Gwyliau dan warchae: Cymro yng nghanol gwrthdaro Mecsico

Purto VallartaFfynhonnell y llun, Bryan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Traeth yn agos i Puerto Vallarta yn nhalaith Jalisco

GanRhodri Tomos
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae gwyliau cwpwl o ardal Bangor ym Mecsico wedi troi'n brofiad anodd yn dilyn gwrthdaro sylweddol ar draws y wlad.

Dros y penwythnos fe gafodd pennaeth un o gangiau cyffuriau mwya'r wlad - Nemesio Oseguera Cervantes, oedd yn cael ei adnabod fel "El Mencho" - ei ladd wrth iddo gael ei arestio.

Wrth ymateb i hynny fe ddechreuodd ei gang - y Jalisco New Generation Cartel (CJNG) - ymosodiadau ar eiddo a'r fyddin ar draws y wlad, ond yn bennaf yn nhalaith Jalisco.

Yno ar wyliau ddim yn bell o ddinas Puerto Vallarta mae Bryan Griffiths a'i bartner.

Black Hawk helicopter above Puerto Vallarta on MondayFfynhonnell y llun, Bryan Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Hofrennydd y fyddin yn hedfan dros ddinas Puerto Vallarta ddydd Llun

"Fe gafon ni orchymyn i aros i fewn dydd Sul a dydd Llun," meddai Bryan wrth BBC Cymru Fyw.

"Roedd y siopau i gyd wedi cau a doedd dim byd ar y lonydd."

Yn ystod yr ymosodiadau fe gafodd lorïau a bysus eu cipio a'u rhoi ar dân ar y rhan fwyaf o'r priffyrdd yn y dalaith yn agos i'r prif ddinasoedd, ond hefyd yn nghanol ambell ddinas gan gynnwys Puerto Vallarta.

"Rydan ni'n aros ychydig allan o'r ddinas yn ardal Bucerias. Weles i ddim byd yn agos fy hun, ond roedden ni'n gweld mwg yn codi o sawl lle ac roedd hofrenyddion y fyddin yn hofran uwch ein pennau ni," ychwanegodd.

Puerto VallartaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd siopau a cherbydau eu llosgi'n ulw yn y gwrthdaro dros y penwythnos yn Puerto Vallarta

Fe gafodd yr holl hediadau o Faes Awyr Rhyngwladol Puerto Vallarta eu canslo ddydd Sul a dydd Llun.

Erbyn prynhawn dydd Mawrth roedd rhai cwmnïau wedi ailgychwyn hediadau, ond mae teithio oddi yno yn dal yn ansicr.

"Er na weles i ddim byd mawr yn y cnawd rydan ni'n teimlo'r broblem yn sicr," meddai Bryan. "Erbyn dydd Mawrth roedd rhai siopau bach lleol wedi ailagor, ond mae'n dal yn anodd.

"Mae'r newyddion yma ym Mecsico yn dweud y dylai pethau wella erbyn canol yr wythnos, ond mae'r fyddin yn dal o gwmpas ar y strydoedd."

Puerto VallartaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r heddlu a'r fyddin allan ar strydoedd Puerto Vallarta

Fe gafodd o leiaf 25 o heddlu neu filwyr Mecsico eu lladd yn ystod y gwrthdaro, ac fe lwyddodd tua'r un nifer o garcharorion ddianc o garchar yn nhalaith Jalisco wedi i'r gangiau dorri drwy'r giatiau.

Mae nifer o ddinasyddion Canada yn byw yn Puerto Vallarta, ac mae llywodraeth Canada wedi bod yn trefnu hediadau arbennig i'w cael nhw allan.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi cynghori dinasyddion y DU i beidio teithio i dalaith Jalisco, ac yn cynghori'r rhai sydd yno'n barod i beidio teithio o gwmpas yn fwy na sydd rhaid, ac i ddilyn cyfarwyddiadau yn lleol i fynd i lochesi arbennig.

Fe gafodd nifer o bobl aeth i'r maes awyr ddydd Llun eu cludo i lochesi gyda chymorth yr heddlu.

Puerto Vallarta AirportFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim hediadau allan o Faes Awyr Puerto Vallarta ddydd Sul na dydd Llun, ond mae rhai bellach wedi ailgychwyn

Yn ei chynhadledd newyddion dyddiol, dywedodd arlywydd Mecsico, Claudia Sheinbaum, fod y sefyllfa yn "normaleiddio" a bod y gwasanaethau diogelwch yn gweithio'n galed i warchod trigolion Mecsico ac ymwelwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol