Mewn cariad a byw gyda Syndrom Down

Michael ac Alison ar y llawr dawnsio
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dawns ramantus Alison a Michael ar y gyfres Y Cyfweliad ar S4C godi deigryn i lygad y gyflwynwraig Elin Fflur, yr holwyr eraill a'r gwylwyr gartref.
Yn y gyfres bu criw o holwyr chwilfrydig awtistig, niwrowahanol a phobl sydd ag anghenion dysgu, gan gynnwys Alison a Michael, yn cyfweld â rhai o sêr Cymru am bob math o bynciau.
Fis Gorffennaf eleni bydd Alison a Michael, y ddau'n byw gyda Syndrom Down, yn dathlu 20 mlynedd o fod yn gariadon.
Â'u dawns dyner a'u cwestiynau deifiol wedi cyffwrdd a herio gwylwyr Y Cyfweliad, dyma gyfle i ddod i adnabod Alison a Michael yn well.
Cariad a chefnogaeth
Mae Alison yn 42 ac yn byw yn Llanfairpwll gyda'i rhieni tra bod Michael yn 38 ac yn byw yng Nghaergybi.
Daeth y ddau i adnabod ei gilydd gyntaf mewn gemau pêl-droed a drefnwyd gan elusen Mencap ar nosweithiau Llun.
"Dwi'n cefnogi Manchester United ac mae Alison yn cefnogi Lerpwl. Roedden ni'n ffrindiau i ddechrau," eglurai Michael.
Yna roeddent yn cyfarfod mewn clwb chwaraeon ar yr ynys yn wythnosol ac roedden nhw'n ffrindiau am hir cyn i gariad flodeuo.
Ac mewn disgo mewn gŵyl chwaraeon yn Abertawe, fe wisgodd Alison fel Sandy o'r ffilm Grease, a Michael fel Danny Zuko. Dyna pryd y daeth y ddau i sylwi bod mwy na chyfeillgarwch i'w perthynas.
"Roedd yn rhamantus iawn," meddai Alison.
O hynny fe ddechreuodd y ddau ddêtio.
"Nath Mike brynu blodau, Freddo, sweets a gwin i fi. Wnes i brynu cwrw iddo fo," chwarddai Alison.

Alison a Michael yn dawnsio ar Y Cyfweliad
Ac i'w mamau, Dot ac Ann, a wyliodd y ddau'n cerdded o'u blaenau o'r disgo law yn llaw 20 mlynedd yn ôl, "roedd yn brofiad emosiynol", ond mae'r ddau hefyd yn gytûn na fyddai eu perthynas wedi parhau am 20 mlynedd oni bai am eu cefnogaeth nhw fel rhieni.
Eglurai Dot, mam Michael: "Fe ddigwyddodd yn naturiol iddyn nhw. Ond fel pob agwedd arall o fywyd Michael ac Alison, maen nhw angen cefnogaeth.
"I bobl sy'n byw gyda Syndrom Down, fyddai perthynas ddim yn datblygu heb gefnogaeth teuluoedd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Ann a finnau wedi galluogi i Michael ac Alison weld ei gilydd bron bob diwrnod.
"Byddai'r berthynas heb barhau heb ein bod ni wedi bod yn dacsi, bwcio gweithgareddau, a bod o gwmpas iddyn nhw."
Ac mae Ann, mam Alison yn cytuno.
Meddai: "Mae gan bobl ag anableddau dysgu'r un hawl i berthynas gariadus â phawb arall.
"Pan ddatblygodd perthynas Michael ac Alison, roeddwn i a Dot yn cael sgyrsiau agored iawn. Roedd yr holl beth yn newydd i ni hefyd, ac fe ges i ac Alison sgyrsiau agored am gyferiaid y berthynas."

Michael ac Alison
Yr hawl i garu
Mae Alison a Michael yn byw gyda'u teuluoedd, ond maen nhw'n aros yng nghartrefi ei gilydd yn rheolaidd ac yn mwynhau nosweithiau mewn gwestai.
Eglurai Ann: "Mae Alison a Michael yn mwynhau sbês ac amser efo'i gilydd. Dyna'r gyfrinach i berthynas hirdymor dwi'n amau."
Ond yn ôl Dot ac Ann mae pobl sy'n byw gyda Syndrom Down yn profi stigma yn eu perthnasau rhamantus.
"Rydan ni wedi cael pobl yn holi os ydy o'n iawn fod Michael ac Alison mewn perthynas ac yn rhannu ystafell. Rydan ni hefyd wedi cael pobl yn gofyn os ydyn nhw'n cael pleidleisio," eglurai Dot.
Ychwanegodd Ann: "Faswn i byth yn dychmygu gofyn i rywun beth maen nhw'n ei wneud yn yr ystafell wely. Mae agweddau rhai pobl yn ddychrynllyd. Yn sicr mae yna stigma a rhagfarn."
Mewn arolwg diweddar gan Mencap Cymru sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu daeth i'r amlwg bod 78% o'r rhai wnaeth ymateb wedi dweud nad oedden nhw mewn perthynas ramantus.
Mae hynny'n cymharu â thua 35% yn y boblogaeth yn ehangach.
Yn ôl yr elusen, mae angen cefnogaeth ar bobl ag anableddau dysgu i gychwyn a chynnal perthynas, yn union fel agweddau eraill o'u bywydau.
Cael perthynas yn gallu bod yn heriol i rai ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2025
Mae Ann yn falch nad yw ei merch, Alison, yn derbyn cwestiynau personol a busneslyd yn uniongyrchol.
"Mae fy ffrindiau i yn hapus bod gen i gariad," meddai Alison.

Gwyliau ym Miwmaris
Dau sy'n caru dawnsio
Yn ddiweddar mae Michael ac Alison wedi mwynhau gwyliau mewn gwesty ym Miwmaris, a thrip i stiwdios Harry Potter yn Llundain.
O nofio, i actio, i dynnu lluniau a gwylio ffilmiau mae'r ddau'n mwynhau llawer o weithgareddau yng nghwmni ei gilydd ac fel welodd gwylwyr Y Cyfweliad, mae'r ddau'n hoff iawn o ddawnsio gyda'i gilydd.
"Dwi'n licio gwisgo ffrog sbarcli a dawnsio i ABBA," meddai Alison.
Ychwanegodd Michael: "Dwi'n hoffi dawnsio gydag Alison i I Gotta Feeling gan Black Eyed Peas."

Alison a Michael yn dawnsio
 chyfres arall o Y Cyfweliad ar y gweill, mae Dot ac Ann yn gobeithio bod cael Michael ac Alison fel holwyr yn rhoi llais i'w carwriaeth a'u hawl i gael perthynas.
Ac wrth drafod y gyfres nesaf o Y Cyfweliad, mae Alison a Michael yn ceisio dyfalu pa enwogion fydd dan y lach gan yr holwyr.
"Faswn i'n licio holi Joanne Page sy'n chwarae Stacey yn Gavin & Stacey," meddai Alison.
Ychwanegodd Michael: "Dwi isio holi Nessa o Gavin & Stacey neu'r Prif Weinidog."
Er eu bod nhw'n anghytuno ar bwy i holi, mae Alison a Michael yn holl gytûn ar garu ei gilydd.
"Dwi'n ei charu, mae hi'n fy ngwneud yn hapus," meddai Michael.
"Dwi'n licio bod Mike yn caru fi gymaint, a dwi'n caru Mike hefyd," ychwanegodd Alison.

Bydd Michael ac Alison yn dathlu 20 mlynedd o berthynas eleni
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
