Y gomedïwraig Caryl Burke yn galw am fwy o fabis mewn sioeau stand-yp

Caryl BurkeFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
  • Cyhoeddwyd

Mae gwneud gig stand-yp gan fynd â'i babi bach gyda hi wedi codi hyder y gomedïwraig Caryl Burke.

'Nôl yn 2024 fe sgwrsiodd Cymru Fyw gyda'r gomedïwraig Caryl Burke am ei theimladau fel dynes sy'n gwneud stand-yp.

Ar pryd roedd Caryl wedi gwneud dros 100 o gigs standyp ers ei sioe gyntaf yn 2022.

Dywedodd bryd hynny mai ei sbardun ar gyfer ei gig stan-dyp oedd colli ei mam yn sydyn yn 2021. Yn ôl Caryl dyna wthiodd hi i wireddu ei breuddwyd a mynd amdani fel un "oedd wastad wedi bod isio trio neud standyp ond ei fod o'n scary".

Erbyn hyn, mae Caryl yn fam ei hun i Anni sy'n bedwar mis oed. Fe ddywedodd Caryl ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru y dylai fwy o gomedïwyr sy'n famau deimlo'n rhydd i wneud sioeau gyda'u babis yn eu côl.

'Codi hyder'

Roedd dychwelyd at wneud stand-yp ar ôl dod yn fam newydd yn brofiad oedd yn ei gwneud yn nerfus. Ond ar gwneud gig gomedi'n ddiweddar mewn sesiwn brynhawn gydag Anni yn ei chôl, byddai Caryl wrth ei bodd yn gweld mwy o sesiynau comedi'n cael eu trefnu'n y prynhawn i gomedïwyr fel hi sy'n famau i fabis ifanc.

Meddai: "Mi wnaeth mynd ag Anni efo fi, a'i chael hi gyda fi drwy gydol y gig roi bach o hyder i fi yn bendant achos Mehefin oedd y gig dwytha neshi cyn i Anni gyrraedd a dwi'n meddwl oedd o'n gap mor hir.

"Efo wbath fatha comedi 'dach chi isho 'neud o yn eitha aml rili neu 'da chi'n colli'r sgil felly oedd o'n braf 'neud wbath felly heb deimlo bo' fi'n colli amsar efo hi."

gigFfynhonnell y llun, Amy Eggeling
Disgrifiad o’r llun,

Caryl ac Anni yn ei gig diweddar

Roedd Caryl hefyd wrth ei bodd fod mamau a chynulleidfa ifanc yn y gynulleidfa hefyd:

"Roedd yna awyrgylch rili braf yna, digwydd bod oedd y babis i gyd wedi bihafio felly oedd hi'n gig eithaf uneventful diolch byth.

"Oedd Anni mewn baby carrier ar fy ffrynt a 'nath hi gysgu drwyddo fo i gyd. Dwi'm yn gwybod os ydi hynna'n arwydd da."

Oedd yna unrhyw ymateb gan Anni i jocs ei mam?

"'Nath hi ddim deffro i un o jôcs fi felly yn amlwg doedd yna ddim gymaint â hynna o chwerthin," meddai Caryl gyda'i thafod yn ei boch, "ond oedd o jest yn rwbath braf i 'neud achos ar ôl i chi gael babi mae o'n gallu teimlo ychydig bach yn unig."

Caryl ac AnniFfynhonnell y llun, Caryl Burke

Unigrwydd mam newydd

"Unwaith mae'r babi yn cyrraedd rydach chi yn blaenoriaethu nhw. Yr unig beth dwi'n 'neud pan dwin gadal y tŷ bellach ydi mynd i grwpiau babis neu mynd â hi at y doctor neu ryw betha' felly, felly oedd o'n rili braf cael neud 'wbath i fi mewn ffordd ond bod hi yna efo fi."

Ac mae dod yn fam hefyd wedi rhoi stôr o ddeunydd newydd i Caryl fel comedïwraig:

"Oedd set fi am fod yn fam newydd a jôcs am fod yn rhiant a ballu. O'n i mewn grŵp stori a chân jest cyn 'neud y gig ac o'n i'n deud wrth rai o'r mamau eraill be' o'n i'n mynd i wneud ac oeddan nhw yn ei weld o'n bechod bod yna ddim rhagor o sesiynau comedi yn ystod y dydd yn lleol.

"Ond roedd yn braf hefyd cael comedïwyr sydd ddim yn rhieni i roi set hefyd, felly oedd yna gymysgedd i bawb."

Gwrandewch ar Caryl yn sgwrsio gydag Aled Hughes i glywed rhagor:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig