Cyngor yn cytuno i ddechrau'r broses o droi ysgol yn un uniaith Gymraeg

Mae Ysgol Pontsenni eisoes wedi cael gwybod y bydd yn cael adeilad newydd gwerth £11m
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Powys wedi cytuno yn unfrydol i ddechrau'r broses statudol o droi ysgol gynradd ddwyieithog yn un cyfrwng Cymraeg.
Gallai hynny olygu y bydd Ysgol Pontsenni yn newid o fod yn ysgol â dwy ffrwd - Saesneg a Chymraeg - i Gymraeg yn unig.
Fe wnaeth y cyngor gadarnhau'r penderfyniad i BBC Cymru Fyw ddydd Mercher, wedi iddyn nhw gyfarfod ddydd Mawrth.
Mae'r ysgol eisoes wedi cael gwybod yn yr wythnosau diwethaf y bydd yn cael adeilad newydd gwerth £11m.
Penderfynu a fydd ysgol ddwyieithog ym Mhowys yn troi'n ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Byddai'r newid yn cael ei gyflwyno'n raddol fesul blwyddyn, gan ddechrau gyda'r dosbarth derbyn fis Medi 2027.
Ond roedd llywodraethwyr wedi dweud eu bod eisiau gweld y cynnig yn cael ei weithredu flwyddyn yn hwyrach na hynny.
Daw wedi i bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog roi caniatâd cynllunio yn gynharach yn y mis ar gyfer adeilad newydd gwerth £11m i'r ysgol.

Byddai gweithredu'r cynnig hefyd yn ddibynnol ar y broses statudol, sy'n cael ei ddilyn o god trefniadaeth ysgolion gan Lywodraeth Cymru.
Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r cyngor ddilyn gwahanol gamau cyn gallu gweithredu'r cynnig.
Bydd rhaid cynnal ymgynghoriad, gan gynnwys casglu barn disgyblion a chyflwyno adroddiad i gabinet y cyngor.
Yna, os ydy'r cabinet yn penderfynu parhau gyda'r cynnig, bydd yn rhaid cyhoeddi hysbysiad statudol - gyda 28 diwrnod i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r cynnig, ac adroddiad arall i'r cabinet o'r ymateb.
Ar ôl hynny, byddai modd i'r cyngor wneud penderfyniad terfynol ar y mater.
Gan fod cabinet Cyngor Powys wedi cymeradwyo'r argymhelliad i ddechrau'r broses statudol, mae disgwyl y bydd ymgynghori'n dechrau yn yr wythnosau nesaf.
'Datblygiad arloesol'
Yn y cyfarfod ddydd Mawrth dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, sy'n gyfrifol am addysg, fod achos busnes amlinellol eisoes wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ddarparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer adeilad yr ysgol newydd.
"Rydym yn gwneud dau beth ar unwaith yma, mae'n ddatblygiad arloesol."
Dywedodd fod y cynghorydd sy'n gyfrifol am yr ardal, Edwin Roderick, yn cefnogi'r newid, ond ei fod wedi codi'r mater o ohirio'r newid tan fis Medi 2028.
Esboniodd y Cynghorydd Gibson-Watt eu bod wedi penderfynu "gadael y dyddiad fel y mae am nawr", ar ôl trafod gyda swyddogion addysg.
Ychwanegodd y bydd digon o amser i edrych ar wahanol opsiynau yn ystod y broses, ond ei fod yn "deall y rhesymau pam ei fod yn cael ei ofyn".
Poeni am nifer y disgyblion
Ond fe wnaeth y Cynghorydd Raiff Devlin godi pryder am nifer y disgyblion sy'n cael ei ragweld ar gyfer yr ysgol yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae 114 o ddisgyblion yn yr ysgol - 63 yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg a 51 yn y Saesneg.
Roedd 126 o ddisgyblion yno ym mis Ionawr 2020, ac erbyn Ionawr 2030 mae disgwyl i'r niferoedd yma ostwng i 83.
"Mae gostyngiad o 43 disgybl dros gyfnod o 10 mlynedd yn sylweddol mewn ysgol o'r maint yma ac mae'n risg i'w dyfodol hirdymor," meddai'r Cynghorydd Devlin.
Ond ychwanegodd ei fod yn "hyderus y bydd symud i ysgol cyfrwng Cymraeg yn ei gwneud hi'n fwy deniadol ar gyfer y dyfodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.