'Gwendidau a diffygion allweddol' mewn gwasanaethau mamolaeth - asesiad

Llaw mam yn cydio ym mysedd ei babi newydd-anedigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 600 o fenywod, teuluoedd a staff wedi rhannu eu profiadau fel rhan o'r asesiad cenedlaethol i wasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol

GanOwain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae yna "wendidau a diffygion allweddol" o fewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Cymru, yn ôl asesiad cenedlaethol o'r gwasanaethau hynny.

Fe glywodd yr asesiad fod "llawer o deuluoedd" wedi cael profiadau gwael, a bod pryderon penodol am ddiffyg gofal ar ôl geni a lefelau staffio anigonnol.

Er hynny mae'n dweud bod y mwyafrif o deuluoedd wedi cael profiadau cadarnhaol, a bod "ymrwymiad o'r newydd" i wella gwasanaethau.

Fe gafodd yr asesiad ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles fis Mai 2025, gyda'r nod o adolygu diogelwch ac ansawdd gwasanaethau yn dilyn cyfres o bryderon am ddiogelwch mamau a babanod mewn sawl man.

Wrth ymateb dywedodd Mr Miles y byddai rhaglen dair blynedd newydd yn cael ei gweithredu i wella gwasanaethau, yn cynnwys systemau i fonitro diogelwch mamau a babanod mewn "amser real".

Prif ganfyddiadau'r asesiad

Fe glywodd yr asesiad am brofiadau 600 o fenywod, teuluoedd a staff, gan ymweld â "bron pob uned mamolaeth a newydd-enedigol" yng Nghymru.

Mae'r "gwendidau a diffygion allweddol" sydd wedi eu nodi yn cynnwys:

  • "Llawer o deuluoedd yn sôn am brofiadau gwael" a "phryderon am gefnogaeth ôl-enedigol, cyfraniad tadau a methu diwallu anghenion iechyd meddwl".

  • Diffyg cydweithio gan y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu, comisiynu, monitro, dal i gyfrif a gwella gwasnaethau.

  • Lefelau staffio sy'n annigonol i fodloni anghenion y boblogaeth na'r "cynnydd cyflym mewn genedigaethau Cesaraidd a thriniaethau ysgogi'r esgor". Golyga hyn, meddai, fod "diogelwch a llesiant yn y fantol drwy gydol y daith mamolaeth" a fod hyn wedi "taro morâl staff yn galed".

  • "Anghysondebau o ran trefniadaeth a staffio prosesau brysbennu (triage) ac ysgogi'r esgor a phrinder darpariaeth theatr obstetrig", yn ogystal â dim digon o staff a chefnogaeth ôl-enedigol.

  • Gohirio gormodol yn y gwaith o ddadansoddi ac adrefnu gwasanaethau yn ne Cymru.

  • Pryder bod Cymru "ar ei hôl hi" o gymharu â'r Alban a Lloegr o ran darparu gofal iechyd meddwl mewn unedau i fabanod a mamau.

  • Mae'r broses o ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys marwolaethau ac anafiadau difrifol yn "anghyson ac or-weithdrefnol ac nid yw'n cynnwys teuluoedd fel mater o drefn", sy'n aml yn achosi "trawma pellach" iddyn nhw.

  • Mae "cynnydd digyffelyb yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU mewn ymyriadau meddygol, yn cynnwys gendigaethau Cesaraidd - heb werthuso'r canlyniadau i famau a theuloedd a'r effaith ar adnoddau'r gwasanaeth iechyd".

Er hynny mae'r asesiad yn nodi cryfderau hefyd yn cynnwys, "adborth cadarnhaol" gan nifer o deuluoedd am safon eu gofal, "ymrwymiad clir gan staff i ddarparu gofal o safon uchel" a "ffocws ac ymrwymiad newydd" ar lefel cenedlaethol i wella gwasanaethau a'u gwneud yn fwy cynnaladwy.

'Gobaith am gonsensws trawsbleidiol'

Cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yw cadeirydd panel goruchwylio'r asesiad.

Dywedodd: "Mae gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol rhagorol yn rhan annatod o'n hiechyd fel cymdeithas.

"Maent yn cael effeithiau gydol oes ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a pherthnasoedd teuluol.

"Nid yw'r un ohonom eisiau i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod unrhyw beth heblaw'r gorau y gallant fod.

"Mae gan Gymru'r arbenigedd, yr ymrwymiad a'r sylfeini sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i bob teulu, ym mhob cymuned.

"Ond bydd hyn yn gofyn am ewyllys ar y cyd, buddsoddi hirdymor ac atebolrwydd clir.

"Fy ngobaith i yw y byddwn yn gweld consensws trawsbleidiol ar roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gwasanaethau hyn, a'r gefnogaeth y mae menywod, rhieni, teuluoedd a babanod yn ei haeddu."

Noda'r adolygiad fod dros 500 o argymhellion wedi eu gwneud dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn sgil adolygiadau ac ymholiadau amrywiol i wasnaethau i famau a babanod.

