Cael perthynas yn gallu bod yn heriol i rai ag anableddau dysgu

Dyn a menyw gydag anableddau dysgu yn eistedd tu allan ac yn edrych yn syth ymlaen. Mae'r dyn yn foel ac yn gwisgo cot ddu ac mae'r fenyw yn gwisgo sbectol a chot olau heb lewys. Mae ei gwallt hi wedi ei glymu i fyny ac mae'r ddau yn gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Becky Miller a Wayne Gresty gyfarfod bedair blynedd yn ôl mewn parti Nadolig

  • Cyhoeddwyd

I nifer o oedolion mae perthynas ramantus yn rhan annatod o fywyd ond i lawer o bobl sydd ag anableddau dysgu, gall fod yn heriol neu'n amhosib.

Mae beirniadaeth a diffyg cefnogaeth gymdeithasol yn golygu bod pobl yn cael eu heithrio o brofiadau rhamantus, yn ôl sefydliadau.

Bellach mae galwadau i wneud mwy i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i gychwyn a chynnal perthynas ramantus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i ddeall a chefnogi anghenion iechyd a gofal penodol pobl ag anableddau dysgu.

Mae Rebecca Joy Miller, 32, o Gaerwen wedi bod gyda'i chariad Wayne Gresty o Amlwch am bedair blynedd.

"Mae Wayne yn bwysig i fi achos 'dan ni'n cael ymlaen efo'n gilydd a da ni'n licio'n gilydd," meddai.

"Doeddwn ni heb ffeindio cariad ers talwm ond dwi wedi cael cariad – Wayne."

Maen nhw'n gweld ei gilydd tua dwywaith yr wythnos a dywedodd Becky ei bod yn hoffi chwarae gemau, gwneud crefftau, dawnsio a chwarae bingo.

Dyn yn gwisgo sbectol â barf fer yn edrych yn syth ymlaen. Mae ganddo got werdd ac mae'n sefyll mewn ystafell gyda phobl yn eistedd y tu ôl iddo. Mae balwns amryliw hefyd y tu cefn iddo.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Williams yn gefnogol i garwriaeth ei ferch Alison gyda Mike

Ers 20 mlynedd mae merch Richard Williams, Alison Williams, wedi bod mewn perthynas gyda, Michael Gallagher.

Mae gan y ddau o Ynys Môn syndrom Down ac mae eu teuluoedd yn eu helpu i gwrdd a'u cefnogi i dreulio penwythnosau i ffwrdd.

Yn ôl Richard Williams mae'r berthynas rhwng Alison a Mike yn "bwysig iawn".

"Odd y ddwy fam yn ffrindiau mawr, falle roedd hynny'n rhywbeth i wneud ag o'n y dechrau," meddai Richard.

"Yn aml iawn os ydyn nhw'n mynd i rywle 'da'r mamau, ma nhw'n aros yn stafell nhw eu hun - maen nhw mewn relationship iawn."

"Maen nhw'n dangos lot o ddiddordeb pan ma nhw efo'i gilydd," ychwanegodd.

Dyn a menyw gyda syndrom Down yn gwenu â'u pennau ynghyd. Mae'r ddau yn gwisgo hetiau Siôn Corn coch a gwyn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison a Mike yn mwynhau dawnsio, sioeau cerdd a 'hygs'

Mae Dot Gallagher, mam Michael, yn dweud eu bod nhw'n wynebu rhwystrau hefyd.

"Rydyn ni'n gweld pobl yn twt-twtian pan maen nhw'n dal dwylo neu'n cusanu yn gyhoeddus," meddai.

"Maen nhw'n dda iawn am beidio â bod yn rhy gariadus yn gyhoeddus oherwydd bod rhai yn pwyntio ac yn syllu," ychwanegodd Dot.

Gwraig gyda gwallt byr coch a sbectol yn edrych yn syth ymlaen ac yn gwenu. Mae ganddi glustdlysau a modrwy drwy ei thrwyn ar un ochr. Mae'n gwisgo siwmper borffor.Ffynhonnell y llun, Corrina Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Corrina Williams yn credu bod sgiliau cyfathrebu a chydsynio'n hanfodol

Mae Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw, yn darparu addysg ac hyfforddiant ym maes iechyd rhyw a pherthynas ac yn gweithio gydag unigolion gydag anableddau dysgu.

Mae nifer o brosiectau ar y gweill, meddai, i helpu bobl adeiladu sgiliau er mwyn cynnal perthynas iach.

"Dan ni'n aml yn 'neud pethe efo iechyd rhywiol, contraception, da ni bob tro yn siarad am gydsyniad.

"Ma lot o bobl heb gael lot o brofiadau – sut i fflyrtio, pa mor aml mae'n iawn i decstio neu ffonio rhywun, da ni'n 'neud lot ar sut i ymddwyn."

Mae Corrina hefyd yn dweud fod pobl weithiau'n synnu gweld pobl ag anableddau dysgu mewn perthynas ramantus.

"Dwi'n meddwl fod bobl yn shocked bod o ar yr agenda ond yn amlwg 'dan ni gyd yn mynd trwy puberty, mae'r hormones i gyd yna, mae'n beth hollol naturiol yn dydy?" meddai.

Dyn ifanc gyda gwallt cyrliog â chrys golau yn edrych i'r camera. Mae coeden Nadolig i weld yn y pellter tu ôl iddo.
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Siôn Jones o Mencap Cymru yw'r diffyg gwasanaethau a thrafnidiaeth

Mewn arolwg diweddar gan Mencap Cymru daeth i'r amlwg bod 78% o'r rhai wnaeth ymateb wedi dweud nad oedden nhw mewn perthynas ramantus.

Mae hynny'n cymharu â thua 35% yn y boblogaeth yn ehangach.

Yn ôl yr elusen, mae angen cefnogaeth ar bobl ag anableddau dysgu i gychwyn a chynnal perthynas, yn union fel agweddau eraill o'u bywydau.

Profiadau byw yn 'llunio polisi'

Dywedodd Siôn Jones o Mencap Cymru ei bod hi'n gallu bod yn heriol i bobl ag anableddau dysgu gyfarfod ag eraill yn y gymuned.

"Ers y pandemig, mae gwasanaethau dydd ac argaeledd gwasanaethau dydd i bobl ag anabledd dysgu wedi lleihau a beth ma' hyn yn golygu yw bod llai o oriau, llai o gyfleodd i bobl gwrdd â'i gilydd i wneud ffrindiau a wedyn ffeindio partneriaid rhamantus," meddai.

Ychwanegodd hefyd bod heriau'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn clywed trwy ei Grŵp Cynghori Gweinidogol, yn uniongyrchol, gan ofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu er mwyn "sicrhau bod profiadau byw yn llunio ein polisi a'n datblygiad strategaeth".

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol