Jake Thackray: Y canwr o Sir Efrog â'i galon yng Nghymru

Jake Thackray yn chwarae'r gitar
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Os oeddech chi'n gwylio'r teledu yn y 70au mae'n bosib y byddwch yn cofio gŵr o'r enw Jake Thackray.

Gyda golwg ddifrifol ar ei wyneb a gitâr acwstig yn uchel wrth ei frest, roedd Thackray yn diddanu gwylwyr rhaglenni fel That's Life a'r David Frost Show gyda'i ganeuon ffraeth a doniol wedi eu dylanwadu gan chansons Ffrengig artistiaid fel Georges Brassens a Jacques Brel.

Roedd Thackray'n nodweddiadol hefyd am ei acen Sir Efrog gref, ag yntau'n dod o Kirkstall ger Leeds - ond wyddwch chi fod gan Gymru le arbennig yn ei galon hefyd?

O Ddolgellau i Ddyffryn Gwy

I nifer, Jake Thackray yw'r 'quintessential Yorkshireman'. Ac eto, dechreuodd ei gysylltiad â Chymru ymhell cyn iddo ddod yn enw cyfarwydd.

Pan oedd yn ŵr ifanc, fe gafodd ei addysgu mewn coleg diwynyddol Catholig ger Dolgellau. Yma, yng nghanol harddwch gogledd Cymru, fe wnaeth Thackray ystyried hyfforddi i fod yn offeiriad.

Fe newidiodd ei feddwl a mynd i Brifysgol Durham i astudio Saesneg.

Ar ôl graddio fe dreuliodd dair blynedd dramor yn dysgu Saesneg, yn bennaf yn Ffrainc ond hefyd am chwe mis yn Algeria yn ystod y rhyfel dros annibyniaeth.

Yn y cyfnod yma fe ddisgynnodd mewn cariad gyda cherddoriaeth chanson Ffrengig tra fod gweddill ei genhedlaeth yn cael eu hudo gan synau rock & roll oedd yn dod ar draws Môr yr Iwerydd.

Ar ôl dychwelyd o Ffrainc gyda'i gitâr a llond llaw o ganeuon wedi eu hysbrydoli gan y chansonniers, fe gychwynodd chwarae cyngherddau ar draws Prydain. Daeth i amlygrwydd pan, ar ôl cael ei ddarganfod gan y BBC, fe ddechreuodd ymddangos ar raglenni fel Braden's Week a Nationwide.

Disgrifiad,

Jake Thackray yn perfformio un o'i ganeuon enwocaf Lah-Di-Dah ar raglen Braden's Week ar y BBC yn 1971

Yn y pendraw fe gafodd gyfres ei hun ar y BBC, diolch i'w ganeuon a'i bersonoliaeth unigryw.

Ar ôl rhyddhau ei record gyntaf o nifer, The Last Will and Testament of Jake Thackray, fe symudodd i fyw i Drefynwy, Sir Fynwy, sydd tua dwy filltir o'r ffin gyda Lloegr.

Yn ôl Paul Thompson, awdur y llyfr Beware of the Bull: The enigmatic genius of Jake Thackray": "Mi syrthiodd mewn cariad gyda Chymru, ond roedd llawer o hynny i wneud efo preifatrwydd.

"Doedd o ddim yn hoffi'r sylw sy'n dod gydag enwogrwydd. Roedd 'na rywbeth gwirioneddol ddiymhongar amdano."

Pinacl gyrfa yng Nghaerdydd

Mi wireddodd Thackray freuddwyd un noson yn 1973 pan berfformiodd yn agoriad swyddogol Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â'i arwr cerddorol, y seren Ffrengig Georges Brassens. Dyma'r unig dro i Brassens erioed berfformio yn y Deyrnas Unedig.

Mi ddywedodd Thackray, a oedd wedi modelu ei gyfansoddiadau dychanol ar yr arddull chansonnier Ffrengig, mai hyn, heb os, oedd uchafbwynt ei yrfa. Roedd rhannu llwyfan gyda'i arwr yng Nghaerdydd yn golygu mwy iddo nag unrhyw un o'i ymddangosiadau ar y teledu.

Jake Thackray gyda'i arwr George Brassens yn 1973Ffynhonnell y llun, Carol a Colin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Jake Thackray gyda'i arwr George Brassens yn 1973

Arwr Lleol

Fe ymgartrefodd yn Nhrefynwy am weddill ei fywyd. Roedd awyrgylch hamddenol y dref yn gweddu ei bersonoliaeth i'r dim, i ffwrdd o'r sylw a'r bwrlwm yn Llundain.

Fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd yn y dref.

Paul Thompson: "Roedd yna hoffter mawr tuag ato yn Nhrefynwy. Fe daflodd ei hun i ganol bywyd cymunedol y dref. Roedd yn chwarae criced i'r tîm lleol, ac yn gyfrifol am edrych ar ôl y cae. Roedd yn mynychu eglwys Gatholig yn y dref, a fo fyddai'n canu cloch yr angel deirgwaith y dydd."

Er ei fod wedi ymddeol o berfformio erbyn yr 1990au, fe gafodd pobl Trefynwy berfformiad chwedlonol ac annisgwyl yn neuadd y sir yn ystod Gŵyl Trefynwy pan gafodd Thackray ei weld yn y gynulleidfa a'i berswadio i fynd i'r llwyfan i chwarae set byrfyfyr. Roedd pawb yn y dorf yn bloeddio am fwy ar y diwedd.

John Watterson gyda Tom, mab Jake Thackray, a phenddelw ei dad.Ffynhonnell y llun, Abergavenny Chronicle
Disgrifiad o’r llun,

John Watterson gyda Tom, mab Jake Thackray, a phenddelw ei dad

Yn niwedd y 1990au fe aeth i stiwdio Rockfield yn Nhrefynwy i recordio cân efo'i ffrind, fel rhodd i'w nith.

Bu farw Jake Thackray ar noswyl Nadolig 2002, gan adael ei wraig gweddw Sheila a'i feibion Bill, Sam a Tom.

Ymhlith ei ffans mae'r actores a chomedïwraig Isy Suttie, a'r gantores a chyflwynydd radio Cerys Matthews - y ddwy ohonynt wedi cynhyrchu rhaglenni dogfen i'r radio am y dyn.

Yn 2019 cafodd penddelw ohono ei gyflwyno i Theatr y Savoy yn Nhrefynwy, gyda'i fab Tom yno'n gwylio.

Meddai Paul Thompson: "Er nad yw'n cael y cydnabyddiaeth mae'n ei haeddu, dwi wir yn credu fod Jake Thackray'n un o'n hartistiaid mwyaf athrylithgar a gwreiddiol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig