Jac Northfield: Dim Byd fel gwneud comedi

Jac Northfield yn actio yn blentyn ac yn oedolynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jac Northfield, fel Iesu Grist - efo Bafta Cymru am Dim Byd, ac fel Noa, yn y gyfres gyntaf iddo sgwennu, Gwagle

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

I rywun sy'n addoli comedi, roedd cael ei rôl gyntaf yn portreadu Iesu Grist yn blentyn yn y gyfres gomedi eiconig Dim Byd yn ddipyn o sgŵp i'r Jac Northfield ifanc.

A gyda'i gyfres gomedi ei hun bellach wedi ei rhyddhau, mae'r addewid cynnar hwnnw yn dwyn ffrwyth - ac mae'r diolch i'r ffaith ei fod wedi ei drwytho mewn hiwmor ers ei ddyddiau cynnar.

Tra bod bob math o weithgareddau - fel chwaraeon, cerddoriaeth a bwyd - yn gallu dod â theuluoedd at ei gilydd, comedi oedd un o'r pwysicaf i Jac wrth iddo gael ei fagu yng Nghaernarfon.

O Blackadder i Peter Kay

"You've Been Framed ydi atgofion cynta' fi o Dad, Mam a fi'n ista'n gwatshad teli - yn chwerthin yn uchel yn gwylio fo, a rewindio a gwylio fo eto," meddai.

"Ma'r ochrslapstico gomedi erioed 'di 'neud fi chwerthin, gweld rhywun yn disgyn - ond yn disgyn am hir.

"Wedyn dechra' gweld subtleties Harry Hill yn TV Burp a'i weld o'n dadansoddi petha, ac wedyn dechra' mwynhau pobl fel Peter Kay a Lee Evans.

"Dad oedd yn cynnig petha i fi ac wrth fi fynd yn hŷn roedd o'n trio dangos petha' fel Blackadder i fi ac o'n i'n chwerthin o hyd efo Rick Mayall achos oedd o'n llenwi'r stafell ac yn cicio pobl. Slapstic eto."

Jac Northfield mewn gwisg ffansi Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Arch Noa - mynd i barti efo Lwsi yn Gwagle

Yn ogystal â chael ei gyflwyno i raglenni comedi, roedd hiwmor ar yr aelwyd yn bwysig hefyd.

"O'n i'n edmygu Dad erioed efo comedi achos roedd o'n 'neud fi chwerthin o hyd," meddai.

"Mae o jest yn sŵn pur, s'na byth distawrwydd yn tŷ efo fo. Wedyn mae comedi Mam mor wahanol i Dad, a'r hyna' o'n i'n mynd o'n i'n dechra deall subtleties hiwmor hi - a comedy timing hi."

Reservoir GogsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd/Bafta
Disgrifiad o’r llun,

Reservoir Gogs - tad Jac, Rhys Llwyd (ail o'r chwith yn gwisgo sbectol) efo Barry 'Archie' Jones a gweddill tîm Dim Byd ar ôl ennill BAFTA Cymru yn 2015

Cymryd rhan yn Sioe Nadolig ei ysgol gynradd wnaeth arwain at ei rôl gyntaf, sy'n addas iawn o ystyried y cymeriad fyddai o'n ei bortreadu.

Yno'n gwylio ei blant ei hun yn y sioe oedd Barry 'Archie' Jones. Mae'r cynhyrchydd teledu, sydd hefyd yn adnabyddus fel cerddor dros y blynyddoedd efo Celt a Bryn Fôn, yn gyfrifol am rai o gyfresi comedi mwyaf poblogaidd y Gymraeg, gan gynnwys Cnex a Rybish.

Ar y pryd roedd o'n gweithio ar ei gyfres ddiweddara' efo tad Jac, ac ar ôl gweld y Sioe 'Dolig fe ofynnodd iddo a fyddai'r hogyn naw oed awydd bod mewn sgets fer. Roedd y ffaith bod ganddo wallt hir yn help mawr i gael ei gastio.

Jac Northfield mewn sgets pan yn blentynFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jac Northfield yn blentyn yn sgets Duw a Ŵyr ar Dim Byd

A dyna ddechrau ei rôl ar Dim Byd yn actio plentyn ifanc oedd yn byw gyda'i dad. Yn y sgetsys roedd tensiynau arferol bob dydd yn dod i'r wyneb wrth i'r mab gysgu'n hwyr, chwarae gormod o gemau cyfrifiadurol, a gofyn cwestiynau di-ri - fel "pam nes 'di neud siarcod?" Y tad oedd Duw a Jac oedd yn portreadu'r Iesu Grist ifanc.

