Cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed

Terry YorathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Yorath 59 o gemau dros ei wlad

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Fe chwaraeodd Yorath 59 gwaith i Gymru yn y 1960au a'r 70au a bu'n rheolwr ar y tîm cenedlaethol rhwng 1989 a 1994.

Fe dreuliodd mwyafrif ei yrfa fel chwaraewr gyda Leeds United cyn symud i Coventry City, Tottenham Hotspur, Vancouver Whitecaps, Bradford City ac Abertawe.

Dywedodd plant Yorath mewn datganiad ei fod yn "arwr yn y byd pêl-droed, ond dad oedd o i ni; dyn tawel, caredig ac addfwyn".

Roedd Yorath yn dad i bedwar o blant - Daniel, Louise, Jordan a'r cyflwynydd chwaraeon Gabby Logan.

Yn 1992 bu farw Daniel yn 15 oed tra'n chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda'i dad o ganlyniad i gyflwr oedd yn effeithio ar ei galon.

"Mae ein calonnau wedi torri, ond mae'n gwybod y bydd nawr yn gallu bod gyda'n brawd Daniel unwaith eto yn rhoi cysur i ni," meddai ei blant mewn datganiad.

Roedd Gabby Logan yn cyflwyno Match of the Day nos Iau ond bu'n rhaid iddi adael oherwydd yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel "argyfwng teuluol".

Terry YorathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Yorath mwyafrif ei yrfa fel chwaraewr gyda Leeds United - gan sgorio 11 gôl mewn 199 o gemau

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, roedd Yorath yn chwaraewr canol cae caled ac yn arweinydd naturiol ar y cae.

Fe arwyddodd gytundeb ieuenctid gyda Leeds yn 1967 ac roedd yn rhan o garfan enwog Don Revie oedd yn cynnwys sêr fel Billy Bremner a Johnny Giles.

Bu'n rhan allweddol o'r tîm pan enillodd Leeds yr Adran Gyntaf yn 1973-74, ac fe chwaraeodd yn y golled i Bayern Munich yn rownd derfynol Cwpan Ewrop (Cynghrair y Pencampwyr heddiw) yn 1975.

Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop.

Fe symudodd Yorath i Coventry City yn 1976 ac roedd yn gapten ar y Sky Blues am dri thymor cyn ymuno â Tottenham Hotspur yn 1979.

Wedi cyfnod byr gyda Vancouver Whitecaps fe ymunodd â Bradford City fel chwaraewr-hyfforddwr cyn gorffen ei yrfa fel chwaraewr gydag Abertawe.

Terry YorathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Terry Yorath yn rheolwr ar Gymru am 41 o gemau - oedd yn cynnwys buddugoliaethau yn erbyn Yr Eidal a Brasil

Yn ystod ei yrfa fel rheolwr fe dreuliodd Yorath gyfnodau gyda Chymru, Abertawe, Bradfod, Caerdydd, Lebanon, Sheffield Wednesday a Margate.

Fe enillodd ddyrchafiad o'r Bedwaredd Adran (Adran Dau heddiw) gyda'r Elyrch yn 1988, a daeth yn agos at arwain Cymru i un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol.

Cafodd ei benodi yn rheolwr rhan amser ar Gymru am gyfnod - gan gyfuno hynny gyda'i gyfrifoldebau yn Bradford ac Abertawe.

Wedi derbyn y swydd yn llawn amser, daeth Yorath a Chymru o fewn trwch blewyn i gyrraedd Cwpan y Byd UDA yn 1994.

Un fuddugoliaeth oedd ei hangen ar Gymru i gyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958 ond fe gollon nhw o 2-1 gartref yn erbyn Romania - gyda Paul Bodin yn methu'r gic o'r smotyn enwog.

Dyma oedd gêm olaf Yorath fel rheolwr dros ei wlad.

'Un o gapteiniaid gorau Cymru'

Dywedodd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, fod Terry Yorath "yn crynhoi agwedd a delwedd pêl-droed Cymru o'r 70au ymlaen".

"Roedd ei gyfraniad i bêl-droed Cymru yn aruthrol, yn enwedig yn y 70au, 80au a'r 90au cynnar," meddai ar Dros Ginio.

"I genhedlaeth fel fi, Terry oedd yn crynhoi'r tîm cenedlaethol yn y cyfnod hwnnw.

"Y gwallt blonde hir, torchi llewys, arweinydd cryf a chadarn. Yn rhoi popeth, ac yn angerddol dros Gymru.

"Ar y cae, roedd yn gapten penigamp, yn arwain chwaraewyr fel Dai Davies, Joey Jones, John Mahoney, Brian Flynn a James John Toshack... roedd y chwaraewyr hyn yn rai o'r gorau erioed i gynrychioli Cymru.

"Fel capten, arweiniodd y brotest enwog yn Wembley yn 1977 wrth i Hen Wlad Fy Nhadau beidio cael ei chanu cyn y gêm.

"Wedyn, fel rheolwr, roedd yn arwain Cymru mewn cyfnod arbennig. Er nad oedd y tîm wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, roedd yn anodd ei guro ac roedd y gemau'n creu atgofion cofiadwy.

"Heb os nac oni bai, un o gapteiniaid gorau Cymru oedd Terry Yorath. Ei gyfraniad fel rheolwr hefyd oedd yn hynod o gyffrous.

"Os oes rhywun sydd yn crynhoi pêl-droed Cymru o'r 70au ymlaen, o ran agwedd a delwedd, Terry oedd y person hwnnw."

Terry Yorath yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop - a hynny gyda Leeds United yn erbyn Bayern Munich yn 1975

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Malcolm Allen - a chwaraeodd dros Gymru yn ystod cyfnod Yorath fel rheolwr - fod ganddo atgofion melys o'r cyfnod.

"Mae hi'n drist cael newyddion fel hyn. Mi oedd Terry Yorath yn bresenoldeb oedd yn wahanol i unrhyw reolwr arall nes i gael," meddai.

"Nes i gwyno mwy efo fo, nes i gnocio ar ei ddrws mwy pan doeddwn i ddim yn chwarae, a'r unig beth oedd ei ateb oedd fod gen i Ian Rush a Mark Hughes o fy mlaen i a bod rhaid i fi gwffio yn galed i gael fy lle. Felly, dyna be wnes i!

"Roedd o'n berson pobl. Doedd o'm yn dweud llawer, doedd o ddim yn gweiddi, Peter Shreeves oedd yn 'neud hynny, ro'n nhw'n gweddu ei gilydd yn dda yn y 'stafell newid.

"Ac mi oedden ni mor agos yn y gêm yn erbyn Romania - honno oedd y gêm ryngwladol olaf i ni'n dau."

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn cydymdeimlo'n arw gyda theulu a ffrindiau Terry Yorath.

Dywedodd Leeds United mewn datganiad eu bod wedi eu "llorio" gan y newyddion: "Mae ein meddyliau gyda theulu Terry, ei ffrindiau a'i gyn gyd-chwaraewyr yn ystod y cyfnod anodd yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.