Lluniau: adfeilion melin wlân ar ocsiwn am £450,000

- Cyhoeddwyd
Hoffech chi brynu darn o hanes? Mae perchnogion melin wlân hanesyddol yn ceisio ei gwerthu am swm o £450,000.
Roedd Melin Wlân Leri yn Nhal-y-bont, Ceredigion yn weithredol o ddechrau'r 19eg ganrif hyd ddechrau'r 1980au. Roedd wrth galon diwydiant lleol ar y pryd a oedd yn creu brethyn, carthenni a rygiau wedi'u gwehyddu â llaw.
Mae'r felin, sydd bellach yn adfail, yn eistedd ar lan yr afon Leri gydag adeiladau amrywiol dros tua saith acer o dir. Ar y tir hwnnw, yn ôl yr arwerthwr mae tri bwythyn a phum melin.
Roedd y felin yn defnyddio dŵr o'r afon i bweru'r peiriannau a oedd yn cael eu galw yn "devils" a "mules" i greu'r gwlân a oedd wedyn yn cael ei wehyddu â llaw i greu'r brethyn.

Billy Morgan, rheolwr y felin, gyda dyn anhysbys yn y 1930au


Un o amryw adeiladau'r safle yn 2014

Tu mewn i un o'r hen felinau


Bythynnod y gwehyddwyr
Yn wreiddiol roedd pum bwthyn un ystafell ar gyfer gwehyddywr ar y safle, ond fe'u hadnewyddwyd yn dri bwthyn mwy o faint rhywbryd yn y 60au.

Tu mewn i un o'r bythynnod




Hefyd o ddiddordeb
Oedd ysbyty yn Ysbyty Ifan?
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cofio Leno Conti a'i hufen iâ 'arallfydol' yn nhref Llanbed
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Safle pwysig yn hanes theatr Cymraeg ar werth
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.