Roedd y cyfan yn brofiad ac yn help pan ddechreuodd o yn yr ysgol uwchradd leol, Ysgol Syr Hugh Owen.

Meddai Jac: "Dwi'm yn cofio lle oedda ni'n ffilmio ond dwi'n cofio ni'n dreifio i rwla ac roedda ni mewn stafell gwyn a'r walia'n slopio, dim hard angles, a Dave - HR Cwmni Da - oedd yn actio Duw.

"Pan nesh i ddechra'n Syr Hugh o'n i'n cael lot o'r plant hŷn yn deud 'o chdi ydi lesu Grist de'. Oedd o'n eitha' cŵl ac o'n i'n licio'r teimlad yna."

Aeth Jac yn ei flaen i gael rhan Gareth Walters yn Rownd a Rownd cyn iddo gymryd cam anarferol i rywun oedd eisiau actio a chreu comedi - astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai: "Roedd pawb o gwmpas fi'n deud 'eh? Pam cemeg? Perfformio ti 'di bod isio neud.' Ac o'n i'n deud 'na, na, dwi'm yn perfformio dim mwy'."

Y nhw oedd yn iawn.

Ond er iddo roi'r gorau i'r cemeg yn ei ail flwyddyn, doedd o ddim yn wastraff amser - yn hytrach roedd yn hwb i'w yrfa.

Tra'n fyfyriwr ifanc fe wnaeth o gyfarfod un o'i ffrindiau pennaf bellach, Gwion Ifan, oedd yn hoffi yr un math o gomedi.

Ac fe wnaeth profiadau'r ddau yn ystod y cyfnod ysbrydoli'r gyfres newydd Gwagle.

Jac a Gwion yn sgwennuFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tydi creu hiwmor ddim bob tro'n hwyl... Jac a Gwion yn ceisio mynd i'r afael â sgript Gwagle

Roedd Jac a Gwion eisioes wedi bod yn gwneud eitemau byr doniol i Hansh S4C dros y dair blynedd diwethaf.

Daeth cyfle gan Boom Cymru i ddatblygu cyfres gomedi i S4C - a diolch i'w cyfnod nhw yn y coleg, roedden nhw gam ar y blaen.

"Oedd gen i syniad in mind yn barod ers dechra'r ail flwyddyn yn y brifysgol, sef y criw yma o gymeriadau o'n i 'di greu sef Noa, Llew a Lwsi.

"Roedd jest yr holl bobl o gwmpas ni ar y pryd yn deud y leins yma - ac o'n i'n meddwl 'ma hwnna'n hilarious dwi'n mynd i ddwyn hwnna'."

Felly fe wnaeth Jac a Gwion ddechrau sgwennu'r sgript ar gyfer chwe rhaglen, ac efo help y cwmni cynhyrchu, ei throi'n gyfres Gwagle, gyda'r ddau yn actio ynddi.

"Oedd o'n brofiad absolutely amazing ac roedda ni'n lwcus bod ni efo criw profiadol iawn," meddai Jac.

"Actio o'n i 'di bod isho 'neud. Dwi ddim rili isio bod o flaen camera fel fi fy hun - dwi'n licio'r escape o fod yn rhywun arall."

Actorion Gwagle Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwagle yn dilyn helyntion criw o bedwar sy'n rhannu tŷ - Lwsi, Noa, Llew a Bleddyn (Gwenno Fôn, Jac Northfield, Gwion Ifan ac Aron Cynan)

Ei uchelgais yn y pendraw ydi gweithio tu ôl i'r camera yn cyfarwyddo, ond yn y cyfamser mae o'n gorfod gwneud rhywbeth sy'n gyfarwydd i'r cymeriadau yn Gwagle - dod o hyd i arian rhent.

Meddai: "Ar hyn o bryd dwi jest yn chwilio am waith cyson achos mae ffrilans yn gallu bod yn uffernol o anodd i dalu rhent bob mis.

"Ond dwi hefyd yn trio gweld os alla i sgwennu ail-gyfres o Gwagle rŵan… jest fel bod o yn y banc, felly os ydi'r galwad yn dod dwi'n gallu deud 'there you go!'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig