Lluniau: Edrych yn ôl ar yrfa Terry Yorath
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed. Dyma gipolwg ar ei yrfa mewn lluniau.

Terry Yorath yng nghrys Leeds United yn 1970 - dechreuodd ei gyfnod gyda'r tîm fel prentis 17 oed yn 1967

Fel eilydd i Leeds United, roedd Yorath yn rheolaidd yn gwisgo crys rhif 12

Un o'i grysau rhyngwladol - rhif 7 a wisgodd yn erbyn Lloegr mewn gêm Pencampwriaeth Pêl-droed Prydain yng Nghaerdydd ym mis Mai 1972. Y sgôr oedd Cymru 0-3 Lloegr

Cael cerdyn melyn mewn gêm rhwng Leeds United a West Ham ar 14 Ebrill, 1973. Roedd Yorath yn enwog am daclo caled yng nghanol cae

Yorath (blaen, chwith) a gweddill tîm Leeds United ar gyfer tymor 1973-74

Yn neidio am y bêl mewn gêm Leeds United v West Ham yn 1974

Yorath (ar y dde) yn chwarae dros Coventry City yn erbyn ei hen dîm, Leeds United yn 1978

Terry gyda'i deulu- ei wraig Christine, a'u plant Gabby, Louise, Daniel a Jordan.
Yn drist iawn bu farw Daniel yn 15 oed.

Enillodd Yorath 59 o gapiau dros ei wlad - yma mae'n canu'r anthem cyn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 1980

Chwaraeodd mewn gêm yn erbyn Lloegr ar y Cae Ras yn Wrexham ym mis Mai 1980, gyda Chymru'n ennill 4-1

Fel rheolwr Bradford City yn 1989 - roedd wedi chwarae i'r tîm ddechrau'r 80au

Cafodd Terry Yorath ei benodi'n reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru yn 1988

Yorath yn rheoli tîm Cymru ac yma'n cael gair â Dean Saunders ac Ian Rush cyn gêm ragbrofol Cwpan y Byd, yn erbyn Romania yng Nghaerdydd, mis Tachwedd 1993.

Daw Yorath o ardal Grangetown o Gaerdydd, ac yn 1994-95 fe gafodd yr anhrhydedd o reoli clwb ei ddinas enedigol

Yn rheoli Sheffield Wednesday mewn gêm yn erbyn Ipswich yn 2002

Terry yn mewn gêm rhwng Huddersfield Town a Tranmere Rovers yn 2005 - roedd yn is-reolwr ar Huddersfield ar y pryd

Terry gyda'i ferch, Gabby, yng Nghaerdydd yn 2012
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2025
