60 mlynedd ers gig enwog y Beatles yng Nghaerdydd

Y Beatles gefn llwyfan yn Theatr y Capitol yn y brifddinas
- Cyhoeddwyd
Mae 12 Rhagfyr yn nodi 60 mlynedd ers gig y Beatles yn Theatr y Capitol yng Nghaerdydd yn 1965.
Mae'r perfformiad yn un adnabyddus yn hanes y Beatles, gan mai dyma oedd y tro olaf i'r Fab Four chwarae'n fyw ar daith yn y Deyrnas Unedig.
Wnaeth y band berfformio yng Nghaerdydd ar ddau achlysur arall – ar 27 Mai, 1963 a 7 Tachwedd, 1964.

Tocyn o'r noson
Roedd y Beatles ar daith ar gyfer eu chweched halbwm, Rubber Soul. Dechreuodd y daith yn Glasgow ar 3 Rhagfyr, ac fe berfformion nhw ar saith noson arall cyn cyrraedd Caerdydd ar noson olaf y daith ar 12 Rhagfyr.
Fel oedd y drefn ar deithiau roc yn y cyfnod hynny, wnaeth y Beatles berfformio ddwywaith ar y noson – gydag un gig am 17:30 a pherfformiad arall am 20:30. Chwaraeodd y Beatles set o ryw hanner awr yn y ddau berfformiad, gyda llu o fandiau eraill yn eu cefnogi – gan gynnwys y Moody Blues.
Roedd oddeutu 2,500 o ffans yn gwylio'r ddau berfformiad.
Yn ystod ail gig y noswaith honno, rhuthrodd un bachgen brwdfrydig ymlaen i'r llwyfan a gafael yn Paul McCartney a George Harrison.
Bu'n rhaid i ddynion diogelwch ddod ymlaen i'r llwyfan a'i hebrwng allan o'r theatr.
Ar ôl perfformiad olaf y noson, neidiodd y Beatles i mewn i'w limwsîn a theithio yn ôl i Lundain, lle wnaethon nhw fynychu parti Nadolig yng nghlwb nos enwog y Scotch of St James.
Profiad 'afreal'
Un oedd yno ar y noson honno yn Theatr y Capitol, 60 mlynedd yn ôl yn union, oedd Richard Fox o Gaerffili, oedd yn 17 oed ar y pryd.
"Erbyn 1965, roedd y Beatles just mor enfawr," meddai. "Roedden nhw fel duwiau.
"Roeddwn i'n agos at flaen y llwyfan, a dwi'n cofio meddwl – 'does yna ddim byd rhyngddo fi a'r Beatles reit nawr'. Doeddwn i ddim yn gwylio nhw ar sgrîn deledu roeddwn i yn yr un 'stafell â nhw!
"Roedd yr holl beth yn hollol afreal, i ddweud y gwir."

"Wrth edrych yn ôl, gallaf ddweud yn hawdd mai dyma oedd y peth mwyaf cyffrous dwi erioed wedi profi yn fy mywyd.
"Dwi'n cofio wnaethon nhw ddechrau'r gig gydag I Feel Fine. A dwi'n cofio John Lennon yn symud i ochr y llwyfan wedyn i chwarae'r organ ar gwpl o ganeuon fel We Can Work It Out, oedd yn eithaf anarferol.
"Roedd yr atmosphere yn wyllt – wrth gwrs, roedd lot o sgrechian. Ond doedd y sgrechian a'r gweiddi ddim yn hollol fyddarol, fel mae nifer yn honni weithiau.
"Roeddwn i'n gallu clywed y Beatles yn dda, ac roedden nhw'n swnio'n anhygoel. Dwi hefyd yn cofio gweld y Moody Blues yn chwarae just cyn y Beatles, ac roedden nhw'n wych!
"Dwi'n cofio'r goleuadau'n mynd i lawr, a Denny Laine yn canu Go Now gyda spotlight jysd arno fe - gwefreiddiol!"
'Blino gyda chwarae'n fyw'
Erbyn eu gig yng Nghaerdydd ar eu taith olaf yn y Deyrnas Unedig, roedd y Beatles wedi blino ar chwarae'n fyw. Fel yr esbonia Euron Griffith, awdur ac arbenigydd ar hanes y Beatles:
"Yn 1965, roedd recordiadau'r Beatles yn dechrau mynd yn fwy soffistigedig.
"Erbyn iddyn nhw berfformio yng Nghaerdydd, roedden nhw wedi hen flino gyda gigio.
"Eu prif ddiddordeb oedd beth roedden nhw'n gallu cyflawni yn y stiwdio.
"Roedd y dechnoleg yn symud yn ei flaen, a'r Beatles yn dod i ddallt mwy am sut roedd stiwdio yn gweithio.
"Ro'n nhw'n dechrau arbrofi fwy, yn enwedig ar albwm fel Rubber Soul."

