin Tregwynt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melin Tregwynt wedi arbenigo mewn gwehyddu dwbl Cymreig ers degawdau

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.