Er mwyn peidio ychwanegu at y nifer hwnnw, mae'r panel wedi nodi wyth maes y maen nhw am flaenoriaethu gwelliannau:

  • Arweinyddiaeth cysylltiedig mamolaeth a newydd-enedigol yn genedlaethol

  • Cynnig cyffredinol o ofal o ansawdd uchel

  • Sylw brys i faterion diogelwch clinigol hollbwysig: blaenoriaethu a phrysuro'r geni

  • Digon o staff a'r mannau cywir i ofalu'n ddiogel

  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant

  • Cynllunio a chomisiynu gwell ar gyfer gofal newydd-enedigol

  • Dysgu amserol o broses adolygu digwyddiadau dryloyw sy'n canolbwyntio ar y teulu

  • Gwrando, deall a gwella drwy adborth go iawn.

'Hawl i ofal diogel'

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adolygiad - saith yn llawn ac un yn rhannol.

Yn ogystal mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi rhaglen dair blynedd i wella gwasanaethau, yn cynnwys sefydlu bwrdd goruchwylio strategol, system monitro diogelwch newydd fydd yn gweithio mewn "amser real" a fforwm cenedlaethol newydd i rannu arferion gorau.

Dywedodd Jeremy Miles: "Mae gan bob mam, pob baban a phob teulu yr hawl i gael gofal diogel, o ansawdd uchel.

"Rwyf am ddiolch i'r panel am eu gwaith ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r broses asesu.

"Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau ledled Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.

"Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG nawr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion i sicrhau bod gwelliannau parhaol yn cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol."

Ysbyty SingletonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae camau eisoes ar waith mewn ymateb i bryderon a gododd ynghylch safon gwasanaethau yn Ysbyty Singleton, Abertawe

Fe gafodd yr asesiad ei sefydlu ar ôl i bryderon sylweddol am safon gwasanaethau a diogelwch mamau a babanod newydd-anedig ddod i'r amlwg mewn sawl man, dros nifer o flynyddoedd.

Yng Ngorffennaf 2025 amlygodd adolygiad annibynnol "fethiannau niferus" a difrifol yn safon y gofal a gafodd mamau beichiog a babanod newydd-anedig yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Yn ôl yr ymchwiliad, cafodd rhai mamau brofiadau hynod o wael a thrawmatig gydag achosion o "drawma geni difrifol".

Fe gafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn dilyn cwynion gan deuluoedd a phryderon ynghylch marwolaethau rhwng 2018-2023.

Yn ystod y cyfnod hwnnw fe gafodd gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe eu canoli ar un safle yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Nododd yr adolygiad enghreifftiau o staff yn dangos diffyg tosturi ac ymateb yn wael i ddigwyddiadau lle digwyddodd niwed a methiant i wrando ar famau gyda nifer yn teimlo eu bod yn cael eu "hanwybyddu".

Yn dilyn hynny fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymddiheuro'n llwyr i unrhyw deulu na chafodd ofal o safon derbyniol.

Roedd yna gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru hefyd yn yr adolygiad, o ran cryfhau gwasanaethau i famau a babanod dros Gymru gyfan yn cynnwys newid systemau cwynion i wneud y broses yn fwy hyblyg a thosturiol a rhaglen newydd i gefnogi teuluoedd sydd wedi cael niwed.

Doctor yn sganio bol merch feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn 2019 cafodd gwasnaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu gosod dan fesurau arbennig ar ôl i "fethiannau difrifol" gael eu hamlygu.

Daeth ymchwiliad gan ddau Goleg Brenhinol i'r casgliad fod mamau wedi wynebu "profiadau trallodus a gofal gwael" yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful, gyda gwasanaethau mamolaeth yn cael eu hystyried yn "gamweithredol".

Yn ddiweddarach, fe ddaeth Panel Trosolwg Annibynnol o hyd i fethiannau difrifol mewn 21 o 63 o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful - rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018.

Mewn 37 achos arall, dywedodd yr adolygiad y gallai un neu'n rhagor o fân gamgymeriadau fod wedi digwydd, ac y gallai gwersi gael eu dysgu o 48 o achosion.

Dim ond mewn pedwar achos y daeth y panel i gasgliad na ddylai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud yn wahanol.

Pryderon tebyg yn Lloegr

Yn y cyfamser mae adolygiad cenedlaethol i safon gofal mamolaeth yn digwydd yn Lloegr, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Valerie Amos.

Mae disgwyl i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyheoddi yn fuan.

Ond yn Rhagfyr 2025 dywedodd y Farwnes Amos fod yr hyn yr oedd hi wedi'i ganfod eisioes "wedi bod yn llawer gwaeth" na'r hyn yr oedd hi wedi'i ddisgwyl.

Amlinelloedd enghreifftiau lle roedd rhai menywod wedi teimlo eu bod ar fai am farwolaeth eu babi, tra bod eraill wedi dioddef o ddiffyg cydymdeimlad, gofal neu ymddiheuriad pan oedd pethau wedi mynd o'i le.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.