Rhyddhawyd Rubber Soul, chweched albwm y Beatles, ar 3 Rhagfyr 1965 – ychydig dros wythnos cyn y perfformiad yng Nghaerdydd.
Roedd yn llwyddiant mawr gyda'r beirniaid cerddorol, gyda nifer yn datgan mai hwn oedd eu halbwm gorau hyd yn hyn.
Roedd yr albwm yn cynnwys caneuon fel Norwegian Wood (This Bird Has Flown) ac In My Life - traciau oedd yn dangos y Beatles yn arbrofi gydag offeryniaeth a threfniant cerddorol mwy uchelgeisiol.

Y Beatles yn chwarae yn Blackpool yn 1965
Meddai Euron Griffith: "Y broblem oedd – doedden nhw ddim yn gallu ail-greu lot o'r caneuon yma'n fyw achos doedd y dechnoleg ar y pryd ddim yn ddigon da.
"Felly ro'n nhw'n chwarae'r un hen ganeuon – ac roedden nhw'n ffeindio hynny'n reit frustrating.
"Roedden nhw'n ffed-yp efo'r holl sgrechian hefyd.
"Roedden nhw wedi colli diddordeb yn y grefft o fod yn gerddorion byw."
Felly, yn dilyn y gig yng Nghaerdydd, penderfynodd y Beatles stopio perfformio'n fyw ym Mhrydain.
Erbyn diwedd yr haf y flwyddyn ganlynol, roedd y Fab Four wedi rhoi'r gorau i gigio yn gyfan gwbl, er mwyn canolbwyntio ar recordio yn stiwdio EMI yn Abbey Road.

Y Beatles yn Candlestick Park, San Francisco yn Awst 1966 – eu gig swyddogol olaf erioed
Gigs eraill y Beatles yng Nghymru
Perfformiodd y Beatles nifer o weithiau eraill ar draws Cymru.
Y tro cyntaf iddyn nhw wneud oedd yn Y Rhyl ar 14 Gorffennaf 1962. Perfformion nhw yno eto yng Ngorffennaf 1963 – gan berfformio ddwy noson yn olynol.
Chwaraeon nhw ym Mhrestatyn ym mis Tachwedd 1962.
Roedd 1963 yn flwyddyn fawr i ffans Cymreig y Beatles – wrth iddyn nhw berfformio hefyd yn Yr Wyddgrug, Y Fenni, Caerdydd, yn ogystal â gwneud residency o chwe noson yn olynol yn sinema'r Odeon yn Llandudno ym mis Awst!
Yn y gynulleidfa ar gyfer un o'r perfformiadau hyn yn Llandudno oedd Mary Hopkin – oedd yn 13 oed ar y pryd. Mi fyddai hithau'n mynd ymlaen i gael gyrfa disglair ar label recordiau'r Beatles, Apple – â Paul McCartney'n cynhyrchu ei halbwm cyntaf Post Card yn 1968.

Y Beatles yn perfformio yn y Ritz Ballroom yn Y Rhyl yng Ngorffennaf 1963
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2022

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019

- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
